大象传媒

Guto Harri'n gadael sianel GB News ar 么l 'torri safonau'

  • Cyhoeddwyd
Llun o raglen GB News
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri yn penlinio ar GB News wrth feirniadu hiliaeth yn erbyn p锚l-droedwyr Lloegr

Mae'r cyflwynydd Guto Harri wedi cadarnhau ei fod wedi gadael GB News ar 么l i reolwyr ddweud ei fod wedi torri safonau'r sianel trwy benlinio ar yr awyr i ddangos cefnogaeth i b锚l-droedwyr t卯m Lloegr.

Roedd yn trafod yr hiliaeth at chwaraewyr du wnaeth fethu 芒 sgorio o'r smotyn wrth i Loegr golli i'r Eidal yn rownd derfynol Euro 2020.

Fe wnaeth rhai gwylwyr fygwth cefnu ar y sianel wrth feirniadu'r Cymro - wnaeth benlinio gan ddatgan: "Dydw i erioed wedi deall pam fod pobl yn gweld [yr ystum] fel un mor atgas."

Pan gysylltodd Cymru Fyw gyda Mr Harri ddydd Gwener, dywedodd ei fod wedi dweud popeth roedd yn dymuno ei ddweud ar yr awyr.

Dywedodd GB News: "Rydym wedi siomi dwy ochr y ddadl trwy or-symleiddio pwnc cymhleth iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arfer o benlinio cyn gemau p锚l-droed wedi hollti barn yn y 12 mis diwethaf

Fe benliniodd Mr Harri - cyn-ohebydd gyda'r 大象传媒 ac ymgynghorydd i Boris Johnson pan roedd yn Faer Llundain - yn ystod rhaglen Brazier & Muroki fore Mawrth.

Dywedodd ei fod "wedi gweld dros y dyddiau diwethaf pa mor agos i'r wyneb, pa mor ddwfn ei wreiddiau ac erchyll o wrthun yw hiliaeth ymhlith rhai cefnogwyr p锚l-droed Lloegr".

Ychwanegodd: "Rwy'n llwyr ddeall pam bo'r garfan [b锚l-droed] o'r farn bod rhaid i ni ddatgan, ddydd ar 么l dydd, bod hiliaeth yn gwbl annerbyniol.

"Mae'n bosib fy mod heb sylweddoli pa mor agos i'r wyneb mae hiliaeth hyd heddiw, i'r fath raddau nes fy mod yn meddwl y dylen ni gyd benlinio. Mewn gwirionedd, pam lai penlinio nawr a dweud ei fod yn ystum pwysig.

"Ni wnelo hyn 芒 mi yn y stiwdio, ond iddyn nhw wneud hynny fel p锚l-droedwyr ar y cae, mae'n gwneud synnwyr."

Mewn neges ganlynol ar Twitter, dywedodd fod "rhyddid barn, yn anad dim" wrth wraidd GB News, ac nad yw'n credu bod p锚l-droedwyr Lloegr yn "cymeradwyo nodau cul, rhwygol" yr ymgyrch Black Lives Matter.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Guto Harri yn cyflwyno rhaglen yn absenoldeb y cyflwynydd arferol, Colin Brazier

Ddydd Iau fe gyhoeddodd GB News ar Twitter: "Mae GB News yn sefyll yn sgw芒r yn erbyn pob math o hiliaeth. Nid oes gyda ni bolisi o ran penlinio.

"Mae rhai o'n gwesteion wedi bod o blaid, rhai yn erbyn. Mae pob un yn gwrthwynebu hiliaeth. Mae gyda ni safonau golygyddol y mae pob newyddiadurwr GB News yn eu cynnal."

Ond dywedodd neges ganlynol: "Ddydd Mawrth, fe wnaeth cyflwynydd cyfrannol benlinio'n fyw ar yr awyr ac roedd hyn yn doriad annerbyniol o ein safonau."

Does dim sylw pellach hyd yn hyn gan y sianel, sy'n darlledu ers Mehefin.

Mae ei siartr olygyddol yn datgan: "Nid ydym yn ymatal rhag ymdrin 芒 phynciau dadleuol.

"Byddwn yn cymryd golwg agored a gonest ar y byd, ond rydym yn sensitif i faterion cymhleth ac yn gwarchod preifatrwydd oni bai bod budd cyhoeddus nerthol yn bwysicach na'r disgwyliad hwn."

Dywedodd Guto Harri pan gyhoeddwyd ei fod yn ymuno 芒 GB News bod y sianel "yn benderfynol o adlewyrchu a pharchu ystod eang o safbwyntiau eu cynulleidfa ar draws y DU".