Teulu methu fforddio gofal cynnal bywyd wrth i gost ynni godi
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Ynys M么n sydd 芒 dwy ferch ar beiriannau cynnal bywyd yn y cartref yn dweud na allan nhw ddygymod 芒 biliau ynni cynyddol.
Os na fyddan nhw'n gallu cael cymorth i dalu am y trydan i bweru'r holl offer, maen nhw'n dweud efallai y bydd rhaid i'r merched ddychwelyd i'r ysbyty am ofal.
Mae Pam a Mark Gleave, o Amlwch, wedi mabwysiadau tri phlentyn ac mae'r tri yn dibynnu ar beiriannau cynnal bywyd.
Yn 么l Ms Gleave, 60, yn ddiweddar mae costau rhedeg y peiriannau wedi cynyddu'n "anhygoel" a tydyn nhw ddim yn gwybod lle i fynd i gael cefnogaeth.
Mae'r plant angen gofal 24 awr, tydyn nhw ddim yn medru siarad na cherdded.
Bil trydan 拢776 y mis
Wrth i iechyd y tri phlentyn ddirywio, mae angen mwy o beiriannau, ac o ganlyniad mae'r biliau ynni wedi codi gan fod anghenion meddygol y plant hefyd wedi cynyddu.
Mae gan y ddwy chwaer - Katie 19, a Kelly 14, syndrom PEHO, cyflwr genynnol niwrolegol dirywiol.
Cafodd y ddwy eu mabwysiadu gan Pam a Mark Gleave ar 么l i'r cwpl ofalu amdanyn nhw fel rhieni maeth am gyfnod.
Mae gan Pam and Mark ddau o blant eu hunain sydd bellach wedi gadael y nyth.
Ar hyn o bryd, mae Mason, 12 - eu mab arall sydd ag anghenion meddygol dwys o ganlyniad i anaf ar yr ymennydd - yn cael triniaeth dros dro yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.
Mae'r chwiorydd a'u brawd yn byw ochr yn ochr mewn ystafell wydr a gafodd ei haddasu'n arbennig 15 mlynedd yn 么l ac sy'n sownd i'r t欧.
Mae hi'n ystafell fawr sydd 芒 dros 60 o blygiau ac sy'n llawn offer meddygol. Mae cost gwresogi ac oeri'r ystafell wydr hefyd yn uchel.
Dywedodd Pam Gleave: "Mae ein bil trydan 拢776 y mis heb gynnwys costau gwresogi nac unrhyw beth arall.
"Tydi o'm yn beth normal i deulu fod 芒 38 o beiriannau meddygol sy'n rhedeg bob awr o'r dydd.
"'Da ni'n gweld prisiau yn mynd i fyny ac i fyny. Lle 'da ni'n mynd i gael hyd i'r arian?"
Cafodd Mark Gleave ei ddiswyddo o Orsaf B诺er Wylfa ddwy flynedd yn 么l ac roedd o'n bwriadu defnyddio'r arian diswyddo i dalu'r morgais, ond ers hynny mae iechyd y plant wedi dirywio'n arw.
O fewn cyfnod o dair blynedd, ers 2018, mae'r tri phlentyn wedi eu trosglwyddo i beiriannau cynnal bywyd, gan arwain at gostau trydan a gwresogi ychwanegol sylweddol.
Felly, mae'r cwpl wedi newid eu cynlluniau a bellach yn defnyddio'r arian diswyddo i dalu biliau.
Eu prif bryder r诺an ydy beth fydd yn digwydd pan fydd yr arian yna'n gorffen, gan na fyddan nhw'n gallu fforddio i dalu costau cynnal yr holl offer cynnal bywyd.
"Mae'r peiriannau angen eu gwefru'r gyson ac mae angen batris wedi eu pweru wrth gefn.
"Mae'n anodd dros ben. Ar hyn o bryd rydym yn byw ar bensiwn Mark, sy'n llawer llai na thraean o'r hyn yr oedd o'n arfer ei ennill fel cyflog.
