Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Neb yn gwrando' ar anghenion dioddefwr trais rhyw
Mae dioddefwr camdriniaeth rhyw wedi dweud nad yw ei hanghenion yn cael eu blaenoriaethu wedi i'w cham-driniwr gael dychwelyd i'w hardal leol.
Cafodd Leah Walker ei cham-drin yn rhywiol o saith oed hyd at fod yn oedolyn.
Cafodd ei cham-driniwr ei garcharu yn y pen draw yn 2017 am 25 achos o ymosodiadau anweddus a rhywiol.
Dywedodd Ms Walker, sydd bellach yn 32, ei bod o'r diwedd yn dechrau gwella pan gafodd ei cham-driniwr ei ryddhau yn 么l i'r gymuned ar sail ei iechyd.
Ar 么l treulio hanner ei ddedfryd chwe blynedd yn y carchar, cafodd ei ryddhau ar drwydded a oedd yn caniat谩u iddo ddychwelyd i'r ardal ble mae Ms Walker yn byw oherwydd ei fod ar "ddiwedd oes".
Dywedwyd wrth Ms Walker na fyddai ei cham-driniwr yn gadael ei d欧 gan ei fod mor wael, ond yna daeth ar ei draws mewn archfarchnad.
Mae'r Gwasanaeth Prawf wedi ymddiheuro, gan ddweud bod camau wedi eu cymryd "ar unwaith" i'w atal rhag digwydd eto.
'Neb yn gwrando'
"Roeddwn yn dawel fy meddwl na fyddwn yn gweld fy ngham-driniwr yn 么l yn y gymuned, ond yna fe welais e yn Sainsbury's ac fe ysgwydodd fi at fy nghraidd," meddai.
"Rwy'n teimlo fel oeddwn i pan yn blentyn a doedd neb yn gwrando arna i. Cafodd ei frwsio o dan y carped a dyma sut rwy'n teimlo eto.
"Dwi wedi lleisio fy mhryderon a rhoi gwybod iddyn nhw nad ydw i yn hapus o gwbl na'n gyffyrddus ag ef yn bod yno, ac mi wnaethon nhw dawelu fy meddwl drwy ddweud na fyddwn yn ei weld - ond mi nes i."
Esboniodd Ms Walker bod PTSD, pryder, ac iselder yn medru achosi 么l-fflachiadau.
"Tra roedd yn y carchar, rydych chi'n dechrau adeiladu eich hun eto. Nes i ddweud wrtha i fy hun: 'Rwy'n berson cryfach. Mi es i'r llys. Mi ges i gyfiawnder,' ac fe roedd fy mywyd ar drac gwell.
"Ond yna rydych chi'n cael eich taro yn 么l ac mae popeth fel petai'n datod.
"Er mwyn i mi allu gwella yn y ffordd y dylwn i - a'r ffordd rydw i'n haeddu ei wneud - rwy'n teimlo na ddylai ef fod yn yr ardal lle ydw i. Rwy'n teimlo y dylid gwrando ar fy anghenion."
'Digon dewr i godi fy llais'
Pan yn saith oed, fe wnaeth Ms Walker ddatgelu beth oedd yn digwydd iddi ond ni chymerwyd hi o ddifri'.
Dim ond blynyddoedd yn ddiweddarach y rhoddodd y mudiad #MeToo yr hyder iddi godi ei llais unwaith eto.
"Dechreuais feddwl, 'Iawn, dwi ddim ar ben fy hun. Mae hyn wedi digwydd i ferched eraill ac maen nhw'n ymddangos fel eu bod nhw'n ymdopi, felly efallai y galla i fod yn ddigon dewr i godi fy llais hefyd'.
"Fe wnaeth gweld pethau yn y cyfryngau fy helpu i ddod i fy mhenderfyniad i fynd ag e i'r llys ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig bod pobl eraill sy'n mynd trwy'r un peth yn gweld wyneb allan yna sydd wedi bod drwyddo.
"Ac er fy mod yn dal i ddioddef, mae yna olau ar ddiwedd y twnnel."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Prawf: "Rydym yn ymddiheuro am y pryder a achoswyd i Ms Walker, ac rydyn ni wedi gweithredu ar unwaith.
"Mae carcharorion sydd wedi eu rhyddhau dan oruchwyliaeth yn destun amodau llym ac os ydynt yn peri risg cynyddol ni fyddwn yn oedi cyn eu dychwelyd i'r carchar."