'Angen atebion' am benderfyniadau'r pandemig

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Louise a Vernon Hough ar y noson cyn iddo ladd ei hun y llynedd
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae gwraig perchennog cartref gofal a laddodd ei hun yn ystod ton gyntaf Covid yn galw am ymchwiliad cyhoeddus ar wah芒n i Gymru.

Roedd Louise a Vernon Hough yn rhedeg cartref gofal Gwastad Hall yng Nghefn-y-Bedd, Wrecsam, ar y pryd ac mae hi eisiau gwybod pam benderfynodd Llywodraeth Cymru beidio 芒 phrofi pobl mewn cartrefi gofal yma, tra bod Lloegr wedi gwneud hynny.

Yn 么l Llywodraeth Cymru doedd dim tystiolaeth glinigol i brofi bod gwerth gwneud hynny ar y pryd, er iddyn nhw newid eu meddwl yn ddiweddarach ar sail cyngor gwyddonol.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dadlau mai ymchwiliad Prydeinig i'r ymateb i'r pandemig ydy'r "opsiwn gorau".

Ond mae Mrs Hough yn dweud eu bod yn teimlo wedi'u "gadael ar 么l" gan Lywodraeth Cymru heb unrhyw offer PPE, profion nac ocsigen i'r cleifion.

Fe saethodd ei g诺r, Vernon, ei hun y tu allan i bencadlys yr heddlu yn Llai ar 21 Mai 2020.

'Dim cadarnhad beth oedd yn bod efo'r cleifion'

Meddai Mrs Hough: "Y profion oedd y peth pwysica'. Roeddan ni angen profion er mwyn gwybod be' oeddan ni'n delio ag o, a sut i ddelio ag o, achos 'doedd ganddon ni ddim cadarnhad o'r hyn oedd yn bod efo'r cleifion.

"Hyd yn oed pan o'n i'n gofyn am brofion ar 么l i'r cleifion fu farw, dim ond fel cadarnhad, 'doedd hynny ddim yn bolisi yng Nghymru.

"Roedd o'n rhwystredig iawn bod ni'n methu lleddfu dioddefaint y cleifion o gwbl.

"Pan ofynnais i un meddyg fyddai modd cael ocsigen ar y safle, doedd y meddyg ddim yn gwybod sut fyddai hynny'n bosib. ac mi roddodd bresgripsiwn am feddyginiaeth diwedd oes."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Louise Hough iddi hi a'i g诺r gael eu llorio gan y penderfyniad i beidio 芒 phrofi staff a phreswylwyr cartrefi gofal

Ddiwedd mis Ebrill 2020 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal Lloegr yn cael eu profi, hyd yn oed os nad oedd ganddyn nhw symptomau.

Ond nid dyna fel oedd hi yng Nghymru, gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth glinigol i brofi gwerth gwneud hynny.

Roedd y penderfyniad wedi llorio Mrs Hough a'i g诺r, meddai.

"Roeddan ni'n gwylio fo ar y teledu, adre' ar y newyddion, ac roedd y ddau ohonan ni'n syfrdan. Roeddan ni'n meddwl... lle 'da ni'n mynd o fa'ma? Roeddan ni'n cerdded drwy fwd.

"Doedd 'na ddim help o 'nunlle ac alla' i ddim disgrifio pa mor ofnadwy oedd o i'r ddau ohonan ni. Wrth gwrs, nes i ddim sylweddoli faint oedd o'n effeithio ar Vern."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Vernon Hough wedi cynllunio ar gyfer ymddeol wedi 33 mlynedd o redeg y cartref gofal gyda'i wraig

Ni ddaeth profion i bawb mewn cartrefi gofal yng Nghymru i rym tan ganol Mai'r llynedd, pan ddywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, bod 'na newid wedi bod yn y dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol.

Roedd 12 o gleifion cartref Gwastad Hall wedi marw ym misoedd cyntaf y pandemig, ond yn 么l Mrs Hough dydyn nhw'n dal ddim yn gwybod faint yn union oedd wedi dal Covid yno oherwydd y diffyg profion.

Roedd gweld yr holl ddioddefaint wedi cael effaith ofnadwy ar ei g诺r, meddai, a'r ffaith nad oedd cyflenwadau ocsigen ar gael iddyn nhw yn gwneud pethau'n waeth.

"Roedd o wrth ei fodd efo'r cleifion," meddai. "Roedd eu gwylio nhw'n diodde' fel wnaethon nhw... petai nhw wedi cael eu profi, fasa nhw wedi gallu cael eu trin o leia'.

"Fe ddylien ni fod wedi cael ocsigen yma i'w helpu. Pwy benderfynodd nad oeddan ni'n cael rhoi'r cysur yna iddyn nhw?"

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Fis Mai eleni cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y byddai 'na ymchwiliad cyhoeddus Prydeinig i edrych ar yr ymateb i'r pandemig.

Ond mae Mrs Hough yn un o gr诺p o ymgyrchwyr sy'n galw r诺an am ymchwiliad penodol i Gymru.

Ychwanegodd: "Mae iechyd wedi'i ddatganoli. Cafodd y penderfyniadau eu gwneud gan Mark Drakeford, felly mae angen iddo fo ateb y cwestiynau.

"Mae'r gr诺p i gyd yn teimlo bod yn rhaid cael ymchwiliad yn benodol i Gymru, nid un ar gyfer y DU i gyd. Mae'n rhaid i rywun fod yn atebol yngl欧n 芒 phwy oedd yn gwneud y penderfyniadau yma."

Ond yn 么l Mr Drakeford, ymchwiliad eang ar gyfer Prydain gyfan ydy'r "opsiwn gorau".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn "cynnig cyfle i edrych ar natur penderfyniadau cysylltiedig ar draws y pedair gwlad".

Ychwanegodd bod Mr Drakeford wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Lywodraeth y DU yngl欧n 芒 "nifer o'r materion penodol y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio arnyn nhw o ran gweithredoedd Llywodraeth Cymru".

'Rhaid dysgu gwersi'

Mae Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.

"Dwi'n si诺r y byddai pawb yn Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector eisiau gwneud pethau'n wahanol," meddai.

"Ar ddechrau'r pandemig roedd problemau mawr ac mae 'na gartrefi gofal ar draws Cymru wedi teimlo wedi'u gadael lawr gan y llywodraeth.

"Rhaid i ni ddysgu gwersi am y sefyllfa. 'Da ni'n hapus i weithio gydag ymchwiliad Cymreig neu Brydeinig i sicrhau bod hanes y sector gofal cymdeithasol wedi'i glywed."

Disgrifiad o'r llun, Plac ar fainc sy'n coff谩u Vernon Hough

Mae Louise Hough wedi gwerthu cartref Gwastad Hall erbyn hyn ac wedi ymddeol - rhywbeth yr oedd hi a'i g诺r wedi edrych ymlaen ato, ond roedd y pandemig wedi newid popeth.

Meddai: "Mi fasa fo wedi bod wrth ei fodd wedi ymddeol.

"Roeddan ni wedi gweithio yn y cartre' gofal ers dros 33 mlynedd ac roedd ganddon ni lawer o gynlluniau i'r dyfodol. Ond 'doedd hynny ddim i fod yn anffodus.

"'Da ni angen atebion. Nid dim ond i fy mherthnasau i, ond i berthnasau eraill. Mae angen iddyn nhw fod yn atebol am y penderfyniadau wnaethon nhw."