Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaethau wythnosol Covid 19 yr uchaf ers mis mawrth
Cafodd 88 o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid 19 eu cofrestru yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 24 Medi, yn 么l ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae hynny 22 yn uwch na'r wythnos flaenorol, a dyma'r cyfanswm wythnosol uchaf ers dechrau mis Mawrth.
Mae nifer y marwolaethau wythnosol wedi bod yn cynyddu dros y tair wythnos diwethaf, ac mae cyfanswm y marwolaethau yn ymwneud 芒 Covid 19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig yn 么l ffigyrau'r ONS yn 8,280.
Caiff ffigyrau'r ONS eu paratoi mewn dull wahanol i rhai dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn yr wythnos hyd at 24 Medi, roedd yna 25 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - 18 mewn ysbytai, 5 mewn cartrefi gofal, a 2 mewn cartrefi eraill.
Roedd 21 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - yr uchaf yno ers canol mis Chwefror. Roedd 17 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, 10 ym Mae Abertawe, 6 o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, 5 ym Mhowys, a 4 yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Roedd 11 o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal, sydd hefyd y nifer wythnosol uchaf ers dechrau mis Mawrth.
Wrth edrych ar siroedd, Ceredigion oedd yr un unig sir lle na chafodd yr un farwolaeth yn ymwneud 芒 Covid 19 eu cofrestru yn yr wythnos o dan sylw, gyda Rhondda Cynon Taf 芒'r nifer uchaf, sef 13.
Llai o farwolaethau na'r ail don
Mae 374 o farwolaethau wedi cael eu cofrestru hyd yma yn ystod trydedd ton y pandemig, sy'n 3 marwolaeth y dydd ar gyfartaledd, er bod y cyfartaledd wedi codi i 8 y dydd dros y mis diwethaf. Mae hynny'n cynnwys 20 o farwolaethau gafodd eu cofrestru ar 15 Medi - y nifer dyddiol uchaf ers 21 Chwefror.
Ond mae hynny'n cymharu 芒 25 marwolaeth y dydd ar gyfartaledd yn ystod yr ail don yn ei chyfanrwydd, a thros 50 marwolaeth y dydd ar y pwynt yma yn yr ail don.
Wrth edrych ar nifer y marwolaethau 'ychwanegol' yng Nghymru, sy'n cymharu cyfanswm y marwolaethau o unrhyw achos meddygol gyda'r un cyfnod mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r ffigyrau yn uwch na'r cyfartaledd am y degfed wythnos yn olynol.
Roedd yna 136 marwolaeth yn fwy na'r cyfartaledd pum mlynedd yn y ffigyrau wythnosol diweddaraf. Roedd 12.4% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofrestru yn yr wythnos hyd at 24 Medi yn nodi Covid 19 ar y dystysgrif.
Mae edrych ar nifer y marwolaethau sydd i'w disgwyl yn arferol ar adeg penodol o'r flwyddyn yn cael ei weld fel ffordd ddibynadwy o fesur sefyllfa'r pandemig.