Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Ffair Aeaf: Sawl 'her' wrth flaenoriaethu diogelwch
- Awdur, Iola Wyn
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Union fis cyn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, mae cynllunio ar gyfer un o uchafbwyntiau'r calendr amaethyddol yn fwy heriol nag arfer.
Mae paratoadau'r cystadleuwyr wedi hen ddechrau, ond y neges glir gan y trefnwyr eleni ydy fod yn rhaid i ymwelwyr hefyd gynllunio ymlaen llaw.
Eleni does dim modd prynu tocynnau wrth y fynedfa.
"Mae'n rhaid prynu tocynnau o flaen llaw ar-lein er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwybod enw a rhif ff么n pawb sy'n mynychu," eglura Mared Rand Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Mae'r trefnwyr yn ymwybodol fod nifer fawr o selogion y Ffair Aeaf heb fynediad i'r we.
"Yn sicr mae'n sialens," ychwanega Ms Rand Jones. "Oes oes unrhyw un yn cael anawsterau i brynu tocynnau ar-lein, mae 'na groeso mawr iddyn nhw i ffonio swyddfa'r Gymdeithas.
"Efallai bod modd gofyn am gymorth perthnasau hefyd. Felly ry'n ni'n trio cyfathrebu 'da phawb.
"Ry'n ni'n gweithio 'da'r undebau amaethyddol a gwahanol bartneriaid i wneud yn si诺r fod y neges yn mynd allan.
"Fydd hi ddim yn bosib cael mynediad i'r maes heb b脿s Covid neu brawf llif unffordd negyddol.
"Ni'n derbyn y p脿s oddi ar ap neu mae modd cael y fersiwn papur drwy ffonio'r NHS. Mae'r ddau opsiwn yn dderbyniol. Ond dyw'r cerdyn brechu ddim yn ddilys."
'Gobaith am Ffair Aeaf sbesial eleni'
Yn naturiol, bydd nifer o gyfyngiadau a rheolau ar y maes. Sicrhau fod pawb yn ddiogel yw'r flaenoriaeth, yn 么l Alwyn Rees, Cadeirydd Y Ffair Aeaf
"Ar sail bod angen prynu tocynnau o flaen llaw, 'da ni'n gwybod faint o bobl fydd yn mynychu," meddai.
"Bydd hynny i ryw raddau yn gneud pethau rywfaint yn haws.
"Mi fydd mygydau i'w gwisgo o fewn adeiladau. Ac mi fydd hi'n her o ran y tywydd oherwydd fydd bobol yn fwy awyddus i fynd dan do.
"Ond 'den ni'n edrych ymlaen i wynebu'r heriau hynny a neud y Ffair Aeaf yn un sbesial eleni."
Yn Llanddewi Brefi, mae Gwynne Davies wrthi'n dewis a dethol ei ddefaid er mwyn cludo'r goreuon i'r Ffair Aeaf.
"Mae digon anodd ar y gore i gael p芒r o 诺yn yn barod, achos chi'n meddwl nawr hefyd a ydy'r Ffair Aeaf yn mynd i fod 'mla'n," meddai.
"Ond dwi gant y cant yn credu fe fydd y Ffair Aeaf yn mynd ymla'n. Os allan nhw gael 70,000 yn y Stadiwm ar y Sadwrn [ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol], fi'n si诺r allwn ni gael Ffair Aeaf yn Llanelwedd.
"Ac ry'n ni fel arddangoswyr wir ishe mynd i'r Ffair Aeaf achos ry'n ni wedi colli allan llynedd."