大象传媒

'Does 'na neb isio siarad am gam-drin domestig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae 'na ffordd allan - mae hi mor bwysig bod pobl yn gwybod hynny," meddai Catrin Lois

Mae elusen yn y gogledd sy'n helpu pobl mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig yn poeni am ddyfodol eu gwasanaethau.

Dros y pandemig mi gafodd DASU - Uned Diogelwch Trais Teuluol - gyllid ychwanegol o 拢300,000 gan Lywodraeth Cymru, sydd, medden nhw, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ym mywydau pobl.

Ond r诺an, maen nhw'n poeni am golli gwasanaethau hanfodol pan ddaw arian Covid-19 i ben y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o benderfynu ar ei chynlluniau gwariant, ac y bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi fis Rhagfyr.

'Does 'na neb isio siarad amdano fo'

Mae Catrin Lois o Sir Ddinbych wedi rhannu'r profiad o gam-drin domestig a'r help gan elusennau yn Sir Ddinbych gyda rhaglen Newyddion S4C.

"Does 'na'm digon o bobl yn siarad am domestic abuse. Does 'na neb isio siarad amdano fo. Neb yn gwybod be' i dd'eud," meddai.

Fe wnaeth Catrin, 51, adael eu g诺r ar 么l ymosodiad yn dilyn ffrae rhyngddo fo a'u mab 18 oed 'n么l yn 2016.

"Dyma fo'n dechra' fy ngwthio i a gwthio, a gwthio, a nes i hitio fy nghefn yn erbyn y peiriant golchi," meddai Catrin.

"Naeth y mab glywed fi'n sgrechian ac mi redodd lawr grisia'.

"Mi naeth o [ei g诺r] wylltio. Oedden nhw ochr arall y bwrdd i fi, a ddaru'r g诺r gael y mab o gwmpas ei wddf a dwi'n cofio gweld y bodiau yn cael eu tynnu i fewn i'w wddf, a'r mab yn tagu.

"Clywed eich plentyn yn tagu efo'r dyn sydd yn ei dad o yn neud o - na, doedd o ddim yn iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 2016 cafwyd cyn-诺r Catrin yn euog o ddau achos o ymosod

Yn ystod eu priodas mi ffoniodd Catrin yr heddlu ddwywaith cyn newid meddwl. Ar 么l yr ymosodiad yn 2016, mi ffoniodd yr heddlu yn syth.

Mae Catrin yn hynod ddiolchgar i'r heddlu oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw.

"O'dd gen i gleisiau ar fy nghefn, a'r mab efo cleisiau o gwmpas ei wddf," meddai.

"O'n i mewn sioc. Dyma hi'n deud 'Dim dyma'r tro cynta' - mae o wedi digwydd o'r blaen, ti isio fo ddigwydd eto? Neu ti isio cael y siawns i fod yn rhydd? To be free?'. A nes i ddeud 'Iawn'."

"O'dd hi wir [y blismones] yn anhygoel. Os oedd o ddim am hi, 'swn i'm wedi 'neud dim byd arall y diwrnod 'na. Faswn i wedi'i gymryd o yn 么l.

"Mae 'na gymaint o bobl wedi bod yna i fy helpu i yr holl ffordd. Heb y steps bach yna, 'swn i dal hefo fo."

'Dydy hyn ddim am fynd i ffwrdd'

Mae Catrin hefyd yn dweud fod y gefnogaeth ar y pryd gan y gwasanaeth IDVA - Cynghorwyr Annibynnol Trais yn y Cartref - sydd erbyn hyn o dan law DASU, wedi bod yn amhrisiadwy.

Yn ystod cyfnod y pandemig mi gafodd DASU 拢300,000 o help ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae'r staff yno r诺an yn poeni beth fydd yn digwydd i rai o'u gwasanaethau hanfodol pan ddaw'r arian yma i ben.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhian Lewis eisiau sicrwydd a fydd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn parhau

Dywedodd Rhian Lewis, pennaeth gwasanaethau DASU Gogledd Cymru: "Mae'r arian 'da ni wedi ei gael wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i fywydau pobl.

"Dwi'n meddwl, fasa'n neis jest cael rhyw fath o gynllun efo be sy'n mynd i ddigwydd ar 么l 2022, achos dydy hyn ddim am fynd i ffwrdd.

"Dwi'n meddwl mai dyna fyswn i'n licio dd'eud wrthyn nhw [Llywodraeth Cymru] - 'Gobeithio fod gennych chi gynllun i gario ymlaen i'n hariannu ni, i chi gael gweld y pwysigrwydd'.

"Maen nhw wedi sylwi y pwysigrwydd yn ystod Covid, a 'da ni isio cario hynna ymlaen, achos mae'r referrals 'ma yn dal am ddod.

"Felly, dyna fyswn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru, a hefyd efo'r ariannu sustainable - eu bod nhw'n rhoi mwy o arian dros gyfnod hir, dim jest cyfnod byr."

'Dangos fod yna ffordd allan'

Yn 2016 cafwyd cyn-诺r Catrin yn euog o ddau achos o ymosod. Yn gosb, mi gafodd rybudd, dirwy, a blwyddyn o orchymyn atal (restraining order). Does gan Catrin ddim cysywllt ag o bellach.

Yn fuan iawn ar 么l y gwahanu, bu farw rhieni Catrin, ac mi gafodd ganser y fron.

"O'dd bod efo canser ddim byd o'i gymharu 芒 hwnna," meddai.

"Dwi wedi colli'r ddwy fron. Dwi wedi colli Mam i ganser, ond odd y domestic abuse... does 'na'm geiriau."

Dywedodd Catrin eu bod wedi penderfynu rhannu eu profiadau er mwyn "dangos fod yna ffordd allan".

"Os dwi'n gallu helpu un person. Job done," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Heddlu'r Gogledd a'r llywodraeth fod mynd i'r afael 芒 cham-drin domestig yn flaenoriaeth

Mae Heddlu'r Gogledd yn deud fod ymateb i alwadau o drais yn y cartref yn un o'u blaenoriaethau, a'u bod yn gweithio gydag elusen SafeLives i ddarparu hyfforddiant i'w holl staff i roi'r "gwasanaeth gorau posib i ddioddefwyr".

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sophie Chance eu bod hefyd yn rhoi rhaglen o'r enw ADAPT ar waith, sy'n targedu'r troseddwyr cam-drin domestig sydd 芒'r potensial i achosi'r niwed mwyaf.

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin fod y llu wedi rhoi 拢470,000 i DASU a chynllun arall - Gorwel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gwasanaethau "cam-drin domestig a thrais Cymru wedi bod yn achubiaeth hanfodol i lawer drwy gydol y pandemig".

"Yn ystod y cyfnod heriol hwn gwnaethom gynyddu cyllid, gan alluogi gwasanaethau i barhau'n gadarn a chefnogi pobl mewn angen yn llawn," meddai.

"Ar hyn o bryd rydym yn pennu cynlluniau gwariant ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi ganol mis Rhagfyr."