'Angen nodi dyddiad dod 芒'r cyfyngiadau i ben'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i "drin pobl Cymru fel plant" a chyhoeddi dyddiad ar gyfer dod 芒'r cyfyngiadau clo i ben.

Ar hyn o bryd yng Nghymru mae yna oedi i lacio'r rheolau oherwydd pryderon ynghylch amrywiolyn Delta Covid-19.

Dywedodd y llywodraeth bod ei hymateb yn cael ei arwain gan y data ac nad yw'n "cael ei yrru gan ddyddiadau artiffisial".

Dim ond m芒n newidiadau sydd wedi bod i'r rheolau yng Nghymru ers 7 Mehefin, ar 么l i Brif Weinidog Cymru gyhoeddi saib er mwyn caniat谩u amser i frechu mwy o bobl.

Bydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu eto yr wythnos ar 么l nesaf ac mae disgwyl i unrhyw lacio pellach gael ei gyhoeddi gan Mark Drakeford ar 15 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i gyfyngiadau Llywodraeth y DU ddod i ben ar 19 Gorffennaf

Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd Iechyd newydd Llywodraeth y DU, Sajid Javid, eisoes wedi dweud nad yw'n gweld "unrhyw reswm" na fydd y cyfyngiadau'n Lloegr yn dod i ben ar 19 Gorffennaf.

Roedd yna gynllun i godi cyfyngiadau Lloegr erbyn 21 Mehefin, ond cafodd y dyddiad hwnnw ei ohirio am bedair wythnos.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod yn gobeithio codi'r cyfyngiadau mawr olaf yn yr Alban ar 9 Awst.

Yn 么l y data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 86 o gleifion Covid yn yr ysbyty yng Nghymru ar 30 Mehefin - y ffigwr isaf ers dechrau'r pandemig am yr ail ddiwrnod yn olynol.

Fodd bynnag, cyfradd yr achosion ledled Cymru ddydd Iau oedd 66.5 fesul 100,000 o bobl - yr uchaf ers 23 Chwefror.

Dywedodd arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "O ystyried y data, mae'n bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu ei chynllun i deuluoedd, ysgolion, gweithwyr a busnesau ar gyfer ailgyflwyno pob rhyddid a chodi cyfyngiadau yng Nghymru, fel sydd wedi ei weld yn yr Alban a Lloegr.

"Yn lle trin pobl Cymru fel plant, mae angen i Lywodraeth Cymru siarad 芒 nhw fel oedolion.

"Bydd pobl yn deall nad oes unrhyw ddyddiad y gall weinidogion ei ddewis ddod 芒 risg sero o Covid.

"Yn anffodus, ni ellir ei ddileu ac wrth symud ymlaen bydd yn rhaid i ni ddysgu i fyw gydag e fel rydyn ni'n ei wneud gyda firysau eraill.

"Rydyn ni'n credu mai dyma'r amser iawn i weinidogion Llafur ddarparu eglurder, gobaith a'u cynllun ar gyfer ailgyflwyno rhyddid yng Nghymru."

'Data sy'n bwysig nid dyddiadau'

Cyn etholiad Senedd Cymru mis Mai cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig gynllun ar gyfer dod allan o'r cyfnod clo oedd yn cyd-fynd i raddau helaeth 芒 chynllun Llywodraeth y DU ar y pryd.

Roedd yn cynnwys bwriad i ddod 芒 phellter cymdeithasol i ben yng Nghymru o bosibl erbyn 21 Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers dechrau'r pandemig rydym wedi cymryd agwedd ofalus, raddol tuag at ailagor, ac rydyn ni wedi cael ein harwain gan y data a gyflwynir i'r cabinet gan y Prif Swyddog Meddygol a'n Cynghorydd Gwyddonol, yn hytrach na chael ein gyrru gan ddyddiadau artiffisial.

"Rydyn ni'n adolygu'r rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos ac yn diweddaru Aelodau'r Senedd a'r cyhoedd ynghylch a ydyn ni'n gallu llacio'r rhain, yn unol 芒'n Cynllun Rheoli Coronafeirws."