大象传媒

Croesawu trafod bendithio priodas cyplau un rhyw

  • Cyhoeddwyd
cwplFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y ddeddfwriaeth yn trafod bendithio priodasau cyplau un rhyw yn hytrach na'r hawl i briodi

Wrth i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru drafod bendithio priodas cyplau un rhyw neu bartneriaethau sifil yr wythnos hon, dywed un offeiriad hoyw ei fod yn croesawu y trafodaethau ac ei fod yn "ochelgar obeithiol" y bydd modd cynnal priodas cyplau hoyw mewn eglwysi yng Nghymru cyn hir.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru, dywed y Parchedig Jeffrey John "mai'r gwir broblem i'r Eglwys yng Nghymru yw penderfynu pa mor bell i fynd".

"Mae'r Eglwys Anglicanaidd yr Alban wedi pleidleisio'n barod i fynd yr holl ffordd - maen nhw'n priodi cyplau hoyw heb wahaniaeth," meddai.

"Yng Nghymru, dim ond gwasanaeth bendith fydd ar gael ar 么l priodas swyddogol yn y swyddfa gofrestru. Felly bydd anghydraddoldeb yn dal i fod rhwng cyplau hoyw a chyplau syth.

"Mae'n d欧 hanner ffordd - ond yn well na dim... gorau po gyntaf y bydd modd i gyplau hoyw gael priodi yn yr eglwys."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Parchedig Jeffrey John ei fod yn gobeithio y bydd modd i gyplau un rhyw briodi yn yr Eglwys cyn hir

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod y bil yn ddadleuol ond maent yn ei ddisgrifio fel "cam yn y cyfeiriad cywir" ac maent yn dweud bod yna wir ymgais i ddangos bod yr eglwys yn edifar am y ffordd y mae hi wedi trin pobl hoyw yn y gorffennol.

Mewn datganiad ysgrifenedig cydnabyddir bod gan yr yr Eglwys yng Nghymru "hanes o felltithio ac erlid hoywon a lesbiaid" a nodir bod "nifer wedi cael eu gorfodi i fywyd o ofn, anonestrwydd ac weithiau rhagrith ac wedi eu heithrio rhag byw bywydau cyhoeddus ac onest a rhannu partneriaeth ymrwymol".

Dywed y Parchedig Enid Morgan, un o'r merched cyntaf i'w hordeinio'n offeiriaid, ei bod yn croesawu datganiad o'r fath.

Mewn cyfweliad ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul dywed: "Mae'n wych. Mae hwnna yn gyffes yn tydi o bechod ar ran yr eglwys, o fod wedi methu deall ac wedi gweithredu i esgymuno yn hytrach nag i garu ac i hyrwyddo pobl. Fi'n falch iawn o weld datganiad mor gryf.

"Bydd cael bendith o bwys sylweddol i bobl hoyw sy'n Gristnogion - pob hoyw sy'n caru ei gilydd ac sy'n dymuno bendith Duw a chydnabyddiaeth yr Eglwys ar eu perthynas nhw fel perthynas ddynol werthfawr."

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Parchedig Enid Morgan yn croesawu datganiad yr Eglwys sy'n edifar am sut y maent wedi trin pobl hoyw

Mae'r Parchedig Enid Morgan yn cydnabod na fydd pawb yn yr Eglwys yng Nghymru o blaid y ddeddfwriaeth ac yn dweud hefyd bod yr eglwys wedi bod yn araf ar adegau i ymateb i newidiadau cymdeithasol.

"Wi'n credu bod e'n fater o berswadio, ac o ddadlau a dwyn pobl at ei gilydd," meddai.

"Mae'n hawdd i bobl gondemnio hoywder os nag ydyn nhw erioed wedi cwrdd 芒 rhywun hoyw, ddim erioed wedi clywed eu stori nhw, eu hanes nhw - nes bo chi wedi 'neud hynny, does gennych chi ddim hawl i farnu.

"Wi'n credu bod melinau'r eglwys yn troi'n araf deg iawn ond mae yna dri pheth wedi newid o ran yr eglwys - ysgaru a chwalu priodas, lle gwragedd yn y gymdeithas eglwysig a'r trydydd yw'r busnes hoyw yma - mae rhan fwyaf o bobl o fy nghenedlaeth i wedi gweld pethau'n newid.

"Fydd pawb ddim yn hapus ond o'dd pobl ugain mlynedd yn 么l yn anhapus i ordeinio gwragedd. O'dd pobl ugain mlynedd cyn hynny yn poeni'n ofnadwy yngl欧n ag ysgaru.

"Mae'r byd wedi newid ac mae'r eglwys wedi newid yn sylweddol iawn yn sgil hynny. Rhaid cofio tan 1967 ro'dd jyst bod yn hoyw yn achos i garcharu neu i sbaddu'n gemegol."

'Newid anhygoel'

Ychwanegodd y Parchedig Jeffrey John: "Rwy'n credu bod gwahaniaeth mawr rhwng safle swyddogol yr eglwys a barn personol aelodau'r eglwys. Yn swyddogol mae'r eglwys yn dal i ddweud bod priodas i fod rhwng dyn a gwraig ond mae'n amlwg bod barn aelodau'r eglwys wedi newid yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf - yn enwedig ar 么l i'r llywodraeth gyfreithloni priodas gyfartal.

"Y peth pwysicaf am y gwasanaeth bendithio yw ei ystyr ddiwinyddol. Mae bendith yn arwyddo nad yw'r Eglwys yn ystyried perthynas hoyw yn bechod bellach, ond yn rhodd gan Dduw. Ar 么l dwy fil mlynedd o gondemnio mae'n newid anhygoel.

"Bydd yn rhoi'r Eglwys yng Nghymru ymhell ar y blaen i Eglwys Loegr, er enghraifft, lle mae'r gwrthwynebiad ychydig yn gryfach."

'Rhaid i ni ymgysylltu 芒 chymdeithas'

Dywedodd yr Uwch Esgob, Andrew John, sy'n gweithredu fel Archesgob Cymru ar hyn o bryd: "Mae'n hen bryd bod yr Eglwys yn gwrando ar beth mae'r aelodau yn ei ddweud - mae'n rhywbeth cenhadol ar un lefel.

"Mae'n hen bryd i'r Eglwys ddweud ei bod yn croesawu pobl - pobl sydd yn dilyn Iesu Grist i fod yn rhan o'n bywyd ni.

"Mae'n gam rhy fawr, efallai, i fynd yn syth at briodas ond rhaid i ni ymgysylltu 芒 chymdeithas.

"'Dan ni ddim am fod yn sect ond pobl sy'n rhan o gymdeithas. Ry'n am ddangos bod ffydd yn cwrdd 芒 phethau naturiol sydd yn bwysig."

Bydd y Bil yn cael ei drafod ddydd Llun - ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghanolfan Gonfensiynau Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd a chaiff ei ffrydio'n fyw ar ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru a sianel Youtube.

Mae cyfweliad llawn y Parchedig Jeffrey John i'w glywed ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 1300 ddydd Sul a chyfweliad y Parchedig Enid Morgan ar raglen Bethan Rhys Roberts am 0800.

Pynciau cysylltiedig