Coedwig Cwmcarn i ailagor ar 么l chwe blynedd

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r goedwig yn lle poblogaidd i seiclwyr

Bydd atyniad Fforest Cwmcarn yn Sir Caerffili yn ailagor ddydd Llun ar 么l bod ar gau i ymwelwyr am chwe blynedd.

Cafodd y safle ei gau er mwyn torri miloedd o goed llarwydd heintiedig.

Mae contractwyr yn torri'r coed er mwyn atal lledaeniad clefyd ffwngaidd Phytohthora Ramorum.

Mae tua 拢2m wedi cael ei wario yn paratoi'r safle ar gyfer ei ailagor.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r goedwig wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol er mwyn creu atyniad "mae pob cynulleidfa'n gallu mwynhau", yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerffili.

Mae'n cynnwys nifer o lwybrau ar gyfer pob gallu, ardaloedd picnic newydd, podiau glampio, tair ardal chwarae newydd, a chaban pren fydd yn ganolfan addysgu.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Caerffili

Disgrifiad o'r llun, Mae caban pren newydd wedi cael ei adeiladu yn y safle

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi wynebu "argyfwng amgylcheddol a oedd yn heriol iawn i ddelio gyda, ond roedd hefyd goblygiadau cost enfawr ac roedd yn rhaid i ni symud yn gyflym iawn, iawn".

"Mae'r safle yma wedi cael ei ddelio gyda, ond mae yna nifer mwy o safleoedd yng Nghymru ac yn y DU ble rydyn ni'n ymladd y clefyd ac mae'n rhaid lladd a thorri coed llarwydd mewn niferoedd mawr," meddai David Letellier o Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd Phytophthora Ramorum ei ddarganfod yn gyntaf yng Nghwm Afan, Castell-nedd Port Talbot, ond mae coed wedi cael eu torri ar draws Cymru, gan gynnwys ym Mwlch Nant-yr-Arian ger Aberystwyth yng Ngheredigion.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Geminie Drinkwater mae'r prosiect yn bwysig iawn ar 么l y cyfnod clo

Dywedodd Geminie Drinkwater, rheolwr prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yr ailagor hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y cyfyngiadau a gafodd eu gweithredu yn ystod y pandemig.

Dywedodd: "Mae cael rhywbeth ar y stepen drws y mae pobl yn gallu mwynhau a buddio'n fawr o yn mynd i fod yn hynod o bwysig wrth i ni laesu'r cyfnod clo yn fwy ac yn fwy dros fisoedd yr haf."

Dywedodd y cynghorydd Philippa Marsden, arweinydd cyngor Caerffili, ei fod yn "ffantastig" i "ddod 芒'r atyniad gwych yma n么l mewn i ddefnydd y cyhoedd".

Cytunodd aelodau cabinet Cyngor Caerffili fis diwethaf ar drefniad cydweithredol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r goedwig.