Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nam golwg 'ddim yn rhwystro' g诺r ifanc o F么n
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae g诺r ifanc o F么n, sy'n byw 芒 nam golwg, yn dweud ei bod hi'n bwysig annog pobl sy'n byw 芒 chyflyrau ar eu llygaid i gyrraedd eu llawn botensial ac i beidio 芒 bod ofn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.
Ers ei eni mae gan Hari Roberts, 19, Leber Ongenital Amaurosis sef cyflwr llygaid sy'n effeithio'n bennaf ar y retina ac yn gwneud gweld yn anodd o ganlyniad.
Er hynny mae o'n ymddiddori mewn gweithgareddau llawn antur fel marchogaeth, dringo, rhedeg a gwneud triathlon.
Mae o'n dweud ei fod r诺an am weld rhagor o bobl sy'n byw 芒 nam golwg yn ceisio cyflawni mwy a pheidio 芒 meddwl am y cyflwr fel rhwystr llwyr.
Erbyn hyn prin iawn yw ei olwg ac mae'n dweud gall y tywydd effeithio'n fawr arno.
'Ffordd o wneud popeth'
Fe gafodd Hari ei eni 芒'r cyflwr sy'n effeithio ar ei retina ac sy'n gwneud gweld o bell yn anodd.
Ond ers yn ifanc mae'n dweud i'w rieni annog o i geisio cyflawni unrhyw beth yr oedd eisiau ei wneud ac mae'r ethos yna wedi bod yn gefn iddo dros y blynyddoedd.
"Y ffordd dwi'n sb茂o arno fo ydi, mae 'na ffordd i wneud popeth," meddai Hari.
"Yn amlwg ga' i ddim dreifio ond mae 'na ddywediad yn Saesneg, 'where there's a will, there's a way' so ma 'na bob tro ffordd o wneud o'n wahanol."
Gan ei fod bellach yn gyfarwydd 芒'r ardal y mae'n byw ynddi mae Hari yn cerdded heb ffon gymorth.
Ond mae cerdded yn weithred syml a hawdd o gymharu 芒 rhai o'r diddordebau y mae wrthi'n eu cyflawni.
Ymysg ei weithgareddau diweddar mae rhedeg, dringo, triathlon a marchogaeth.
Mae Hari hefyd wrthi'n cwblhau cwrs Rheolaeth a Gofal Ceffylau yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain ac yn gobeithio astudio hynny ymhellach ym Mhrifysgol Essex y flwyddyn nesaf.
"Dwi newydd wneud cwrs dringo a High Ropes," meddai.
"Dwi 'di bod yn marchogaeth ers yr oeddwn i tua 9 oed.
"Dwi di bod yn sg茂o efo'r ysgol, dwi di neud triathlon i godi pres a dwi wrth fy modd yn nofio yn y m么r."
'Dallineb ddim yn rwystr'
Gyda chymaint o ddiddordebau na fyddai disgwyl i rywun 芒 nam golwg allu eu cyflawni'n hwylus, mae Hari'n dweud fod nifer yn dal i synnu at ei lwyddiannau.
"Mae pobl yn cael sioc pan dwi'n deud wrthyn nhw be dwi'n 'neud - y peth cyntaf sy'n dod o'u cega ydi, sut?!
"Mae'n anodd esbonio sut ond beth bynnag 'da chi eisiau gwneud mae 'na bob tro ffordd i 'neud o!"
Mae Hari bellach wedi cwblhau nifer o weithgareddau gyda chymorth ei deulu a'i ffrindiau ac mae o r诺an am annog eraill i geisio peidio meddwl am gyflyrau nam golwg fel rhwystr.
"Mae'n rhoi rhyddid imi, mae'n rhoi hyder ac yn helpu efo bob dim.
"Ar y llaw arall mae o fyny i'r person ond faswn i ddim lle dwi r诺an heb gael rhieni sydd yn hybu fi i drio pethau newydd.
"Mae nhw'n dweud dydi dallineb ddim yn rhwystro chdi i neud dim byd!"
Cyn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi, mae Hari yn gobeithio treulio'r haf yn cyflawni nifer o weithgareddau gan brofi nad yw dallineb yn rhwystr iddo, ac mae ganddo air o gyngor i unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg iddo ond heb hyder.
"Fedrwch chi wneud pethau fath 芒 phobl eraill - mae 'na bob tro ffordd wahanol i chi sb茂o ar bethau er mwyn ei wneud o!"