Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wrecsam gam yn nes at fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025
Mae Wrecsam yn un o wyth ardal sydd wedi'i henwi ar restr hir Dinas Diwylliant y DU yn 2025.
Roedd cyfanswm o 20 ardal wedi gwneud cais am y statws ymhen pedair blynedd - pump o'r rheiny yng Nghymru.
Tra bod Wrecsam wedi cyrraedd rownd nesaf y broses ddethol ni fydd ceisiadau Bangor a gogledd-orllewin Cymru, Casnewydd, Sir Conwy a Phowys yn mynd ymhellach.
Y saith man arall sy'n dal 芒 gobaith o fod yn Ddinas Diwylliant ydy ardal Armagh, Banbridge a Craigavon yng Ngogledd Iwerddon, Stirling yn Yr Alban, a Bradford, Cernyw, Durham, Derby a Southampton yn Lloegr.
Bydd yr wyth ardal ar y rhestr hir nawr yn derbyn 拢40,000 er mwyn datblygu cais llawn.
'Cynrychioli Cymru'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fod Wrecsam "wedi gwneud yn eithriadol o dda er mwyn cynrychioli Cymru ar y rhestr hir".
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth ymgeisio i fod yr ardal gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant y DU," meddai.
Ychwanegodd bod gan y dref hanes diwylliannol, gan nodi safle treftadaeth Traphont Pontcysyllte, un o glybiau p锚l-droed hynaf y byd, a Theatr Stiwt.
Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dirprwy Weinidog Celfyddydau Cymru, Dawn Bowden y byddai sicrhau statws Dinas Diwylliant y DU 2025 "yn wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam".
Ychwanegodd: "Mae gyda ni ddiwylliant unigryw a rhagorol yma yng Nghymru, yr ydym oll yn falch ohono. Rwy'n dymuno i'r byd wybod pa mor wych ydy o hefyd!"
Unwaith bob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2025 yn olynu Coventry fel Dinas Diwylliant 2021.
Bydd y rhestr fer derfynol gael ei chyhoeddi ar ddechrau 2022, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.
Bwriad statws Dinas Diwylliant y DU ydy rhoi cyhoeddusrwydd i wahanol ardaloedd o'r wlad er mwyn eu "rhoi ar y map diwylliannol ledled y byd".
Er mwyn ennill yr hawl am y statws mae'n rhaid i'r ardaloedd brofi y gallan nhw roi diwylliant wrth galon eu cynlluniau i adfer o effaith y pandemig.
Hwb ariannol
Dywedodd Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU bod ymgeisio am y statws wedi profi'n hwb enfawr i ardaloedd yn y gorffennol, hyd yn oed yn y llefydd hynny na lwyddodd i gael eu henwi'n Ddinas Diwylliant.
Ond mae gwobrau llawer mwy i'r enillwyr, gyda dinas Coventry wedi derbyn dros 拢15.5m gan Lywodraeth y DU i gefnogi ei blwyddyn fel Dinas Diwylliant 2021. Roedd Coventry eisoes wedi denu dros 拢100m mewn buddsoddiad o ganlyniad i'r statws.
Roedd Abertawe ymysg y pum ardal oedd ar y rhestr fer ar gyfer 2021 ond dinas Coventry gafodd ei dewis i olynu Hull.