大象传媒

Gofalwyr i ymladd newidiadau gofal yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
Sian a Heather Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Price yw prif ofalwr ei merch Si芒n

Mae gofalwyr yng Nghaerffili yn dweud y byddan nhw'n brwydro yn erbyn newidiadau i ddarpariaeth gofal i oedolion anabl mewn canolfannau gofal dydd.

Mae Cyngor Caerffili yn adolygu ei wasanaethau ar hyn o bryd, gan gynnig newidiadau i ddarpariaeth gofal yn ystod y dydd.

Yn 么l y cyngor, maent yn ceisio cynnig "gwasanaeth gofal dydd modern ac addas i'w bwrpas" sydd yn "fwy cynhwysol".

Ond byddai'r newidiadau hefyd yn lleihau nifer yr oriau o ofal y mae rhai oedolion yn ei dderbyn mewn canolfannau o'r fath, sydd wedi achosi pryder i deuluoedd sy'n gofalu amdanynt.

Mae'r cyngor yn dweud ei fod am symud i ffwrdd o ofal sy'n dibynnu ar leoliad penodol, ond mae nifer o deuluoedd yn dweud fod canolfannau gofal dydd yn cynnig strwythur a chymorth i bobl anabl a'u gofalwyr.

'Mae'n frwydr'

Mae Heather Price o Fargoed wedi bod yn brwydro dros ei merch Si芒n am yr 40 mlynedd diwethaf.

Mae gan Si芒n anabledd meddyliol a chorfforol, ac am yr 20 mlynedd diwethaf mae hi wedi bod yn hapus iawn yn mynychu canolfan gofal dydd Brooklands yn Rhisga am bum diwrnod yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n (dde) a Heather Price (ail o'r dde) gyda'i chwiorydd

Gyda'r newidiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Caerffili, mae'r amser y mae Si芒n yn treulio yn y ganolfan wedi gostwng o 39 awr yr wythnos i chwech.

"Dwi mor rhwystredig. Mae'n frwydr, mae pob tro yn frwydr," meddai Ms Price, sy'n brif ofalwr i Si芒n.

"Dyw lot ohonyn nhw ddim yn hoffi newid. Maen nhw eisiau aros yn eu hamgylchedd sefydlog a diogel, mae hi gyda'i ffrindiau a phobl sy'n ei hadnabod."

Mae gan Si芒n awtistiaeth ac mae hi hefyd wedi'i chofrestru'n ddall.

Oherwydd ei hanabledd, dydy Si芒n ddim yn siarad ac mae angen cymorth sylweddol yn ei bywyd bob dydd - er enghraifft wrth wisgo a bwyta.

"Mae mynd i'r ganolfan gofal dydd yn rhoi ysbaid i mi, ac i Si芒n," meddai Ms Price.

"Rydyn ni ar wah芒n, pan mae hi'n dod adref mae hi'n hapus i ddod adref ac eisiau bod yn fy nghwmni ac rydyn ni'n gwneud gweithgareddau."

"Dyna yw ein diwrnod."

'Torcalonnus'

I'r teulu Robotham o Gaerffili, fe fydd unrhyw newidiadau i'r system gofal dydd yn "ddinistriol".

Mae gan Michael Robotham, sy'n 42, anabledd difrifol ac mae angen gofal o amgylch y cloc gan ei brif ofalwr, ei fam Sherald.

Ffynhonnell y llun, Mark Robatham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Robotham a'i fam Sherald

Roedd Michael fel arfer yn derbyn 30 awr yr wythnos o ofal yng nghanolfan Brookland, ond mae bellach ond yn derbyn chwe awr yr wythnos.

Yn 么l ei dad, Mark, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar Michael.

"Mae'n dorcalonnus i wylio fy mab, dydd ar 么l dydd, yn gaeth yn ei gadair yn siglo 'n么l a 'mlaen o flaen y teledu," meddai.

"Mae'n rhaid iddo eistedd yno am wyth, naw awr y dydd a'r unig seibiant mae'n ei dderbyn yw pan mae'n mynd i'w wely lle mae wedyn yn sownd am 10 i 15 awr."

Dywedodd Mr Robotham os nad yw'r teulu yn derbyn yr un math o gymorth 芒 chyn y pandemig, fe fydd Michael yn debygol o orfod symud i ofal preswyl.

"Mae'n siomedig a dwi'n gwybod y byddai fy ngwraig yn ei chael hi'n anodd pe bai'n rhaid iddi wneud y penderfyniad yna."

'Ni'n gwybod beth sydd orau'

Mae Cyngor Caerffili yn dweud ei fod yn ceisio datblygu gwasanaeth sydd "ddim yn dibynnu ar safle penodol ac yn cwrdd ag anghenion unigolion yn fwy effeithiol ac mewn nifer o ffyrdd ehangach".

Yn 么l gofalwyr fel Heather Price a Mark Robotham, mae'r cyngor wedi dweud y bydd hyn yn golygu darparu llai o ofal mewn canolfannau a mwy yn y gymuned, fel mynd allan am goffi neu i siopa am ychydig oriau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Robotham a'i nai Leo

Cafodd cyfarfod i 80 o ofalwyr ei gynnal yr wythnos hon yngl欧n 芒'r newidiadau, a dywedodd Ms Price bod pawb eisiau i ganolfannau gofal dydd aros fel rhan o'r ddarpariaeth gofal.

Mae'r cyngor wedi gyrru llythyrau i ofalwyr i ofyn pa fath o weithgareddau y bydd pobl eisiau eu gwneud.

Dywedodd Mr Robotham fod hyn yn "amharchus".

"Oll mae hyn wedi'i wneud yw fy atgoffa o'r hyn dydy fy mab byth wedi medru gwneud," meddai.

Mae Ms Price yn credu bod gwneud unrhyw newidiadau yn gamgymeriad.

"Dydw nhw ddim yn sefydliadau - canolfannau gofal dydd ydyn nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Heather Price fod Si芒n yn mwynhau mynd i'r ganolfan

Ychwanegodd: "Ni yw'r bobl sy'n adnabod ein meibion, merched, brodyr, chwiorydd - ni yw'r rhai sy'n gwybod beth sydd orau iddyn nhw a beth maen nhw eisiau.

"Peidiwch gwthio beth rydych chi'n credu sydd orau iddyn nhw. Ni'n sy'n gwybod beth sydd orau iddyn nhw."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerffili: "Bydd y gwasanaeth yn cael ei ehangu i weithredu saith diwrnod yr wythnos, darparu mwy o gyfleoedd i weithio a chymdeithasu yn ein cymunedau a pharhau i gynnig cymorth a gweithgareddau yn ein canolfannau gofal dydd i bobl gydag anghenion sy'n gofyn am gymorth dwys.

"Mae'n bwysig i nodi y bydd pob person sy'n defnyddio'r gwasanaeth yma yn cael eu hasesu i benderfynu sut i gwrdd 芒'u hanghenion nawr ac yn y dyfodol."