Ateb y Galw: Y cyflwynydd Mirain Iwerydd
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Mari Elen Jones yr wythnos diwethaf.
Mae Mirain yn dod o Grymych ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn. Mae'n byw yn Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y brifysgol yno. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau gwn茂o, cymdeithasu a theithio.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod ar wyliau yn Sbaen pan o'n i tua 6 oed. Dwi'n cofio defnyddio salad spinner, a ffeindio'r profiad o droelli salad yn gwbl anhygoel. Dwi wir ddim yn gwybod pam nes i ffeindio salad mewn bowlen mor ddiddorol na chwaith pam mae 'di sticio yn y cof.
Wrth gofio, mae'n 'neud i fi rili eisiau prynu un.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mynyddodd y Preselau. S'dim unman yn debyg i gytre. Ma' 'na rywbeth mor heddychlon a hudolus am grwydro'r mynyddoedd yna. A ma' nhw'n hollol biwtiffwl, ond yn hunllef i gerdded ar 么l iddi fwrw, ac yng Nghrymych ma' hynny'n fwy aml na pheidio.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun o fi a'n efaill Cellan. Ni ddim yn rili gweld ein gilydd lot ers i fi fynd i'r brifysgol, a ti'n mynd o fod gyda rhywun drwy'r amser, i byth gweld nhw (yn enwedig gyda chyfyngiadau Covid dros y flwyddyn ddwethaf).
Ti'n sylweddoli faint ti'n gweld ishe mynd ar nerfau rhywun ti 'di bod gyda ers bod yn y groth (dwi'n cymryd pob mantais dwi'n gallu o'r 11 munud o wahaniaeth mewn oedran sydd, fi yw'r hyna' allan o'r p芒r).
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Si诺r o fod un o bart茂on blwyddyn newydd un flwyddyn gyda'n ffrindiau ysgol i. Ma' nhw i gyd yn boncyrs ond y bobl fwya' hyfryd dwi erioed 'di cwrdd 芒.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Lliwgar, eccentric, penderfynol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Pan nes i ennill y gadair mewn Eisteddfod ysgol ym mlwyddyn 11 o hyd yn 'neud i fi wenu, si诺r o fod un o'r troeon cyntaf i fi wir deimlo'n falch dros fy hunan, a wna i byth anghofio shwt 'nath hynny fi deimlo, a'r hwb rhoiodd e i fy hunan-hyder, er mwyn cyflawni gymaint o bethau eraill gyda fy mywyd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
S'dim byd yn dod yn syth i'r meddwl wrth geisio meddwl am rhywbeth, gan olygu bod yna si诺r o fod gormod o bethau dwi 'di neud sy'n codi cywilydd arna'i, mewn ffordd doniol ddo!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Heddiw, 'nath un o'n ffrindiau gorau gweud newyddion rili hyfryd i fi a 'nes i lefen allan o hapusrwydd drosti.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n ddibynnol ar gaffein i allu function-o fel person normal, ac wedi bod ers i fi fod tua 14, sydd yn rili wael.
Dwi hefyd newydd symud mewn i student house ar 么l gadael neuadd Pantycelyn, a dwi'n un o'r bobl digywilydd sydd yn dwyn tamaid o fwyd o gypyrddau pawb arall.. ond dwi hefyd yn neud y llestri o hyd, so sa' neb yn medru cwyno.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff bodlediad yw Mel, Mal a Jal, gan Melanie Owen, Mali Ann Rees a Jalissa Andrews. Y trio mwya' doniol dwi 'di clywed am sbel fach, dwi rili ishe mynd ar nosweth allan gyda'r tair, ma' nhw'n hollol brilliant.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Neb rhy diddorol rili. Licen i gwrdd 芒 fi ond fersiwn o Mirain mewn 10 mlynedd, achos dwi wir ddim yn gwybod be' dwi am wneud gyda'n dyfodol, so byse bach o insight yn gr锚t, aha.. (dwi'n hanner jocan..)
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Nes i sugno fy mys bawd tan i fi fod yn 16 oed, ond ma' dannedd fi dal i fod yn naturiol yn rili syth o feddwl hynny (dwi'n meddwl bo' fi jest 'di bod yn rili lwcus ddo!).
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Treulio'r diwrnod gyda'r bobl agosach i fi, a falle dwyn car Tesla... achos bo' fi rili, rili eisiau dreifio un (gan gofio bo' fi heb basio mhrawf gyrru eto..). Mae'n swnio'n ofnadwy o sad, ond g么l bywyd (ymysg pethau eraill wrth gwrs..) fi 'di prynu Tesla i fy hunan.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Ddim gorfod llenwi ac arwyddo ffurflenni Covid cyn ffilmio, neu gorfod poeni am drosglwyddo unrhyw beth i unrhyw un.
Dwi yn edrych ymlaen at gael mwy o human contact eto, ond gawn ni weld am ba mor hir ma hynna'n para.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Sai'n meddwl bydden i am fod yn berson, licen i fod yn gath neu'n wylan am ddiwrnod, jest i brofi sut deimlad yw hi i beidio becso taten am unrhyw beth a bod 芒'r un lefel o hyder ac audacity ag un o'r anifeiliaid yna.
Pwy sy'n Ateb y Galw wythnos nesaf?
Leah Gaffey.