Prif hyfforddwyr yn gadael t卯m rygbi Merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod prif hyfforddwr T卯m Merched Cymru yn gadael y swydd, lai na naw mis ar 么l cael ei benodi.
Dywed yr undeb a Warren Abrahams bod y penderfyniad yn un "ar y cyd", a bod yr hyfforddwr "am fynd ar drywydd mentrau eraill".
Cafodd Abrahams, cyn-ddirprwy t卯m saith bob ochr yr UDA, ei benodi fis Tachwedd y llynedd i lenwi'r bwlch wedi ymadawiad Rowland Phillips ym Mawrth 2020.
Dywedodd prif weithredwr URC, Steve Phillips eu bod yn mynd ati i benodi olynydd, ac mai'r nod yw cael "sefydlogrwydd" i'r t卯m cyn pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd.
Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i Warren am bopeth mae wedi ei wneud i garfan Merched Cymru mewn cyfnod anodd iawn a dymunwn yn dda iddo at y dyfodol."
Dywedodd Abrahams: "Rwy'n ddiolchgar iawn i URC am y cyfle yma a hoffwn ddiolch i d卯m rheoli'r merched a'r chwaraewyr."
Fe wnaeth Cymru ddarfod pencampwriaeth y Chwe Gwlad - oedd yn fyrrach na'r arfer oherwydd y pandemig - yn y safle olaf gan golli pob un o'u tair g锚m yn erbyn Ffrainc, Iwerddon a'r Alban.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021