Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
£5,000 i brynu system carbon-isel yn lle boeler nwy
O fis Ebrill, bydd modd i gartrefi yng Nghymru a Lloegr geisio am £5,000 i gael gwared o'u hen foeleri nwy a phrynu pympiau gwres carbon isel yn lle.
Mae'r grantiau yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU gwerth £3.9bn i leihau'r allyriadau carbon o wresogi cartrefi ac adeiladau.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio na fydd unrhyw foeler nwy yn cael eu gwerthu ar ôl 2035.
Bydd y cyllid hefyd yn anelu at sicrhau fod tai cymdeithasol ac adeiladau cyhoeddus yn defnyddio ynni mewn ffordd mwy effeithlon.
Ond yn ôl arbenigwyr, mae'r cyllid yn rhy isel a dydy'r strategaeth ddim yn ddigon uchelgeisiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig a rhwystredig" eu bod nhw "heb gael rhan mwy arwyddocaol" yng nghynllunio'r strategaeth.
Mae gweinidogion yn dweud bydd y grantiau yn gwneud pris pwmp gwres yn debyg i bris boeler nwy newydd.
Ond y mwyafswm o bympiau fydd modd eu hariannu gyda'r £450m sydd wedi ei glustnodi i'r grantiau dros dair mlynedd yw 90,000.
Dywedodd Mike Childs, pennaeth gwyddoniaeth Cyfeillion y Ddaear, fod 90,000 "ddim yn nifer fawr iawn" a'i bod yn golygu na fyddai'r DU yn cyrraedd ei tharged o osod 600,000 o bympiau gwres y flwyddyn erbyn 2028.
Fe wnaeth Jonny Marshall, uwch economegydd y Resolution Foundation, groesawu'r strategaeth fel "dechrau da" ond dywedodd nad yw'n mynd yn ddigon pell.
"Dydy'r 90,000 o bympiau gwres mae disgwyl i'r cynllun newydd hyn eu hariannu ddim yn agos o gwbl at y 450,000 o bympiau gwres mae'r Gymdeithas Newid Hinsawdd yn dweud fod angen eu gosod erbyn 2025 er mwyn cadw'r DU ar y trywydd iawn at haneru allyriadau ein cartrefi erbyn 2035."
Mae gwresogi adeiladau yn gyfrifol am 21% o holl allyriadau nwyon tÅ· gwydr y DU, sydd yn golygu fod pwysau ar y Strategaeth Gwres ac Adeiladau i achosi gostyngiadau effeithiol.
Daw hyn wrth i'r llywodraeth baratoi i ddisgrifio ei strategaeth i leihau dibyniaeth y DU ar danwyddau ffosil a gweld gostyngiadau sylweddol dros y degawdau nesaf.
Yn ôl y Gweinidog Egni a Busnes Kwasi Kwarteng, bydd y grantiau yn rhan o gyflawni'r targedau hyn, gan helpu i leihau cost technolegau gymharol newydd erbyn 2030.
Ar hyn o bryd, mae pris pwmp gwres ffynhonnell aer rhwng £6,000 a £18,000.
"Wrth i'r dechnoleg wella ac wrth i gostau leihau dros y degawd nesaf, rydyn ni'n disgwyl dros amser mai systemau twymo carbon-isel fydd yr opsiwn amlwg a fforddiadwy i gwsmeriaid," meddai Mr Kwarteng.
"Trwy ein cynllun grantiau newydd, fe wnawn ni sicrhau bod modd i bobl ddewis opsiwn mwy effeithlon yn y cyfamser."
Er y bydd cartrefi yn cael eu hannog i brynu pwmp gwres neu dechnoleg carbon-isel arall pan maen nhw'n cael gwared o'u hen foeleri, pwysleisiodd y llywodraeth nad yw'n angenrheidiol i bobl gael gwared o foeleri sy'n dal i weithio.
Yn ysgrifennu ym mhapur newydd y Sun, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson "ni fydd yr Heddlu Boeleri yn torri mewn i'ch tÅ· a dwyn eich hen foeler".
Ceisiodd Mr Johnson i leddfu ofnau pleidleiswyr gan bwysleisio y bydd pris systemau gwresogi carbon-isel yn lleihau dros amser, a bydd eu cyflwyno nhw yn helpu i greu miloedd o swyddi newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi cadarnhau y bydd Cymru Net Sero, ein cynllun i leihau allyriadau dros y pum mlynedd nesaf, yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 28 Hydref.
"Rydyn ni'n siomedig ac yn rhwystredig ein bod ni heb gael rhan mwy arwyddocaol yng nghynllunio Strategaeth Net Sero Llywodraeth y DU a dogfennau perthnasol, fydd yn cael effaith ar draws Cymru.
"Byddwn ni ddim yn ymateb i'r strategaeth nes ein bod ni wedi cael cyfle i'w darllen a deall beth mae'n golygu i ni."
Yn ymateb i gyhoeddiad y grantiau, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ar Twitter:
"Er iddynt ddweud trwy gydol yr haf y bydden nhw'n rhannu eu cynllun NetZero gyda ni, gwnaethon nhw ddim."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Fe wnaeth yr Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin, ateb neges Mr Waters gan ddweud: "Er gwaethaf y ffanffer, mae hyn fel y disgwyl yn eithaf gwael.
"Ni fydd yr arian yma yn achosi newid ar raddfa sydd yn agos o gwbl at yr hyn rydyn ni ei angen."