大象传媒

Mwy o domenni glo segur Cymru yn rhai 'risg uchel'

  • Cyhoeddwyd
Tylerstown landslip
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tirlithriad Pendyrus wedi gadael craith ar y llethr

Mae mwy o domenni glo segur yng Nghymru wedi cael eu dosbarthu fel rhai "risg uchel".

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd 327 safle allan o 2,456 angen cael eu harolygu'n amlach wedi iddynt gynnal arolwg diogelwch.

Ym mis Chwefror roedd y nifer yn 294.

Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "bod y llywodraeth yn gweithredu er mwyn cael gwared 芒 chymaint o risgiau 芒 phosib".

Fe ddechreuodd y gwaith o arolygu y rhai 芒 statws risg uchel wythnos ddiwethaf.

Does dim gwybodaeth wedi cael ei roi yngl欧n 芒 lleoliad y tomenni glo a dywed Llywodraeth Cymru bod angen cwblhau "gwaith ansawdd pellach a phrosesau eraill cyn rhyddhau data i'r cyhoedd".

Mae'r wybodaeth eisoes wedi cael ei rhoi i gynghorau lleol fel eu bod yn medru helpu gyda chynllunio brys.

Yn 么l Llywodraeth Cymru dyw tomen sy'n cael ei hystyried fel un "risg uchel" ddim o reidrwydd yn debygol o beri bygythiad yn syth neu yn y dyfodol agos.

Mae'r categori hwn, medd Ms James, yn cydnabod bod yna "risg posib i ddiogelwch" ac o ganlyniad i hynny "fe fydd tomenni sydd 芒 statws risg uchel yn cael eu harolygu'n amlach".

Daw'r cyhoeddiad wedi gwaith gan Awdurdod Glo Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, cynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fe ddechreuwyd ar y gwaith hwnnw yn dilyn tirlithriad ar domen lo ym Mhendyrus, Rhondda Cynon Taf, fis Chwefror 2020.

Arolygu yn y gaeaf

Dywedodd Ms James: "Mae'n bwysig i'r cyhoedd wybod bod diogelu ein cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth gennym ac ry'n yn gweithredu er mwyn gwaredu cymaint o risgiau 芒 phosib.

"Fe ddechreuodd y rownd nesaf o arolygon y gaeaf wythnos ddiwethaf a byddant yn parhau gydol misoedd y gaeaf gan asesu pa waith brys a chynnal a chadw sydd angen ei wneud."

Fel rhan o'r gwaith bydd technoleg newydd yn cael ei defnyddio - bydd lloeren yn cael ei hanfon i'r awyr er mwyn gweld faint o dd诺r sydd o dan y tir a lle bo perygl y gallai'r tir lithro.

Ffynhonnell y llun, NASA/JPL-Caltech/ASU/MSSS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dechneg wedi ei haddasu o ddull sy'n cael ei ddefnyddio i chwilio am dd诺r ar blanedau eraill

Mae Ms James yn annog unrhyw un sydd 芒 phryderon am y tomenni glo i gysylltu 芒'r Awdurdod Glo.

Daw'r newyddion wedi ffrae yngl欧n a phwy ddylai dalu am atgyweirio hen domenni glo Cymru a phryderon y gallai newid hinsawdd waethygu eu cyflwr.

Gan fod y mater yn deillio o'r cyfnod cyn datganoli mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i'r Trysorlys ddarparu 拢60m o arian newydd ar gyfer y gwaith.

Ond dywed Llywodraeth y DU nad yw'n rhywbeth yr oeddynt wedi bwriadu cyfrannu mwy o arian ato gan ei fod wedi'i ddatganoli ac fe ychwanegon nhw fod "digon o arian wedi'i neilltuo" i weinidogion Cymru i gwrdd 芒'r gofyn.

Ychwanegont eu bod wedi darparu 拢9m i helpu at y gwaith o atgyweirio tomenni glo wedi Storm Dennis.