Plant yn fwy agored i salwch cyffredin y gaeaf hwn?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd plant yn fwy agored i salwch cyffredin y gaeaf hwn oherwydd "dyled imiwnedd" a gr毛wyd yn ystod y cyfnod clo, medd gwyddonwyr Llywodraeth Cymru.
Dywedodd prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, y gallai ail-ymddangosiad afiechydon anadlol, a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf, "achosi problemau".
Mae yna "lawer iawn o ansicrwydd" yngl欧n 芒 beth allai ddigwydd nesaf yn y pandemig, meddai. Gallai amrywiolion newydd o Covid ddod i'r amlwg a gallai fod "cyd-heintio" 芒 salwch eraill.
"Beth fydd yn digwydd os bydd ffliw a Covid yn digwydd yng Nghymru?" meddai wrth bwyllgor iechyd y Senedd.
"Efallai ein bod ni wedi pentyrru rhywfaint o ddyled imiwnedd yn y system lle nad yw plant wedi bod yn cymysgu 芒 ffrindiau ac felly efallai eu bod nhw'n fwy tueddol o gael rhai o'r afiechydon rydyn ni'n eu gweld yn draddodiadol."
Plant wedi dioddef 'yn anghymesur'
Dywedwyd wrth ASau fod plant yn llawer llai tebygol o fynd yn ddifrifol wael gyda'r coronafeirws neu ddatblygu Covid hir.
Ond dywedodd Fliss Bennee, cyd-gadeirydd cell gynghori dechnegol y llywodraeth, fod plant wedi dioddef "yn anghymesur" yn y pandemig trwy golli addysg a chwarae.
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn ymwybodol bod niwed sy'n cronni o fethu 芒 chael rhyngweithio cymdeithasol sy'n arwain at ddatblygu imiwnedd rhag dod i gysylltiad 芒 chlefydau heintus eraill."
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ei fod yn poeni am y gaeaf oherwydd bod "lefel uchel iawn o weithgaredd ysbyty" eisoes.
Roedd "lefelau uchel iawn o drosglwyddo cymunedol", ond roedd hynny'n "llawer llai" niweidiol nag yn nhonnau cyntaf ac ail y coronafeirws oherwydd y brechlynnau, meddai.
Roedd achosion wedi "sefydlogi" yr wythnos ddiwethaf, ond wedi codi eto yn ystod y dyddiau diwethaf "sydd yn 么l pob tebyg yn adlewyrchiad o'r ysgolion yn mynd yn 么l oherwydd ein bod ni'n gwybod pan fydd yr ysgolion hynny ar waith mae mwy o gymysgu cymunedol yn gyffredinol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021