大象传媒

Chwarae da ond dim goliau i Gymru yn erbyn Y Ffindir

  • Cyhoeddwyd
Harry Wilson yn y g锚m yn erbyn Y FfindirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Harry Wilson sawl cyfle i sgorio yn erbyn Y Ffindir

Methodd Cymru gyfle i guro'r Ffindir mewn g锚m gyfeillgar wrth baratoi ar gyfer eu gemau nesaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Qatar 2022.

Er i Gymru gael dros ddwsin o gyfleoedd ar y g么l, a'r Ffindir heb gael yn un cyfle cyfatebol, 0-0 oedd y sg么r terfynol yn Helsinki.

Roedd Gareth Bale ymhlith y chwaraewyr a ddaeth i'r maes fel eilyddion yn ystod yr ail hanner mewn g锚m a orfododd Robert Page i enwi 11 cyntaf eithaf anarferol.

Roedd sawl enw cyfarwydd yn absennol o'r garfan oherwydd anafiadau neu Covid, gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Rodon a Kieffer Moore.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Cymru ddechrau hyderus gan sicrhau meddiant da o'r b锚l, gan osod patrwm gweddill y g锚m.

Cododd gyfle gwych, wedi 25 o funudau, i fynd ar y blaen trwy gic o'r smotyn wedi i Niko H盲m盲l盲inen lorio Brennan Johnson yn y cwrt cosbi.

Harry Wilson wnaeth ei chymryd ond roedd ei ymdrech yn un wael - cic wan isel i'r dde oedd yn un hawdd i'r golwr Carljohan Eriksson ei harbed yn ei g锚m gyntaf i'w wlad.

Roedd yna ymdrechion ar y g么l wedi hynny gan Jonny Williams a Rhys Norrington-Davies wrth i Gymru barhau i chwarae'n well na'r t卯m cartref ond fe arhosodd hi'n ddi-sg么r tan yr egwyl.

Daeth Wayne Hennessey a Ben Davies i'r maes ar ddechrau'r ail hanner yn lle Danny Ward a James Lawrence, gyda Davies yn gapten yn lle Ward.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Dylan Levitt i atal ergyd gan Fredrik Jensen at y g么l, cyn i'r Ffindir ildio cic rydd wedi trosedd ar Tyler Roberts.

Roedd ergyd Harry Wilson, o 20 llath, yn well o lawer na'r gic siomedig o'r smotyn ac fe gurodd y wal ond llwyddodd y golwr i wthio'r b锚l yn glir.

Ar yr awr, roedd angen arbediad arall wedyn o gic rydd arall gan Wilson, ond fe laniodd y b锚l yn daclus i Matt Smith a ddaeth yn agos gydag ymdrech nerthol a wibiodd ar draws y g么l.

Roedd yna groesiad gwych tua diwedd yr ail hanner gan Smith at Gareth Bale, a ddaeth i'r maes yn lle Tyler Roberts gydag wyth munud yn weddill.

Yn anffodus, fe gysylltodd Bale gyda'r b锚l yn frysiog ac fe'i tharodd uwch ben y trawst, a cymharol wan oedd ymdrech arall ganddo a gafodd ei arbed gan y golwr.

Perfformiad calonogol ar y cyfan felly - yr unig beth oedd ar goll oedd g么l, a dyna yn sicr fydd y nod wrth i Gymru wynebu Belarws yn Rwsia brynhawn Sul yn nhrydedd g锚m Cymru yng Ngr诺p E rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.