Ailgyflwyno mesurau Covid ysgolion 'yn bosib'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Gweinidog Addysg mai ei flaenoriaeth yw sicrhau bod plant yn parhau i gael dysgu yn yr ysgol

Mae'n "bosib" y bydd yn rhaid ailgyflwyno rhai cyfyngiadau Covid-19 mewn ysgolion yng Nghymru, yn 么l y Gweinidog Addysg.

Dywedodd Jeremy Miles wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru ei fod eisoes wedi rhoi "ymyriadau a mesurau" ar waith o'r blaen, a'i bod yn "bosib y bydd yn rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith unwaith eto".

Mae disgyblion wedi dychwelyd i ystafelloedd dosbarth ledled Cymru yr wythnos hon, er gwaetha'r ffaith bod cyfraddau achosion Covid yn parhau i gynyddu.

Yn y tymor newydd, mae mesurau Covid ysgolion unigol yn seiliedig ar lefelau risg lleol, ond mae rhai penaethiaid wedi dweud bod angen mwy o wybodaeth gan y llywodraeth wrth symud ymlaen.

Nid yw'r defnydd 'arferol' o orchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth yn cael ei argymell mwyach, a dywedodd Mr Miles cyn gwyliau'r haf y byddai swigod ysgolion yn mynd.

Ond erbyn hyn, mae'r defnydd o orchuddion wyneb a swigod yn parhau mewn ysgolion sawl ardal.

Gan fod mesurau i fod yn seiliedig ar asesiadau risg lleol, dywedodd Mr Miles fod gan ysgolion tan 20 Medi i weithredu trefniadau newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Soniodd Mr Miles am oblygiadau rheolau fel gorchuddion wyneb ar les disgyblion, ond nid oedd am ddiystyru eu defnydd chwaith.

"Rydyn ni eisoes wedi rhoi ymyriadau a mesurau ar waith, ac mae'n bosib iawn y bydd yn rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith unwaith eto," meddai.

"Nid ydym trwy Covid o gwbl ac rydym yn parhau i fonitro hyn yn ddyddiol.

"Os ydyn ni mewn sefyllfa lle mae angen cyfyngiadau pellach, yna yn anffodus bydd y rhaid i ni wneud hynny."

Ond dywedodd mai'r flaenoriaeth yw sicrhau bod plant yn parhau i gael dysgu yn yr ysgol: "Dyna rydw i eisiau i ni barhau ei ddarparu."

A fydd plant 12-15 oed yn cael eu brechu?

Mae disgwyl i brif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU wneud penderfyniad yn fuan yngl欧n 芒 brechu plant 12-15 oed ai peidio.

Dywedodd y JCVI - y corff sy'n rhoi cyngor ar frechlynnau - yr wythnos diwethaf nad oeddent yn rhoi'r golau gwyrdd oherwydd "budd ymylol" y pigiad i bobl ifanc sydd 芒 risg isel o Covid.

Ond ni wnaeth y gr诺p gysidro'r buddion posib fel lleihau'r aflonyddwch i addysg, sydd bellach yn cael ei ymchwilio gan swyddogion meddygol.

Dywedodd Mr Miles ei fod yn credu efallai y gall brechu mwy o blant oed ysgol uwchradd leihau'r effaith ar fywyd ysgol.

"Gwleidyddion ydyn ni, dydyn ni ddim yn wyddonwyr, felly rydyn ni'n dibynnu ar y cyngor hwnnw," meddai.