Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G锚m gyfartal i Wrecsam wrth i s锚r Hollywood fynychu
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae s锚r Hollywood a pherchnogion Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi mynychu eu g锚m gyntaf ar y Cae Ras.
Wrth annerch y dorf a stadiwm lawn o tua 10,000 ddydd Sadwrn, dywedodd McElhenney yn Gymraeg: "Croeso i Wrecsam, Croeso i'r Cae Ras".
Mae'r ddau actor wedi treulio'r wythnos yn y dref yn cwrdd 芒 chefnogwyr ac aelodau'r gymuned gan ddweud mai eu gobaith hir dymor ydy "sicrhau dyrchafiad y clwb i Uwch Gynghrair Lloegr".
Er ni enillodd Wrecsam y g锚m yn erbyn Torquay United ddydd Sadwrn, roedd y sg么r gyfartal o 1-1 yn welliant ar ganlyniad g锚m ddydd Mawrth yn erbyn Maidenhead lle collodd Wrecsam 2-3.
Dyma'r tro cyntaf y mae'r ddau wedi llwyddo i wylio eu clwb yn herio ar dir cartref ers iddyn nhw brynu'r clwb ym mis Chwefror eleni a hynny oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.
Roedd g锚m ddydd Sadwrn yn erbyn Torquay United yn "hollbwysig" medd cefnogwyr yn dilyn methiant y clwb i wneud unrhyw gynnydd nodedig dan y perchnogion newydd.
Cyn g锚m ddydd Mawrth fe wnaeth y ddau agor rhan newydd o'r stadiwm sydd 芒 chyfleusterau arbennig i bobl gydag anableddau ac fe dreuliodd y ddau gyfnod yn tynnu lluniau ac yn siarad gyda chefnogwyr.
Fe aeth y ddau ymlaen i ymddangos ar y cae er mwyn annerch cefnogwyr.
Dywedodd Ryan Reynolds fod o a McElhenny wedi treulio nos Wener yn "cerdded o gwmpas y stadiwm wag" gan ei ddisgrifio fel un o brofiadau fwyaf "ysgytwol" iddo erioed ei weld.
"Dwi'n meddwl fy mod i'n siarad ar ran y ddau ohonom wrth ddweud fod y traddodiad, y gwaddol, yr hanes, cymuned y clwb yma yn rhywbeth 'da ni'n dal yn agos at ein calonnau".
"Rydyn jest am ddweud diolch i'r gymuned am agor eich breichiau i ni dros y dyddiau diwethaf".
"Mae'n golygu'r byd i ni, 'da ni mor ddiolchgar felly diolch".
Ategodd cyd-berchennog y clwb, Rob McElhenney yn Gymraeg "Croeso i Wrecsam, Croeso i'r Cae Ras, Diolch yn fawr!", i orffen.
Wrth ymateb fe ddechreuodd y dorf weiddi nol "'da ni'n anelu am ddyrchafiad!"
Un o'r cefnogwyr sydd wedi bod yn dilyn y t卯m ers blynyddoedd maith ydi Eifion Pugh o Benrhyndeudraeth.
"Cefnogwyr sydd wedi cadw'r clwb 'ma i fynd ers blynyddoedd ond dydi'r pres ddim gyno ni i fynd 芒 ni i gael dyrchafiad a heb y pres yma 'sa ni fel yna am flynyddoedd- oedd angen pobl efo pres!"
Yn 么l y cefnogwr Chris Evans, "yn fyddarol, mae 'na groeso mawr i Ryan a Rob a gobeithio gawn ni'r tri phwynt!"
"Y nod ydi cael dyrchafiad a 'da ni heb gael y dechrau gorau ond gobeithio gawn ni rediad i ennill gemau yn rheolaidd."