大象传媒

'Mor falch bod rhaid parhau i wisgo mygydau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dinbych y pysgodFfynhonnell y llun, Susan Powell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i bobl heidio i Sir Benfro yn ystod y gwyliau ysgol

Dywed perchennog Cwmni Bysiau Cwm Taf o Sir Benfro ei fod yn hynod o falch bod yn rhaid i bobl yng Nghymru barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar fysiau.

Ddydd Sul fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pobl yn parhau i orfod gwisgo mygydau ar drafnidiaeth cyhoeddus ac mewn tacsis pe bai Cymru'n symud o Lefel 1 i'r rhybudd sero newydd.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Clive Edwards ei fod "yn sobor o falch" na fydd y rheolau am wisgo mygydau ar fysys yn llacio yng Nghymru am y tro.

Ond dywed ei fod yn ofni y bydd trafferthion wrth i lu o ymwelwyr ymweld 芒 Sir Benfro yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Wrth i'r ysgolion gau yr wythnos hon, mae disgwyl torfeydd i heidio yma i Sir Benfro - mwy nag arfer," meddai.

'Rhagweld trafferthion'

"Rwy'n sobor o falch y bydd y rheol gwisgo mygydau yn parhau. Dwi'n rhedeg gwasanaeth bysiau cyson o lefydd hynod o boblogaidd - er enghraifft, o Ddinbych-y-pysgod i Hwlffordd.

"Yn ystod yr hanner tymor diwethaf fe garion ni fil o deithwyr y diwrnod o'r maes parcio park and ride yn Ninbych-y-pysgod ac mae disgwyl miloedd ar filoedd i heidio yma o ddydd Gwener mla'n yn ystod gwyliau'r haf.

"Fi'n falch o benderfyniad Cymru - dyna'r peth mwyaf saff ond mae'n biti nad yw Lloegr yn gweithredu yr un fath.

"Fi'n rhagweld trafferthion wrth i ymwelwyr ar draws y ffin ddod draw yma. Ond os nag oes mwgwd nag eithriad o wisgo mwgwd fyddan nhw ddim yn gallu dod ar y bws. Mi fydd yr holl beth yn gallu bod yn anodd i yrwyr."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed perchnogion cwmni bysiau eu bod yn gobeithio y bydd pawb yn parchu'r rheolau

Ychwanegodd Steve Jones, perchennog Cwmni Bysiau Llew Jones yn Llanrwst, ei fod hefyd yn credu ei fod yn syniad da ond bod rhaid sicrhau na fydd gyrwyr yn wynebu unrhyw broblemau os yw pobl yn gwrthod ufuddhau.

"Mae gan yrwyr ddigon i'w wneud," meddai. "Dwi'n gobeithio'n wir y bydd pawb yn parchu rheolau. Mae hi mor bwysig diogelu pawb ac yn ystod y cyfnod nesaf bydd llawer o dwristiaid yn dod i'r ardal."

'Covid ddim wedi diflannu'

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru, ddydd Sul, bod dim penderfyniad eto ynghylch llacio'r rheolau ar wisgo mwgwd mewn siopau.

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi penderfyniadau eu hadolygiad diweddaraf ddydd Mercher.

Mae Tracey Davies yn gynrychiolydd i undeb gweithwyr siop USDAW yng Nghastell-nedd.

"Os dw i'n bod yn onest, fi'n credu bydd cwsmeriaid yn anwybyddu'r cyngor sy'n cael ei roi yng Nghymru a gwneud beth maen nhw ei eisiau," meddai.

"Maen nhw ond yn gwisgo masgiau wyneb oherwydd bod y siopau stryd fawr yn dweud wrthyn nhw i wneud.

"Mae ofn ar fy staff. Mae gan y mwyafrif o'r cadwyni manwerthu sgriniau plastig, os chi'n cymryd rheiny a'r masgiau oddi yno does ganddyn nhw ddim amddiffyniad o gwbl.

"Fi'n si诺r y byddai fy undeb llafur yn cytuno y dylid parhau i gael ei wneud yn orfodol i siopwyr wisgo masgiau i amddiffyn y staff manwerthu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid cofio nad yw Covid wedi mynd ac mae'n bwysig gwisgo mwgwd mewn cartrefi gofal'

Dros y penwythnos dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hi'n ofynnol hefyd i bobl barhau i wisgo mygydau mewn cartrefi gofal ac ysbytai.

Dywedodd Kim Ombler, rheolwraig cartref Glan Rhos ym Mrynsiencyn ar Ynys M么n, ei bod hi'n credu bod parhau i wisgo mwgwd yn y cartref yn hynod o bwysig.

"Dyw Covid ddim wedi diflannu, nadi," meddai wrth Cymru Fyw. "Ma'r amrywiolyn newydd 'ma yn mynd rownd yn sydyn.

"I fi mae'r rheol dau fetr a gwisgo mwgwd mor bwysig - beth bynnag y rheolau, fe fyddai dal isio i bobl sticio at hynny yn y cartref yma.

"Pan ddaw pobl o Loegr yma, dwi'n si诺r na fydd rhai yn dymuno gwisgo masgiau - ond mae gen i ddigon o supply yma ac o'm rhan i mae eu gwisgo yn gwbl orfodol. Dwi'n falch o benderfyniad Llywodraeth Cymru a bydded i'r orfodaeth barhau."

'Llacio yn hwyrach yr haf'

Mae Llywodraeth Cymru dan bwysau i ddilyn yr un trywydd 芒 Lloegr, ble mae disgwyl i'r rhan helaeth o gyfyngiadau coronafeirws ddod i ben ar 19 Gorffennaf.

"Dwi'n gallu cydymdeimlo'n fawr," meddai Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion.

"Mae pawb ohonom ni isie mynd n么l i ryw fath o normalrwydd, ond fyddai ddim yn ymlacio am o leiaf bythefnos arall... Mae angen gweld sut mae'r gwynt yn mynd i chwythu o ran y cynnydd yn y feirws yma a beth yw sgil effaith hynny ar ein gwasanaethau ni o hyn allan."

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fe fydd pethau'n edrych yn wahanol iawn yng Nghymru o'i gymharu 芒 Lloegr ar 19 Gorffennaf, ond ychwanegodd bod gobaith am ychydig o lacio yn ddiweddarach yn yr haf.