Prosiectau ynni llanw yn cael eu 'hanwybyddu' gan y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr prosiectau morlyn llanw yn dweud ei bod hi'n "rhwystredig" fod Llywodraeth y DU yn eu "hanwybyddu".
Fe allai technoleg morlyn llanw gyflenwi 5-10% o drydan y DU, yn 么l corff ynni llanw.
Cyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer Bae Abertawe ddechrau'r wythnos, ond mae datblygwyr sydd eisiau codi rhai mwy yn dweud nad ydy Llywodraeth y DU yn talu sylw iddynt.
Mae angen "tystiolaeth gref" o werth am arian y cynlluniau, meddai Llywodraeth y DU.
'Dewch i ni weithio 'da'n gilydd'
Roedd Ioan Jenkins yn gweithio ar gynllun blaenorol ar gyfer Bae Abertawe a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth y DU dair blynedd yn 么l.
Mae'n dweud mai ychydig iawn mae'r llywodraeth wedi ei wneud gyda'r sector ers hynny, ac mae'n "anodd cael dealltwriaeth o ble maen nhw".
"Nagyn nhw wedi bod yn siarad 'da ni. Ni'n barod i adeiladu llawer o'r rhain dros Gymru, dros Brydain a dros y byd.
"Beth ni'n gofyn i San Steffan yw, 'dewch i siarad 'da ni. Dewch i ni weithio 'da'n gilydd i ffeindio ateb'."
Gall Llywodraeth Cymru ganiat谩u prosiectau ynni hyd at 350 megawat, ond mae'n rhaid i unrhyw gynllun mwy na hynny gael caniat芒d Llywodraeth y DU.
Un o'r prosiectau hynny ydy Ynni Morol Gogledd Cymru, sydd am godi morglawdd 2.3 gigawat fyddai'n ymestyn 31km o Brestatyn yn Sir Ddinbych i Landudno yn Sir Conwy, gyda chost o 拢7bn.
Mae'r prosiect wedi dod i stop, meddai'r Cadeirydd Henry Dixon.
"Fel llawer o ddatblygwyr eraill ar gyfer ynni uchder llanw, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth a dydyn ni ddim yn deall hynny a ninnau ag argyfwng ynni.
"Ym Mhrydain, mae gyda ni adnodd unigryw: gallai 5-10% o'r trydan ym Mhrydain gael ei gynhyrchu gan y llanw, a 'dyn ni'n cael ein hanwybyddu," meddai Mr Dixon, sydd hefyd yn arwain corff sy'n cynrychioli'r sector, Y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw.
Yn 2017, fe wnaeth adolygiad gan y cyn-Weinidog Ynni Charles Hendry gefnogi cynlluniau ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe, gan ddweud na fyddai'r llywodraeth yn "difaru" ei ganiat谩u.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y prosiect yn cynnig gwerth am arian.
Yn 么l y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw, mae gwelliannau yn y dechnoleg yn golygu nad yw asesiadau blaenorol yn gywir bellach, ac maen nhw'n galw am 拢20m gan y Llywodraeth er mwyn cynnal asesiad annibynnol newydd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o 拢120m fydd yn galluogi'r diwydiant niwclear i ddatblygu adweithyddion modiwlar bychain.
Mae'r Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw yn honni bod morlynnoedd llanw yn gallu creu'r un faint o ynni a ffynonellau niwclear, a'u bod nhw'n rhatach i'w hadeiladu ac yn para lot yn hirach - tua 120 mlynedd.
Yn 么l John Idris Jones, un o arweinwyr prosiect ynni llif llanw Morlais ar Ynys M么n, "mae'n drist iawn nad oes 'na ddim byd yn dod allan o Lywodraeth y DU yn nhermau adnabod ffyrdd o gefnogi ac ariannu" prosiectau morlyn llanw.
Mae Mr Jones, sydd 芒 phrofiad helaeth yn y maes ynni niwclear yn Wylfa, yn rhagdybio y byddai modd creu fframwaith i ariannu'r prosiectau hyn gan fod "gynnon ni brosiect cyfalaf mawr efo niwclear hefyd".
"Mae'r morlynnoedd yma'n rhan o'r gymysgedd sy'n rhaid eu cael os ydy'r llywodraeth yn Llundain ac yng Nghaerdydd o ddifrif yngl欧n 芒 net sero."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Her Morlyn Llanw cyn diwedd y flwyddyn.
"Mae gan forlynnoedd llanw ran bwysig i'w chwarae wrth gynhyrchu ynni," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Ar 么l trafod a phrofi'r farchnad, mae Llywodraeth Cymru am ddatblygu cynnig eang ac arloesol fydd yn rhoi'r gobaith gorau o ddatblygu a phrofi ynni morlyn ym moroedd Cymru."
Dywedodd Llywodraeth y DU: "Mae ein harfordir yn cynnig potensial enfawr i gynhyrchu ynni glan ac mae Llywodraeth y DU yn parhau'n agored i gynigion da i ddefnyddio ynni amrediad uchder llanw.
"Er mwyn cystadlu gyda thechnolegau carbon isel eraill, bydd angen i gynllun amrediad uchder llanw ddangos tystiolaeth gref o werth am arian, budd economaidd, arbedion ynni ac ystyriaethau amgylcheddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021