Ffoaduriaid yn gwybod 'yn fuan' eu bod mewn gwlad ddwyieithog

Ffynhonnell y llun, AFP

  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, Uned Wleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru

Bydd ffoaduriaid o Afghanistan yn sylweddoli "yn fuan" eu bod mewn cenedl ddwyieithog, medd un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y bydd yn edrych ar "ein cynlluniau presennol" sy'n helpu ffoaduriaid i ddysgu Cymraeg, er mwyn "sicrhau eu bod yn dda".

Fe wnaeth y ffoaduriaid cyntaf gyrraedd Cymru o Afghanistan yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddyn nhw ffoi o Kabul wedi i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad.

Dywedodd yr Urdd eu bod yn cyflwyno'r Gymraeg "yn naturiol drwy gyfrwng ein gweithgareddau" i blant a phobl ifanc sy'n ffoaduriaid.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Yn y Senedd, gofynnwyd i'r gweinidog gan AS Plaid Cymru Heledd Fychan a oedd yn cytuno "fel rhan o roi pob cyfle i ffoaduriaid gwmpasu eu bywyd yng Nghymru yma yn llawn, y dylid hefyd gynnwys rhoi cyfle iddynt ddysgu Cymraeg os ydynt eisiau?"

Disgrifiodd hi'r fel rhai "oedd yn emosiynol ac yn gwneud imi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes".

Atebodd y gweinidog bod "yna lawer o ffoaduriaid yng Nghymru sydd wedi bod eisiau ac wedi bod yn barod ac wedi dysgu Cymraeg".

"Rhaid i ni nawr edrych ar ein cynlluniau, ein cynlluniau presennol, a sut y gallwn sicrhau eu bod yn dda".

Ychwanegodd y bydd ffoaduriaid, yn enwedig plant "o ran ein system addysg a'u profiad gyda'r Urdd... yn mynd i weld yn gyflym iawn eu bod nhw yng Nghymru a beth mae hynny'n ei olygu fel cenedl ddwyieithog".

Disgrifiad o'r fideo, Mohamad Karkoubi o Syria yn ymarfer ei Gymraeg yn y gwaith

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ffoaduriaid yn cael pob cyfle i ddysgu Cymraeg, fel y nodir yn ein Cynllun Cenedl Noddfa.

"Drwy ein gwaith gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn darparu cymorth i ddysgwyr o bob cefndir ddysgu Cymraeg.

"Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn archwilio sut y gall helpu teuluoedd o Afghanistan i ddysgu Cymraeg."

Dywedodd Jane Hutt bod "Cymru bellach wedi croesawu mwy na 50 o deuluoedd o Afghanistan ac mae gwaith yn parhau i gynyddu hyn ymhellach".

Mae Urdd Gobaith Cymru ymhlith yr asiantaethau sy'n rhan o'r cynllun, gan ddarparu llety i'r teuluoedd yn y lle cyntaf wedi iddyn nhw gyrraedd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: "Mae nifer helaeth o'r ffoaduriaid mae'r Urdd yn lletya yn blant a phobl ifanc, ac fel mudiad ieuenctid mae gennym staff brwdfrydig sydd yn edrych ymlaen at gychwyn y gwaith o'u cefnogi.

"Rydym wedi trefnu amserlenni dyddiol yn llawn gweithgareddau chwaraeon a chelfyddydol ar eu cyfer, a byddwn yn cyflwyno'r Gymraeg yn naturiol drwy gyfrwng ein gweithgareddau."