大象传媒

Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Hannah Mills ac Eilidh McIntyreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Hannah Mills ac Eilidh McIntyre wedi rheoli'r gystadleuaeth yn Enoshima o'r dechrau

Mae'r Gymraes Hannah Mills wedi ennill medal aur i d卯m Prydain, gyda'i phartner Eilidh McIntyre, yn yr hwylio yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Mills, o Gaerdydd, bellach ydy'r hwylwraig fwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd wedi iddi ennill yng nghystadleuaeth y dosbarth 470 ddydd Mercher.

Daw hynny wedi iddi ennill medal arian yn yr un gystadleuaeth yn Llundain yn 2012, ac aur yn Rio yn 2016.

Roedd Mills a McIntyre wedi rheoli'r gystadleuaeth yn Enoshima o'r dechrau, gan ennill dau gymal, ac roedd gorffen yn bumed yn y ras olaf yn ddigon i selio'r fedal aur.

Roedd rhaid aros am gadarnhad o'r canlyniad yn dilyn protest gan d卯m Ffrainc ar ddiwedd y ras, ond cafodd hynny ei wrthod gan swyddogion.

Mae'n golygu bod Gwlad Pwyl yn cael arian, a Ffrainc yn cael y fedal efydd.

Pynciau cysylltiedig