Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynghorwyr yn penderfynu eto i gau Ysgol Abersoch
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn unfrydol eto i gau Ysgol Abersoch.
Ddydd Mawrth roedd trafodaeth bellach ar y mater wedi i rai cynghorwyr gyfeirio at gynlluniau i godi tai a chreu swyddi yn y pentref.
Roedd rhai cynghorwyr yn honni bod adroddiad cynharach yn "anghywir ac yn gamarweiniol o ran yr effaith ar y gymuned," yn ogystal ag ar yr iaith Gymraeg.
Roedden nhw'n dweud nad oedd y cynlluniau i adeiladu gwesty, a fyddai'n creu 40 o swyddi, yn ogystal 芒 chynlluniau i godi 15 o dai fforddiadwy ym Mryn Garmon, wedi eu hystyried yn llawn.
Yn ogystal roedden nhw'n cwestiynu'r penderfyniad i gau'r ysgol yng nghanol blwyddyn academaidd, a symud disgyblion i ysgol newydd ym mis Ionawr.
Roedd swyddogion wedi ceisio tawelu eu hofnau.
Yn unol 芒'r penderfyniad gwreiddiol bydd chwe disgybl llawn amser a'r un disgybl oed meithrin yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach - 1.4 milltir i ffwrdd. Mae disgyblion sy'n h欧n na blwyddyn tri eisoes yn mynychu'r ysgol honno.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth fe wnaeth y cynghorydd lleol, Dewi Wyn Roberts, ddweud eto bod rhaid gwrando ar bryderon y gymuned leol ac fe honnodd nad oedd yr adran addysg wedi ystyried y posibilrwydd y gallai tai a swyddi newydd ddod i'r ardal.
Ond clywodd y cyfarfod bod cynlluniau a gyfer codi 15 cartref fforddiadwy ym Mryn Garmon mewn cyfnod cynnar iawn.
Yn 么l Craig ab Iago, sy'n gyfrifol am y portffolio tai, mae pobl yn "codi gobeithion" am gynlluniau na sydd eto'n gyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, sy'n gyfrifol am y portffolio addysg, bod y broses wedi bod yn deg ac fe gafodd ei gynnig i lynu at y penderfyniad gwreiddiol gefnogaeth unfrydol y cabinet.
Wedi'r penderfyniad dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith bod y penderfyniad yn "ynysu y gymuned leol".
"Mae'n gwbl eironig bod Cyngor Gwynedd yn gwneud y penderfyniad yn ystod yr wythnos lle bydd rali fawr y tu allan i'r Senedd yn galw ar y Llywodraeth i ymyrryd yn y farchnad dai er mwyn diogelu cymunedau fel Abersoch.
"Mae'n anhygoel na welodd yr un aelod o'r cabinet werth defnyddio'r ysgol fel ffocws i ailadeiladu y gymuned leol.
"Roedd hi'n haws ildio na gweithio gyda llywodraethwyr a rhieni parod a brwdfrydig.
"Fe wnaeth miloedd o ymatebion i'r ymgynghoriad newid dim," ychwanegodd.
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ohirio y penderfyniad terfynol tan y Pasg, a defnyddio'r chwe mis nesaf i drafod y cynlluniau newydd.
Adeg y penderfyniad gwreiddiol ym mis Medi nododd swyddogion nad oedd hi'n debygol y byddai rhagor o blant yn mynd i'r ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf a bod ei dyfodol wedi bod yn "fregus am gryn amser".
Yn 么l y cyngor mae'r ysgol yn costio 拢17,404 y pen i'r awdurdod - dros bedair gwaith y cyfartaledd sirol o 拢4,198 a nodwyd y byddai cau'r ysgol yn arbed 拢96,062 yn flynyddol.
Clywodd y cyfarfod bryd hynny bod 21 o blant a allai fynychu'r ysgol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion eraill.
Cafwyd dros 200 o ymatebion yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gau'r ysgol gan gynnwys dwy ddeiseb gyda 1,115 a 1,884 o enwau, yn gwrthwynebu.
Honnodd un y byddai gadael y pentref heb ysgol gynradd yn troi Abersoch yn le gwyliau i dwristiaid am rai misoedd, ac yn "dref ysbrydion" am weddill y flwyddyn.
Dywedodd un arall y byddai'r pentref yn colli ei ganolbwynt ac y byddai calon ac enaid y lle yn diflannu.
Bydd yr ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr, 2021.