Tocynnau Stereophonics yn 'chwe gwaith eu gwerth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Stereophonics yn annog pobl i beidio â phrynu tocynnau ar gyfer eu gigs yn Stadiwm Principality Caerdydd ym mis Rhagfyr ar wefannau sy'n ail-werthu tocynnau.
Fe wnaeth tocynnau werthu'n dda ddoe ar gyfer eu sioe 'We'll Keep a Welcome' ble byddan nhw'n perfformio gyda Syr Tom Jones a Catfish And The Bottlemen.
Mae'r band o Gwmaman wedi cyhoeddi sioe arall ond mae tocynnau eisoes yn ymddangos ar wefannau ail-werthu anghymwys am hyd at chwe gwaith y pris gwreiddiol.
Mae Kelly Jones a Richard Jones o'r band wedi dweud wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru am eu rhwystredigaeth ynghylch prisiau uchel tocynnau.
'Pwysig cadw prisiau i lawr'
"Rydyn ni bob amser wedi bod yn fand sy'n ymfalchïo yn y ffaith nad y'n codi gormod am docynnau," meddai Kelly Jones.
"Rwy'n gwybod bod pobol rhwng 16 a 60 oed yn dod i'n cyngherddau, felly rydw i dal eisiau i'r plant ddod a does ganddyn nhw ddim llawer o arian.
"Mae'n bwysig i ni gadw prisiau i lawr a phan pethau fel yna'n digwydd mae'n rhwystredig iawn."
Cyngor Richard Jones oedd i bobl osgoi prynu tocynnau gan safleoedd ail-werthu.
"Dwi ddim yn gwybod sut y gallan nhw ei wneud o, gan fod y tocynnau ar y safleoedd eiliad yma cyn ein bod ni yn eu rhoi nhw ar werth," meddai.
"Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw'n cael eu dwylo arnyn nhw, ond dwi'n gwybod taw'r cyngor gan ein hyrwyddwr a'n rheolwyr ydy i beidio â'u prynu nhw ar y safleoedd yna a defnyddio gwefannau swyddogol.
"Chi'n gwybod bod gennych chi docyn rhesymol."
'Hanfodol dilyn y canllawiau'
Bydd mesurau Covid-19 ar waith ar gyfer y ddau ddyddiad yn Stadiwm y Principality gan y bydd y to ynghau.
Bydd yn rhaid i bawb sy'n bresennol brofi eu bod wedi cael y ddau ddos ​​o'r brechlyn Covid-19.
I rai sydd heb, bydd angen dangos eu bod wedi cael prawf llif unffordd negyddol lai na 24 awr ynghynt.
Bydd yn rhaid i bobl wisgo masgiau wrth symud o amgylch y stadiwm.
"Mae'n hanfodol bod pobl yn dilyn y canllawiau, fel bod y cyngerdd yn gallu digwydd, does neb eisiau iddo gau i gyd eto, meddai Kelly Jones.
Cafodd y band ei feirniadu'n hallt am berfformio dwy noson o'u taith Kind 2020 yn Arena Motorpoint Caerdydd ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020.
"Roedd honno'n sefyllfa hynod o ryfedd oherwydd ein bod ni yng nghanol taith arena," meddai Kelly.
"Fe wnaethon ni i gyd eistedd i lawr o flaen y teledu a gwylio'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog yn dweud, gyda'r holl wyddonwyr ar y pryd, y dylai'r holl ddigwyddiadau byw barhau.
"Felly roedden ni'n meddwl 'iawn rydyn ni'n mynd i'w wneud trwy'r penwythnos hwn heb dorri unrhyw reolau na dim'.
"Yna wrth gwrs ar y dydd Sadwrn, penderfynodd rhai o dimau pêl-droed yr Uwch Gynghrair ohirio'u gemau, fel y gwnaeth y rygbi, ac yna cafodd y bandiau wnaeth perfformio, fel cawson ni'n cynghori i'w wneud, eu beirniadu.
"Rwy'n credu ein bod wedi cael ein beirniadu, rwy'n credu bod Lewis Capaldi wedi cael ei feirniadu, a ni ddechreuodd y cyfnod clo swyddogol tan y dydd Mawrth canlynol, felly roedd yr holl beth ychydig yn wallgof, ond fe gafodd Piers Morgan hwyl!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2018