Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar ymwelwyr i barchu ardaloedd poblogaidd Cymru
Mae 'na alwadau i barchu cyrchfannau poblogaidd cefn gwlad yng Nghymru wrth i'r tywydd braf barhau a'r cyfyngiadau lacio.
Gyda disgwyl i filoedd o ymwelwyr heidio i fannau prydferth dros wyliau'r haf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi annog pobl i barchu cymunedau y maen nhw'n ymweld 芒 nhw.
Daw'r alwad yn dilyn cwynion am barcio anystyriol a thaflu sbwriel mewn nifer o fannau poblogaidd y llynedd wedi i'r cyfnod clo cyntaf godi.
Dywedodd CNC y bydd mwy o swyddogion ar batr么l ond mai cyfrifoldeb unigolion ydy "ymddwyn yn gyfrifol".
Ers dydd Sadwrn does dim cyfyngiad ar faint o bobl sy'n gallu cwrdd yn yr awyr agored mewn mannau cyhoeddus, ac mae cadw pellter cymdeithasol wedi'i ddileu tu allan hefyd.
Mae'r sefydliad yn dweud bod ei safleoedd eisoes wedi gweld "cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr" ers llacio'r cyfnod clo ym mis Mawrth.
Dywedodd bod y mwyafrif o ymwelwyr wedi bod yn ystyriol ond bod rhai ymwelwyr wedi "dangos fawr ddim ystyriaeth na pharch at yr ardaloedd maen nhw wedi dod i'w mwynhau".
Mae digwyddiadau'n cynnwys "lloriau coedwigoedd wedi troi'n feysydd parcio a safleoedd gwersylla dros dro" a bod sbwriel a gwastraff arall wedi'i adael.
Mae CNC yn gweithio gyda'r heddlu i gynyddu patrolau ar y cyrchfannau mwyaf poblogaidd er mwyn "ceisio lleihau'r risg y bydd y digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto dros yr haf".
Dywedodd Richard Owen o CNC: "Mae llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo, ynghyd 芒 chyfnodau hir o dywydd braf yn mynd i ysgogi ugeiniau o bobl i roi mannau prydferth enwog Cymru ar frig eu rhestrau o leoedd i fynd iddynt am deithiau undydd ac fel cyrchfannau gwyliau yr haf hwn.
"Er ein bod yn falch iawn o groesawu pobl i'n safleoedd i ymlacio a chael ail wynt, mae'n rhaid i ni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonon ni i warchod natur a pharchu ein cymunedau lleol.
"Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobl ymweld 芒'n safleoedd yn ddiogel, a dyna pam y bydd llawer o ymwelwyr 芒 rhai o'n safleoedd mwyaf poblogaidd yn gweld cynnydd mewn patrolau o ein wardeiniaid a'r heddlu dros y misoedd nesaf.
"Mae mwyafrif llethol y rhai sy'n ymweld 芒'n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a, gyda'r haf bellach wedi hen ddechrau, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n parhau wrth i ni fynd i fewn i ran brysuraf y flwyddyn."
Dywedodd CNC mai un o'r problemau mwyaf cyffredin yng nghefn gwlad Cymru ydy effaith tanau gwyllt a gwersylla anghyfreithlon, ble mae pobl yn codi pebyll neu'n parcio cartrefi modur a faniau heb ganiat芒d.
Yn 么l y sefydliad mae materion o'r fath ar gynnydd ym mharciau cenedlaethol, coedwigoedd, a gwarchodfeydd natur Cymru ers i'r cyfyngiadau lacio.
"Gyda'r effeithiau ar fywyd gwyllt a chymunedau yn dal i fod yn bryder mawr yr haf hwn, mae CNC yn annog pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac i ystyried ein chwe cham i ymweld 芒'n safleoedd awyr agored yn ddiogel," meddai'r corff.
Mae hynny'n cynnwys parcio yn gyfrifol, cynllunio o flaen llaw er mwyn osgoi mannau prysur a mynd 芒'ch sbwriel adref.
Dywedodd Emma Edwards o gorff Eryri-Bywiol - sefydliad nid-er-elw sy'n ymgynghori ar brosiectau awyr agored - bod angen i unigolion gymryd cyfrifoldeb a chynllunio o flaen llaw.
"'Da ni wrth ein boddau bod pobl isio mwynhau'r awyr agored ac mae'r mwyafrif o bobl yn bod yn gyfrifol a gwneud pethau'n iawn ond mae 'na rai sydd ddim mor brofiadol yn yr awyr agored sydd, er enghraifft, yn prynu padlfwrdd yn y bore ac yna'n mynd allan ar y d诺r yn y prynhawn.
"Yn anffodus dydy rhai ddim yn deall mai nid lle chwarae ydy'r awyr agored a dydyn nhw ddim yn gwybod sut i edrych ar 么l eu hunain, eraill a'r amgylchedd maen nhw wedi dod i'w fwynhau.
"Dydy rhai sydd 芒 diffyg profiad o'r awyr agored ddim wastad yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ac maen nhw'n cael eu synnu gan gefn gwlad a'r diffyg cyfleusterau fel toiledau a pharcio - mae 'na ddiffyg dealltwriaeth o sut i ymddwyn.
"Yr hyn 'da ni isio ydy i bobl ofyn tri chwestiwn i'w hunain cyn dechrau: Ydw i'n gwybod sut fydd y tywydd? Oes gen i'r offer cywir? Oes gen i'r sgiliau cywir?"