'Rhagrith' Llywodraeth y DU dros waith glo yng Nghwm Nedd

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "ragrith" dros ei pholisi ar ddefnyddio glo.

Mae'r dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters, wedi galw ar weinidogion Llywodraeth y DU i atal echdynnu "40 miliwn tunnell o lo" yn Aberpergwm, ger Glyn-nedd, dros y 18 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai Llywodraeth Cymru sydd 芒 chyfrifoldeb dros drwydded y safle oherwydd fod y mater wedi'i ddatganoli.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru, am fod y drwydded wedi'i gwarantu cyn i'r pwerau gael eu datganoli, mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano.

Mae dros 40 o wledydd wedi cytuno i symud i ffwrdd o ddefnyddio glo yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod dyddiad o Hydref 2024 i roi'r gorau i ddefnyddio glo ar gyfer cynhyrchu trydan.

Glo yw un o danwyddau ffosil mwyaf llygredig y byd.

'Diwedd glo o fewn golwg'

Dywedodd Alok Sharma, Llywydd COP26 a gweinidog Llywodraeth y DU, wrth y cynadleddwyr "mae diwedd glo o fewn golwg".

Ond dywed Mr Waters fod angen i weinidogion y DU weithredu i atal cynhyrchu glo pellach yn Aberpergwm.

Mae gan Lywodraeth Cymru "bolisi clir iawn o roi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil", meddai.

Dywedodd wrth aelodau'r Senedd: "Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cytuno i'n cais i ganslo trwydded a roddwyd ym 1996 i Aberpergwm, bydd tua 40 miliwn tunnell o lo yn cael ei dynnu o'r pwll hwn erbyn 2039 - 100 miliwn tunnell o garbon deuocsid.

"Rydyn ni am gadw'r glo hwn yn y ddaear, ond mae Llywodraeth y DU, oherwydd y pwerau sydd ar waith, yn bygwth eistedd a gwylio'r glo hwn yn cael ei dynnu yn wyneb ein dymuniadau."

Mae rheolwr Aberpergwm wedi dweud bod y safle yn cloddio glo carreg (anthracite) - math prin o'r deunydd - ar gyfer prosesau fel hidlo d诺r a chreu cynnyrch adeiladu.

Er bod rhywfaint o'r glo yn mynd i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot, dywedodd y rheolwr ei fod yn "anghytuno" gyda'r awgrym y byddai Aberpergwm yn gyfrifol am 100 miliwn tunnell o garbon deuocsid.

Dywedodd Lee Waters fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Kwasi Kwarteng, yn gofyn iddo ymyrryd i atal "y glo rhag cael ei dynnu o ddaear Cymru".

"Dydyn ni ddim am iddo ddigwydd a'r unig reswm y gallai ddigwydd yw oherwydd eu diffyg gweithredu a'u polis茂au," meddai Mr Waters.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yr Awdurdod Glo sy'n gyfrifol am drwyddedu pyllau glo, gan gynnwys Aberpergwm.

"Dydy'r Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ddim yn rhan o'r broses yma am mai gweinidogion Cymru sydd 芒'r p诺er dan Ddeddf y Diwydiant Glo i wneud penderfyniad terfynol ar a oes modd i weithfeydd mwyngloddio barhau i weithredu yng Nghymru."

Cynhyrchu wedi dod i stop sawl tro

Mae Aberpergwm yn fwynglawdd drifft tanddaearol a gaewyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1985 a'i ailagor ym 1996.

Dros y blynyddoedd mae wedi cynhyrchu wedi dod i stop sawl tro gan gynnwys yn 2015.

Daeth buddsoddwyr newydd i'r fei yn 2018 gan ailgychwyn cynhyrchu glo.

Dywed y cwmni sy'n rheoli'r pwll, Energybuild Ltd, ar eu gwefan mai mwynglawdd Aberpergwm yw'r unig gynhyrchydd glo carreg o radd uchel yng Ngorllewin Ewrop.