Aelod blaenllaw'n galw am newid arweinydd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi galw am newid yn arweinyddiaeth y blaid.
Dywedodd cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones ar raglen Newyddion S4C nad oedd yn hapus gydag Adam Price fel arweinydd ar hyn o bryd.
Daeth ei sylwadau yn dilyn cyfweliad gyda'r cyn-arweinydd Leanne Wood, a dywedodd fod y blaid wedi mynd "yn 么l" ers i Mr Price ei herio am yr arweinyddiaeth.
Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Leanne. Rwy'n credu i ni gymryd cam yn 么l yn etholiad 2021 er i ni ennill un sedd yn ychwanegol.
"Credaf fod y strategaeth yn anghywir ar gyfer Mai 2021... ymgais at ymgyrch 'arlywyddol' benben gyda Mark Drakeford pan oedd Mark Drakeford, fel y gwyddom, yn boblogaidd iawn yn dilyn llwyddiant yr ymateb i Covid."
Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn hapus gydag Adam Price fel arweinydd, atebodd: "Yn bersonol, dydw i ddim.
"Rwy'n credu ei bod yn amser newid arweinydd. Dydw i ddim yn si诺r i ba gyfeiriad yr y'n ni'n mynd.
"Roedd ein maniffesto yn un hir iawn, ac ychydig o bobl oedd yn gwybod beth oedd ynddo, gan gynnwys fi."
Dewisodd Plaid Cymru i beidio ymateb i sylwadau Mr Jones wedi iddyn nhw gael cais gan 大象传媒 Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2018