大象传媒

Gwyliau: Gogledd Cymru'n fwy poblogaidd na Chernyw

  • Cyhoeddwyd
EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gogledd Cymru wedi bod yn gyrchfan mwy poblogaidd na Cernyw a Dyfnaint ar gyfer gwyliau

Mae mwy o ymwelwyr nag erioed wedi dewis gogledd Cymru fel cyrchfan gwyliau yr haf hwn, yn 么l cymdeithas dwristiaeth yr ardal.

Dywed cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, Chris Frost, bod nifer yr ymwelwyr dyddiol a dros nos wedi codi, gyda mwy o bobl yn aros yn hirach nag arfer.

Ac yn 么l un , y gogledd oedd y cyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd yn y DU'r haf hwn, gan guro Cernyw a Dyfnaint am y tro cyntaf.

Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru barhau i annog pobl i beidio teithio dramor, er bod y rheolau bellach yn llacio.

"Dwi wedi bod mewn busnes yma ers 20 mlynedd ac mae 'na dwf cyflymach wedi bod mewn twristiaeth dros y 10 mlynedd diwethaf," medd Mr Frost, "ac nid ydym erioed wedi gweld niferoedd mor uchel o ymwelwyr, sy'n wych ar 么l Covid.

"Maen nhw'n teimlo'n ddiogel iawn, mae digonedd o le yn yr awyr agored mewn lot o leoliadau, er bod gennym rai llefydd prysur iawn ac atyniadau 'pot m锚l', mae pobl yn chwilio am y mannau distaw, diarffordd, felly yn lle mynd i fyny'r Wyddfa maen nhw'n mynd i un o fynyddoedd Dyffryn Clwyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Chris Frost bod y gogledd wedi denu nifer o ymwelwyr o fannau oddi mewn y DU dros yr haf

Dywedodd bod rhai busnesau'n cwyno am brinder staff, yn rhannol oherwydd Covid, a hefyd am fod gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd wedi dychwelyd adref.

Serch hynny, roedd y diwydiant yn brysur, meddai, ac roedd ymwelwyr yn bod yn amyneddgar wrth i gwmn茂au addasu i'r niferoedd uchel.

Ychwanegodd bod y rhanbarth yn elwa am fod pobl yn dewis gwyliau yn y DU oherwydd cyfyngiadau teithio dramor, ac mai denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn - nid yn yr haf yn unig - oedd yr allwedd i gynnal y diwydiant.

'Llwyddiannus dros ben'

Roedd datblygiadau diweddar, fel twristiaeth antur a darlledu 'I'm A Celebrity Get Me Out of Here' o Gastell Gwrych, Abergele, hefyd wedi chwarae rhan, meddai.

"Efallai bod llawer wedi ymweld 芒 gogledd Cymru yn eu llencyndod, ac mae'n brofiad hollol wahanol r诺an i'r hyn oedd o 20 mlynedd yn 么l.

"Dwi'n meddwl y byddwn yn cadw llawer o gwsmeriaid y tymor hwn, y tymor nesaf hefyd, pan fyddwn, gobeithio, yn derbyn y teithwyr tramor nad ydym wedi eu cael eleni, a hyd yn oed hebddyn nhw mae hi wedi bod yn llwyddiannus dros ben yn economaidd."

Pynciau cysylltiedig