'Cynnydd sylweddol' yn nifer y dysgwyr Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae "cynnydd sylweddol" wedi bod yn nifer y dysgwyr Cymraeg a gweithgareddau dysgu yn ystod y pandemig, yn 么l Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Dywedodd Jeremy Miles fore Mercher fod y ffigyrau wedi cynyddu'n "sylweddol" dros y flwyddyn diwethaf, gyda'r "lefel o ddarpariaeth yn nhermau y nifer y gweithgareddau dysgu wedi cynyddu bron i 50% o flwyddyn i flwyddyn".

Daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi , sef y corff sy'n cynnig cyrsiau ac adnoddau ar gyfer dysgu'r iaith i oedolion.

Yn 么l yr adolygiad, mae'r ganolfan wedi "llwyddo i ad-drefnu, ailstrwythuro ac arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg genedlaethol".

Ar Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Mr Miles fod comisiynu adolygiad o'r fath yn "gyfle i'n hatgoffa ni o'r cyfraniad mae dysgwyr yn ei wneud, a'r cyfraniad mae'r ganolfan yn ei wneud i gael siaradwyr a dysgwyr Cymraeg".

Ac er gwaethaf heriau'r pandemig, dywedodd y gweinidog fod y ganolfan wedi cipio'r cyfle i arloesi'n ddigidol gan roi'r cyfle i lawer mwy o bobl gael dysgu'r Gymraeg.

'Calonogol iawn'

Mae'r cynnydd mewn dysgwyr a'r cyfleoedd i ddysgwyr yn "beth calonogol iawn", meddai.

"Mae angen gwneud yn si诺r bod cymaint o blant 芒 phosib yn cael mynediad at addysg Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn medru'r Gymraeg yn hyderus, yn siaradwyr dwyieithog.

"Ond ynghyd 芒 hynny mae'n rhaid cydnabod bod pobl yn dysgu mewn cyfnodau gwahanol yn eu bywydau; nid pawb sydd wedi cael y cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgol felly mae'n bwysig gweld hyn fel menter gydol oes."

Yn ogystal 芒 dysgu'r Gymraeg, ychwanegodd bod yn rhaid canolbwyntio hefyd ar gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru eisiau esblygu ymhellach gyda'r mentrau iaith fel partneriaid yn y dyfodol

Daw'r adolygiad o weithgaredd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ar adeg arbennig i Gymru, gyda'i mentrau iaith yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu'r fenter cyntaf yng Nghwm Gwendraeth ger Llanelli yn 1991.

Erbyn hyn mae 22 o fentrau dros Gymru er mwyn hybu a hyrwyddo'r Gymraeg ar draws y wlad.

Maent yn cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi gosod nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Proses o esblygu'

"Byddai'r Gymraeg yn lawer tlotach heb y gwaith mae'r mentrau yn ei wneud yn ein cymunedau," meddai Mr Miles.

"Mae wedi bod yn broses o esblygu dros y degawdau diwethaf ac yn y flwyddyn diwethaf, ni wedi gweld hynny'n digwydd hyd yn oed yn fwy.

"Mae 'na addasu wedi bod yng ngwaith y mentrau; mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn, ond mae llawer o weithgareddau wedi eu darparu mewn ffordd rhithiol."

Ers dechrau'r pandemig, mae'r mentrau gwahanol wedi cynnal dros 7,000 o ddigwyddiadau digidol rhyngddynt.

Ychwanegodd Mr Miles: "Ni [y Llywodraeth] eisiau esblygu ymhellach yn y dyfodol gyda'r mentrau fel partneriaid.

"Ni eisiau sicrhau bod cymunedau lleol o ran economi a gofodau Cymreig yn ffynnu - dyna yw'r nod."