大象传媒

San Steffan yn 'ymddwyn mewn ffordd ymosodol'

  • Cyhoeddwyd
senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford am weld y Senedd yng Nghaerdydd yn cael mwy o bwerau

Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo llywodraeth Boris Johnson o "ymddwyn mewn ffordd ymosodol unochrog" drwy anwybyddu Llywodraeth a Senedd Cymru.

Mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi adroddiad ar ddiwygio'r undeb "bregus" rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn yr adroddiad mae'n galw am "bartneriaeth" rhwng y llywodraethau - ac yn dweud bod y berthynas rhyngddynt wedi "dirywio" yn ddiweddar.

Dywedodd Llywodraeth Prydain fod canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol yn ystod y pandemig yn "ddiangen".

'Mandadau democrataidd'

Mae angen newidiadau cyfansoddiadol "ar frys", meddai Mr Drakeford, oherwydd "ni fu'r Undeb erioed mor fregus 芒 hyn".

"Os bydd materion yn parhau yn yr un modd ag y maent ar hyn o bryd, dim ond cryfhau a wna'r achos dros ymwahanu yn y DU," meddai.

Ychwanegodd: "Yn rhy aml, rydym yn gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol, gan honni ei bod yn gweithredu ar ran y DU gyfan, ond heb ystyried statws y gwahanol wledydd a mandadau democrataidd eu llywodraeth."

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai San Steffan ganiat谩u i Gymru a'r Alban gynnal refferenda ar annibyniaeth os yw eu seneddau datganoledig am wneud hynny, ond mae'n dweud y byddai'n "afresymol" i bleidleisiau o'r fath gael eu cynnal yn rhy aml.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford yn cyhuddo llywodraeth Boris Johnson o 'weithredu mewn ffordd unochrog ymosodol'

Mae Mr Drakeford, sy'n gwrthwynebu annibyniaeth, eisiau mwy o bwerau i'r Senedd, gan gynnwys pwerau dros y system gyfiawnder.

Dylai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon barhau i gael eu cynrychioli yn Nh欧'r Cyffredin, meddai'r adroddiad, ond fe ddylai aelodau T欧'r Arglwyddi hefyd gynrychioli holl wledydd Prydain.

Mae hefyd yn dweud y dylai cyllid ar gyfer y gwledydd datganoledig fod ar sail eu hanghenion - ac y dylai llywodraeth Prydain gael caniat芒d gan Gaerdydd er mwyn talu am rai pethau yng Nghymru.

Mae'n dilyn ffrae dros ddisodli arian Ewropeaidd, gyda San Steffan yn cael pwerau newydd i ariannu pethau sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.

'Cynllun diangen'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Prydain fod pobl eisiau i'r ddwy weinyddiaeth weithio gyda'i gilydd "ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio'n llawn ar wella o'r heriau mae'r pandemig wedi'u creu".

"Mae dewis blaenoriaethu materion cyfansoddiadol yng nghanol pandemig yn wrthdyniad anghyfrifol a diangen," meddai.

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig, mae cynllun Mr Drakeford i ddiwygio'r undeb yn "annymunol a diangen".

Dywedodd arweinydd Tor茂aidd y Senedd, Andrew RT Davies: "A ninnau ddim ond wythnosau wedi etholiad y Senedd, fydd nifer o bobl ar draws Cymru yn ei chael hi'n anodd deall mai dyma yw blaenoriaeth y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd."

Yn 么l Plaid Cymru mae agwedd Llafur tuag at yr undeb i'w weld yn "sownd yn y gorffennol".

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Dyw'r DG ddim ond yn fregus - mae'n methu'n llwyr o ran darparu cyfiawnder economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw trwy roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, yn rhydd o anhrefn ac anghymhwysedd San Steffan."