Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryderon banciau bwyd am dorri credyd cynhwysol
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Yr wythnos hon fe fydd y cynnydd o 拢20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith yn dod i ben.
Ond mae teuluoedd sy'n derbyn y cymorth, ac elusennau sy'n eu helpu, yn pryderu am effaith y toriadau i'r gyllideb ar bobl sydd ei angen.
Mae Canolfan Maerdy yn Nhairgwaith, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn casglu bwyd o archfarchnadoedd lleol ac elusen Fareshare Cymru, ac fe fydd t卯m o wirfoddolwyr wedyn yn paratoi'r bwyd mewn bocsys er mwyn i deuluoedd ddod i'w casglu.
Ar y diwrnod y bues i yno roedd dros ddeugain o focsys bwyd wedi eu pacio. Digon i baratoi prydau i tua 150 o bobl - y rhan fwyaf o Ddyffryn Aman. Ond mae rhai wedi teithio yma o Gydweli, Abertawe ac Aberhonddu.
Mae'r banc bwyd ar agor tridiau'r wythnos.
Dywedodd un o sylfaenwyr yr hwb bwyd, Len Preece bod y sefyllfa yn gwaethygu, a'u bod nhw nawr yn "dechre gweld pobl broffesiynol fel nyrsys er enghraifft" yn cyrraedd, yn enwedig ar ddiwedd y mis cyn i bobl dderbyn eu cyflogau.
"'S'dim digon o arian gan deuluoedd i brynu bwyd," meddai.
Un o gefnogwyr y cynllun yw Julia Davies, sydd yn gweithio yn y feithrinfa yn y ganolfan. Mae hi'n dweud bod galw mawr am yr help sydd ar gael yn yr hwb bwyd, "a gyda phrisiau popeth yn codi, bydd mwy o alw cyn bo hir".
Mae'r 拢20 a gafodd ei ychwanegu yn wythnosol i bobl sydd yn derbyn credyd cynhwysol yn cael ei dorri, ac yn dod i ben yn swyddogol ar 6 Hydref.
Mae hwn wedi ei ddisgrifio fel y toriadau mwyaf i ofal cymdeithasol ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn 么l Llywodraeth y DU, roedden nhw wedi gwneud yn glir o'r dechrau fod y cynnydd o 拢20 ond yn fesur dros dro i gefnogi cartrefi gafodd eu heffeithio gan sioc economaidd Covid-19.
Ond er mai dyddiau yn unig sydd i fynd cyn i'r cymorth ychwanegol ddod i ben yn swyddogol, mae gwleidyddion ac elusennau yn dal i apelio ar y llywodraeth i newid eu meddwl.
Yn y dyddiau diwethaf mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a holl brif weinidogion y gwledydd datganoledig wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn galw arno "gyda'r brys mwyaf, i wyrdroi penderfyniad annoeth".
Ac yng Nghanolfan Maerdy yn Nhairgwaith mae pryder gwirioneddol ymysg gwirfoddolwyr bod gaeaf prysur o'u blaenau, gyda mwy o alw am help.
"Os oes gyda chi'r dewrder i giwio mewn banc bwyd... ry'ch chi si诺r o fod wedi cyrraedd pen eich tennyn," meddai Mr Preece.
"Ry'n ni nawr yn helpu tua 1,000 o bobl y mis, ond wrth i bris bwyd a thanwydd godi, bydd y galw am gymorth yn cynyddu, a'r ciwiau fan hyn yn hwb bwyd Canolfan Maerdy yn mynd yn hirach."