S4C i ddangos uchafbwyntiau Cymru yng Nghyfres yr Hydref

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd Cymru'n wynebu Seland Newydd, De Affrica, Fiji ac Awstralia yn Stadiwm Principality

Ni fydd gemau t卯m rygbi Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni ar gael i'w gwylio yn fyw ar S4C.

I wylio'r gemau yn fyw bydd rhaid i gefnogwyr gael cyfrif Amazon Prime.

Ond mae'r darlledwyr wedi dod i gytundeb sy'n golygu bod modd i S4C ddangos uchafbwyntiau estynedig Cymraeg o'r gemau yn erbyn Seland Newydd, De Affrica, Fiji ac Awstralia, a hynny awr ar 么l i'r gemau orffen.

Y llynedd cafodd y gemau eu dangos yn fyw ar Amazon Prime ac ar S4C.

Sarra Elgan fydd yn arwain t卯m cyflwyno S4C, gyda Gareth Charles yn sylwebu a Rhodri Gomer yn gohebu ar ochr y cae.

Bydd y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Shane Williams a Gwyn Jones yn dadansoddi'r cyfan, ochr yn ochr 芒'r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae S4C yn falch i bartneru gydag Amazon Prime er mwyn sicrhau arlwy cynhwysfawr o Gyfres Hydref y Cenhedloedd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

"Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus am ddim i ddangos uchafbwyntiau o bob un o gemau Cymru yn ystod Cyfres Hydref y Cenhedloedd, fe fyddwn ni ar yr awyr awr ar 么l y chwiban olaf gyda'r holl uchafbwyntiau a'r ymateb."