大象传媒

Adrannau brys yn cofnodi'u ffigyrau gwaethaf erioed eto

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Eluned Morgan: 'Posib iawn' fydd pethau'n gwaethygu cyn gwella

Mae'r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed wedi cael eu cofnodi unwaith eto gan adrannau brys ysbytai Cymru gan adlewyrchu'r pwysau enfawr ar ofal brys yn y GIG.

Dim ond 68.7% o gleifion sy'n treulio llai na phedair awr cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, yn 么l y ffigyrau.

Dangosai'r ffigyrau hefyd bod y gwasanaeth ambiwlans wedi cofnodi ei berfformiad amser ymateb ail waethaf i'r galwadau mwyaf critigol ers i fesurau newydd gael eu cyflwyno yn 2015.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen ar restrau aros am driniaethau wedi'u cynllunio, gyda'r nifer uchaf erioed o bobl hefyd yn aros am fwy na naw mis i gael eu trin.

Targed adrannau brys yw na ddylai 95% o gleifion aros fwy na phedair awr.

Roedd y ffigwr diweddaraf (68.7%) i lawr o 69.8% ym mis Gorffennaf a oedd ei hun yn record.

Ym mis Awst roedd yn rhaid i 7,982 o bobl aros mwy na'r targed o 12 awr mewn adrannau gofal brys - y nifer uchaf a gofnodwyd, i fyny o 7,084 y mis cynt.

Ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i 57.6% o alwadau coch (lle mae bywyd mewn perygl uniongyrchol) o fewn wyth munud ym mis Awst - i lawr o 57.8% ym mis Gorffennaf.

Dyma'r amseroedd ymateb misol ail waethaf ers cyflwyno targedau newydd yng Nghymru yn 2015.

'Gaeaf anoddaf erioed'

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 643,108 - neu dros 20% o boblogaeth Cymru - ar restrau aros y GIG yng Nghymru. Dyma'r nifer uchaf erioed.

Mae 239,195 o bobl wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos (naw mis) am driniaeth - record newydd eto.

Mae hyn fwy na naw gwaith yn fwy na'r ffigyrau ar ddechrau'r pandemig - gyda 25,534 yn aros mwy na naw mis ym mis Chwefror 2020.

Wrth ymateb i'r ffigyrau amseroedd aros, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod y GIG yn wynebu'r "gaeaf anoddaf y'n ni byth wedi gweld".

Roedd yn cyfaddef hefyd ei bod "yn ofni" yr hyn sydd i ddod, gan ddweud y gallai pethau fynd yn waeth cyn eu bod yn gwella.

"Dy'n ni ddim lan i 100% o operations sydd wedi'u cynllunio, a tan i ni gyrraedd hynny ni'n gwybod y bydd y niferoedd yn dal i gynyddu," meddai.