大象传媒

Trenau'n dychwelyd i gledrau Rheilffordd Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Llangollen bore Gwener 9 Gorffennaf

Mae Rheilffordd Llangollen yn croesawu teithwyr unwaith yn rhagor am y tro cyntaf ers mis Medi'r llynedd, a hynny wedi i ran o'r busnes fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

Mae'r cwmni wedi dechrau ail-redeg teithiau rhwng Llangollen a gorsaf Berwyn - pellter o ddwy filltir a hanner.

Dros yr wythnosau nesaf, yn dilyn gwaith a gwiriadau peirianyddol, mae'n fwriad i estyn y teithiau i orsafoedd Glyndyfrdwy ac yna Carrog, gyda'r disgwyl o allu ail-redeg trenau st锚m tua dechrau Awst.

"Mae'n ddiwrnod ffantastig," medd Mike Williams, cyfarwyddwr gweithredu ac iechyd a diogelwch Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen.

"Mae pawb wedi gweithio'n wirioneddol galed. Mae'r gwirfoddolwyr wedi ymateb yn wych i'r sefyllfa."

Mae codi 10 milltir o drac, gorsafoedd a signalau rhwng Llangollen a Chorwen wedi bod yn llafur cariad i sawl cenhedlaeth o selogion rheilffyrdd treftadaeth ers dros 45 o flynyddoedd.

Roedd dyfodol y gwasanaeth yn ymddangos yn y fantol yn gynharach eleni pan aeth adain fusnes y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.

Llangollen Railway PLC oedd yn gyfrifol am y gwaith peirianneg ac roedd yn berchen ar offer allweddol o ran rhedeg y lein, ac roedd ei ddyledion yn gannoedd o filoedd o bunnau.

Cafodd arwerthiant ei chynnal ar-lein i werthu rhai o asedau'r cwmni, gan gynnwys cerbyd ac injan ddisel.

Mae'r hawl i redeg trenau a'r trwyddedau perthnasol yn dal yn nwylo Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n ddiwrnod ffantastig," medd Mike Williams

"Yn ffodus, roedd llawer o'n hoffer dan berchnogaeth breifat," meddai Mr Williams.

"Roedd yr ymddiriedolaeth yn berchen ar sawl cerbyd a locomotif ynghyd 芒 grwpiau gwahanol o fewn y rheilffordd.

"Felly mae gyda ni ddigon o gerbydau fel bod modd parhau a rhoi gwasanaeth rydym yn gobeithio y bydd yn dal i blesio'r cyhoedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teithwyr ar y tr锚n cyntaf rhwng Llangollen a Berwyn fore Gwener

Mae cyfyngiadau'r pandemig wedi achosi oedi o ran cwblhau codi gorsaf yng Nghorwen, sy'n golygu na fydd modd ailagor y lein yr holl ffordd i'r dref am gryn amser.

Ond ar drothwy gwyliau haf ysgolion, mae gwirfoddolwyr yn paratoi i ehangu'r gwasanaeth yn raddol

"Mae yna waith peirianneg sydd angen ei gwblhau cyn agor y lein i gyd," medd Mr Williams.

"Felly ar hyn o bryd rydan ni ond yn rhedeg gwasanaeth i orsaf Berwyn [cyn] symud ymlaen i Lyndyfrdwy ac yna i Garrog."

Pynciau cysylltiedig