"Doedd hyn ddim yn broblem pan oedd Mark mewn gwaith, achos ar y pryd, mi roedd o'n gweithio saith diwrnod yr wythnos, ac wnaethon ni erioed fynd ar ofyn unrhyw un am ddim.
"Os na all y plant aros adref, yna'r dewis ydy eu hanfon yn 么l i'r ysbyty, ac mae hynny'n orffwyll.
"Dwi'n meddwl fod y gost o gadw plentyn yn Alder Hey yn tua 拢2,000 y diwrnod."
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n talu am ofalwyr y plant a'r holl offer, ac mae'r teulu'n pwysleisio bod y pecynnau gofal a ddarperir yn dda iawn.
Ond cyfrifoldeb y rhieni ydy'r costau rhedeg, ac mae'r cwpl yn ofni na allen nhw ymdopi heb gymorth ariannol.
Maen nhw wedi gofyn am arweiniad gan staff iechyd a'u cyflenwr ynni, ond yn teimlo ar goll heb wybod yn iawn at bwy i ofyn am help.
"Y cwbl 'da ni'n ofyn - oes yna ryw ffordd i ni gael cymorth?
"Mae hi'n go anghyffredin i deulu orfod talu gymaint o filiau jest er mwyn sicrhau fod eu plant yn cael byw gartref.
"Ein nod ni ydy cadw'r plant adref. Rhoi ansawdd bywyd da iddyn nhw sy'n bwysig.
"Mae gennym ni weithwraig gymdeithasol arbennig, a dwi'n ymwybodol eu bod nhw'n ceisio edrych ar ein sefyllfa ni.
"Ond dwi'n credu, eu bod nhw hefyd yn yr un cwch 芒 ni. Tydi hyn heb ddigwydd o'r blaen - felly lle 'da ni'n mynd?"
Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'n ddrwg gennym glywed am bryderon Mr and Mrs Gleave.
"Rydym wedi ymroi i weithio gyda nhw i roi'r gofal gorau posib i'w plant a byddwn yn cysylltu gyda'r teulu i weld sut y gallwn helpu ymhellach."
Mae pryderon wedi codi hefyd am gyflwr to'r ystafell wydr.
Mae'n gollwng mewn mannau, mae'n oer dros ben yn y gaeaf ac yn annioddefol o boeth yn ystod misoedd yr haf.
Os na chaiff to newydd ei adeiladu'n fuan, meddai'r teulu, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw adleoli'r plant o fewn y cartref.
Tydyn nhw ddim isio gwneud hynny, gan nad ydyn nhw eisiau gweld y plant yn byw ac yn cysgu ar wah芒n mewn ystafelloedd sy'n anaddas i'w hanghenion.
Maen nhw'n y broses o chwilio am help i osod to newydd.
"Mae hi fel petai ni'n brwydro, ond ddim yn cael yr atebion.
"Nid ein bwriad ni ydy gweld bai a chwyno, achos mae pobl wedi bod yn wych, ein gweithwraig gymdeithasol, y ventilator nurse.
"Y gwir ydy, does genno' ni'm syniad at bwy i droi, tyda ni ddim yn gwybod beth i wneud.
"O ran y plant, tyda ni ddim yn gwybod be ddaw dros y misoedd nesa, ac mae hynny'n bryder mawr."
'Rhyfeddol'
Mae'r ystafell wydr yn gartrefol ac mae ganddi olygfa odidog dros gaeau glas tuag at Fynydd Parys, mae'r waliau wedi eu gorchuddio 芒 lluniau hapus ac atgofion teuluol.
Mae Pam Gleave yn cofleidio'r merched am yn ail yn ddi-baid.
"Faswn i fyth isio newid ein bywydau o gael bod 'efo'r plant hyfryd yma, maen nhw'n anhygoel.
"Mewn byd fel yr un yma 'da ni'n byw ynddo, wir i chi, maen nhw'n rhyfeddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021