Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Gweriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Tomas Soucek yn herio Aaron Ramsey am y b锚l

Cyfartal oedd y g锚m rhwng Cymru a'r Weriniaeth Tsiec yng ngr诺p rhagbrofol Cwpan y Byd 2022, er bod Cymru wedi llawn haeddu ei hennill.

Er i Gymru agor y sgorio, bu'n rhaid iddyn nhw frwydro i sicrhau pwynt oddi cartref yn yr ail hanner wedi i gamgymeriad trychinebus arwain at g么l i'w rwyd ei hun gan y golwr, Danny Ward.

Y capten Aaron Ramsey a Dan James wnaeth sgorio goliau Cymru mewn g锚m hynod gyffrous, sy'n golygu bod y Weriniaeth Tsiec yn parhau'n ail yng Ngr诺p E gyda'r un nifer o bwyntiau 芒 Chymru sy'n aros yn y drydedd safle.

Mae'r golygon nawr yn troi at g锚m nos Lun oddi cartref yn Estonia, a gurodd Belarws 2-0 nos Wener.

Roedd yna ddechrau tanllyd yn Stadiwm Sinobo, Prague ac arwyddon cynnar y byddai'r g锚m yn cael ei dyfarnu'n llym.

Roedd yna gardyn melyn i Ramsey yn y funud gyntaf am daro chwaraewr gyda'i benelin wrth godi i geisio penio'r b锚l. Cafodd Dan James rybudd bron yn syth wedi hynny am gicio'r b锚l o'r maes wedi dyfarniad ei fod yn gamsefyll.

Y capten yn sgorio

Fe arbedodd Danny Ward ddau ymgais addawol gan Adam Hlozek a Patrik Schick, cyn ymdrech gwirioneddol cyntaf Cymru ar y g么l - cyfle da i Kieffer Moore o b脿s James. Ond efallai bod James wedi aros eiliad yn rhy hir cyn croesi gan roi amser i'r golwr ddod yn agosach ar yr ymosodwr ac o ganlyniad fe darodd Moore y b锚l yn syth ato.

Aeth Cymru ar y blaen wedi 35 o funudau - fe gyffyrddodd croesiad Neco Williams ben James ac fe laniodd y b锚l wrth draed Ramsey ar ochr chwith y cwrt. Fe gymrodd ei amser, a dau gyffyrddiad i reoli'r b锚l i'w wthio'n isel ar ongl eithaf tynn i gornel dde'r rhwyd.

Ond fe barodd y fantais gwta funud. Manteisiodd Jacub Pesek ar hanner arbediad gan Ward a bwlch rhwng tri o amddiffynwyr Cymru i ddod 芒'r t卯m cartref yn gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Joe Allen ac Adam Hlozek yn mynd am y b锚l

1-1 oedd y sg么r wedi hanner cyntaf campus ac roedd sawl rheswm i'r hyfforddwr Robert Page fod yn falch o berfformiad ei d卯m.

Ond cafodd unrhyw foddhad ei chwalu'n deilchion yn dilyn y g么l a roddodd y Weriniaeth Tsiec ar y blaen dair munud wedi'r egwyl.

Pan y pasiodd Ramsey'r b锚l yn 么l i'w golwr, roedd yn ymddangos bod Ward heb ragweld y posibilrwydd y byddai'n mynd i'r rhwyd. Ymatebodd yn hamddenol, gan geisio'i rheoli gyda'i draed ond fe gyfeiriodd y b锚l dros y llinell.

Fe gollodd Cymru fomentwm am gyfnod, ac roedd y dorf wedi tawelu.

Roedd hynny cyn ymdrechion gan Moore a Ramsey i geisio taro'n 么l - a chyn i Harry Wilson a Connor Roberts ddod i'r maes yn lle Joe Morrell a Chris Gunther.

Fe wnaeth yr eilyddio wahaniaeth. P脿s wych gan Wilson wnaeth gyrraedd James a darodd y b锚l ar draws y cwrt o'r dde i gornel chwith y rhwyd i'w gwneud hi'n 2-2 - ei g么l ryngwladol gyntaf oddi cartref.

Cynyddu'r pwysau ar eu gwrthwynebwyr wnaeth Cymru wedi hynny, gydag ymdrechion addawol gan Ramsey, Wilson, Moore a Roberts.

Ond roedd angen gwaith amddiffynnol cryf hefyd, gan gynnwys gan Sorba Thomas a ddaeth i'r maes yn lle Neco Williams ar gyfer ei g锚m ryngwladol gyntaf.

Parhau i bwyso tan eiliad olaf yr amser ychwanegol wnaeth Cymru ond 2-2 oedd y sg么r terfynol.