Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gallai cwmn茂au mawr sy'n plannu coed 'ddifrodi' natur
Mae cwmn茂au mawr sy'n prynu ffermydd yng nghefn gwlad Cymru er mwyn plannu coed wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio'r tir i "liniaru eu heuogrwydd" am allyriadau.
Mae Thomas Crowther, sydd ar y rhestr fer am wobr Earthshot, hefyd yn rhybuddio y gallai plannu llawer o'r un math o goed ar ddarnau o dir fod yn "beryglus" i natur.
Yn ddiweddar, mae nifer o ffermydd yn y canolbarth wedi cael eu prynu gan gwmn茂au buddsoddi mawr ar gyfer cynlluniau plannu coed.
Ond dywedodd y gwyddonydd bod angen gwarchod y tir er mwyn i natur wella yno.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ac wedi galw ar bobl Cymru i blannu coed yn eu gerddi os yn bosibl, mae cynlluniau cwmn茂au mawr i wneud hyn ar raddfa fawr er mwyn mantoli allyriadau carbon wedi arwain at bryderon y bydd cymunedau'n cael eu "dinistrio".
Mae Mr Crowther, a gafodd ei fagu ym Mhrestatyn, ar y rhestr fer am wobr Earthshot - gwobr sy'n cydnabod dyfeisgarwch allai achub y blaned - am sefydlu Restor, platfform ar-lein sy'n cysylltu pobl sydd am weithio ar brosiectau natur.
Mae wedi beirniadu corfforaethau mawr sy'n prynu ffermydd yng nghefn gwlad Cymru er mwyn plannu coed.
Dywedodd: "Nid mater o liniaru euogrwydd [am allyriadau] ddylai hyn fod... fe fyddai hynny'n gam trychinebus i newid hinsawdd."
Wrth siarad yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, dywedodd y gallai colli bioamrywiaeth fod yn fwy o fygythiad na newid hinsawdd i'r blaned.
"Os fyddwn ni'n achub yr hinsawdd ond yn colli natur, mae hynny'n dal i olygu planed nad oes modd byw arno," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn dod yn fwy eglur bod ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y blaned i 1.5 gradd yn dibynnu ar wneud llawer mwy i adfer byd natur.
Yn ei ymchwil mae Mr Crowther wedi amcangyfrif bod tua 3.04 triliwn o goed ar y Ddaear - 46% yn llai na phan ddechreuodd amaethyddiaeth rhyw 12,000 o flynyddoedd yn 么l.
Arweiniodd hynny at ymgyrch i blannu coed, ond mae Mr Crowther yn pwysleisio ei bod yn bwysig i bobl "ddeall nad mater o blannu coed yn unig yw hyn".
"Yn y mwyafrif o achosion," meddai, "yr hyn y byddwn yn gwneud go iawn yw gwarchod talpiau mawr o dir... mae angen gwarchod tua thraean o arwynebedd y ddaear fel y gall natur adfer a thyfu'n naturiol."
Fe wnaeth adroddiad diweddar gan reoleiddwyr amgylchedd yng Nghymru ganfod fod bron hanner y safleoedd lle mae natur wedi'i warchod ddim yn cael eu monitro oherwydd diffyg cyllid.
Yn y mannau lle'r oedd y wybodaeth ar gael, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod 60% o'r safleoedd mewn "cyflwr anffafriol".
Dywedodd Mr Crowther bod angen datrys hyn, ac y gallai technoleg a phlatfformau ar-lein gynorthwyo gyda'r monitro.
- Hinsawdd: 'Rhaid i COP26 cynnig gobaith i bobl am y dyfodol'
- 'Cymru'n achosi datgoedwigo a cholled cynefinoedd tramor'
- FIDEO: Newid hinsawdd - Beth alla i wneud i helpu?
- Rhaid i ysgolion newydd fod yn garbon sero net o 2022
- PODLEDIAD: COP 26, Y cyfle olaf?
- CWIS: Di-glem am newid hinsawdd?
- Newid Hinsawdd: Taid a Fi - ar 大象传媒 Radio Cymru
- Ein Planed Nawr - Eich canllaw i fyw ar y ddaear