Swigod ysgolion yn 'brofiad ynysig' i rai athrawon

  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru

Mae pennaeth ysgol fach yn Sir G芒r wedi disgrifio effaith swigod ysgolion ar staff fel "profiad ynysig".

Mae effaith y grwpiau cyswllt ar brofiadau disgyblion wedi bod yn bryder drwy gydol y pandemig, ond yn Ysgol Cynwyl Elfed, ble mae pawb yn "deulu mawr" mae wedi bod yn ergyd i les athrawon hefyd.

Gyda'r addewid o hepgor y swigod ym mis Medi, mae'r flwyddyn ysgol yn gorffen gyda'r gobaith o fwy o gymysgu tymor nesaf.

Mae Geraldine Jenkins, sy'n bennaeth ffederasiwn dwy ysgol fach yng Nghynwyl Elfed a Llanpumsaint, yn dweud bod mesurau Covid-19 wedi bod yn anodd i staff mewn ysgolion bach, gwledig.

"O ran rhai o'r staff, falle dwy sydd mewn swigen.

"Mae pethau fel dyletswyddau cinio wedyn yn ychwanegol achos ni ffili symud staff o un lle i'r llall.

"Os oes rhywun yn absennol ni 'di penderfynu fel staff bod ni ddim yn cael cyflenwi mewn, neu bobl ni ddim yn adnabod, er mwyn lleihau y risg i ni fel teulu ysgol - felly mae'r pwysau ychwanegol yn cael ei roi i staff wedyn yn ychwanegol."

Mae'r ysgol wedi'i rhannu'n dair swigen - y plant ieuengaf mewn un gr诺p cyswllt ar un ochr o'r ysgol, a dwy swigen yr adran iau yr ochr arall, gyda neuadd yr ysgol yn y canol.

"Yn y cyfnod sylfaen dyw staff ddim yn dod yma i'r ystafell athrawon felly mae nhw braidd yn ynysig wedyn yn y dosbarth a dy'n nhw ddim yn cael amser i gael pum munud bant o'r plant achos mae nhw'n cymryd eu breaks nhw mewn dosbarth bach o fewn eu dosbarth nhw."

'Colli mas a cholli'r sgyrsiau'

Mae Ms Jenkins yn teimlo bod staff wedi gweld eisiau'r agwedd gymdeithasol o fywyd yr ysgol.

"Mae wedi bod yn brofiad ynysig i rai, a jyst gweld eisiau cwmni, achos mewn ysgolion bach ni'n agos iawn at ein gilydd felly mae 'na rhyw fath o deimlad bod chi'n colli mas a cholli'r sgyrsiau, a jyst rhannu'r baich a rhannu teimladau a'r emosiwn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Geraldine Jenkins yn dweud bod y swigod wedi ei gwneud yn anodd i staff rannu gofidiau gyda'i gilydd

"Os oes rhywun yn cael prawf, mae'r staff yn gofidio beth yw'r canlyniad yn mynd i fod neu "dwi di bod mewn cysylltiad efo mam a dad" ac effaith hynny, a methu rhannu'r gofidion yna achos ni yn staff gymharol fach yn cadw ar wah芒n."

Mae Eleri Samson, athrawes Blwyddyn 3 a 4, yn cydnabod ei fod wedi bod yn brofiad "unig" ar adegau.

Mae'n dweud mai'r unig adeg mae nhw'n gweld staff y cyfnod sylfaen yw pan fyddan nhw'n mynd 芒'r plant i'r iard i ddal y bysys adre.

"'Y'n ni'n cyfri Ysgol Cynwyl Elfed fel un teulu mawr a mae hwnna'n wir hefyd am y staff, y staff dysgu, y cynorthwywyr - ry'n ni gyd yn ffrindiau mawr, a mae hwnna wedi bod yn anodd i beidio cysylltu wyneb yn wyneb gyda nhw.

Disgrifiad o'r llun, Mae Eleri Samson yn cydnabod ei fod wedi bod yn brofiad unig

"Mae hi wedi bod yn heriol ond ry'n ni'n cefnogi'n gilydd trwy Teams neu mae gyda ni gr诺p ar WhatsApp hefyd felly ni'n cysylltu 芒'n gilydd, ac yn cefnogi'n gilydd fel 'na ond dyw hi ddim yr un peth.

"Y'n ni'n ffodus mae gyda ni gynorthwy-ydd ymhob dosbarth felly dydyn ni ddim yn hollol ar ben ein hunain ond eto i gyd y'ch chi yn teimlo, ydy mae'n unig.

"Byddai'n neis i gael mynd lawr i'r cyfnod sylfaen a rhannu rhyw ofid neu gofyn am gymorth neu beth bynnag ond 'dy chi ddim yn gallu ei wneud e."

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi dweud na fydd angen grwpiau cyswllt ym mis Medi, ond mae ysgolion yn aros am fwy o fanylion am fframwaith fydd yn cefnogi penderfyniadau ar ba fesurau sydd eu hangen yn 么l risg lleol.

'Mae'n galed'

Mae Mair a Gwenno yn ddeng mlwydd oed ac ym Mlwyddyn 5 yr ysgol.

Mae'r iard wedi rhannu yn ei hanner ac mae Mair yn dweud ei bod hi'n edrych 'mlaen at allu chwarae ar yr iard gyda'i ffrindiau o'r blynyddoedd iau.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r swigod hefyd wedi bod yn anodd i ddisgyblion am nad ydyn nhw'n cael cymysgu 芒'u ffrindiau yn ystod amser chwarae

Mae gan Gwenno chwaer a chyfnither sydd wedi dechrau yn yr ysgol eleni ond mae hi'n siomedig nad yw hi wedi gallu eu gweld yn ystod y dydd.

"Mae'n galed achos ni fel arfer yn cael mabolgampau a mae pobl fel mamau a tadau ni a mamgus a dadcus ni yn cael dod i wylio," meddai.

"Ond 'so nhw'n gallu, a sai'n deall pam 'so nhw'n gallu achos mae miloedd o bobl yn cael mynd i wylio p锚l-droed a rygbi."

Wrth i'r flwyddyn ysgol ddirwyn i ben, ar draws Cymru, mae miloedd o blant yn gorfod hunan-ynysu oherwydd achosion o Covid o fewn eu swigod.

Dangosodd ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru fod 8% o ddisgyblion Cymru - sef 23,810 o blant - yn absennol ar gyfartaledd rhwng 5 Gorffennaf a 9 Gorffennaf oherwydd rheswm yn gysylltiedig 芒 Covid-19, ac mae'r tarfu wedi parhau hyd at ddiwedd y tymor.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 642 o achosion ymhlith staff a disgyblion ysgolion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys 97 o achosion yng Nghaerdydd a 27 ym Mhowys.