Ap锚l i estyn gwyliau'r dreth i fusnesau lletygarwch

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Busnes 大象传媒 Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r Gyllideb fis nesaf i sicrhau nad oes rhaid i'r sector lletygarwch dalu trethi busnes, yn 么l pennaeth gr诺p gwestai Cymreig.

Dywedodd Ian Edwards, pennaeth The Celtic Collection, y gallai cwmn茂au llai "fynd i'r wal" os yw'r dreth yn cael ei hailgyflwyno fis Ebrill nesaf.

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd trethi busnes ar lefel o 50% yn cael eu talu gan fusnesau hamdden a lletygarwch yn Lloegr.

Bydd gweinidogion Cymru'n cyhoeddi eu cynlluniau yng Nghyllideb mis Rhagfyr ond dywed Llywodraeth Cymru ei bod "yn ystyried yn ofalus yr arian sydd ar gael".

Roedd y diwydiant lletygarwch yn un o brif ddefnyddwyr cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, ac mae'r broses o ailagor tafarndai, bwytai a gwestai wedi wynebu heriau fel prinder staff a chostau cynyddol.

Wrth gyhoeddi ei Gyllideb ym mis Hydref dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai tafarndai, lleoliadau cerdd, sinem芒u, bwytai, gwestai, theatrau a champfeydd yn Lloegr yn gallu hawlio gostyngiad o 50% ar eu trethi busnes, hyd at uchafswm o 拢110,000.

Mae prif weithredwr The Celtic Collection eisiau i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach pan fydd yn cyhoeddi ei Chyllideb ym mis Rhagfyr.

Mewn ymateb i gwestiwn am gefnogaeth y llywodraeth i'r diwydiant trwy ostwng trethi busnes, dywedodd Ian Edwards: "Rwy'n credu bod angen y gefnogaeth, yn sicr.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sector lletygarwch wedi dioddef mwy na diwydiannau eraill yn sgil y pandemig, medd Ian Edwards

"Peidied neb 芒 chamgymryd, yn bendant nid ydym allan o'r pandemig eto. Nid yw busnesau'n gweithredu 100% eto.

"Felly os nad oes gennym ni'r gefnogaeth honno yna fe allai llawer o fusnesau, cyn diwedd y flwyddyn neu flwyddyn nesaf, fynd i'r wal oherwydd bod y gefnogaeth yn diflannu. Ac mae angen y gefnogaeth wrth symud ymlaen."

Dywedodd y dylai trethi busnes "aros ar sero, oherwydd rydyn ni mewn cyfnod mor ansicr".

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, bod y llywodraeth yn "deall" bod gan fusnesau yn y sector "anghenion cyson" am gefnogaeth.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr amgylchiadau heriol y mae busnesau wedi eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, a dyma pam na fydd busnesau'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn gorfod talu unrhyw drethi tan Ebrill 2022.

"Rydym yn ystyried yn ofalus yr arian sydd ar gael i Gymru yn dilyn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU a byddwn yn cadarnhau penderfyniadau ariannu'r dyfodol yn ein cyllideb ar 20 Rhagfyr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Un o westai gr诺p The Celtic Collection yw'r Celtic Manor yng Nghasnewydd

Mae gr诺p The Celtic Collection yn cynnwys gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd, lleoliad Cwpan Ryder y byd golff ac Uwchgynhadledd NATO yn 2014.

Mae ei ddatblygiad diweddaraf, Gwesty'r Parkgate, newydd agor ar Stryd Westgate yng Nghaerdydd ar adeg heriol i'r diwydiant lletygarwch.

Dywedodd Mr Edwards fod y gr诺p wedi bod yn ffodus i ddenu staff i weithio yn y Parkgate o westai eraill y ddinas, ond mae'n cydnabod bod yr adeilad yn agor ar foment anodd.

"Mae'n risg agor unrhyw fusnes ar unrhyw adeg, beth bynnag sy'n digwydd," meddai. "Ond mae hyd yn oed yn fwy o risg agor busnes lletygarwch yn ystod pandemig."

Ychwanegodd fod "lletygarwch, yn 么l pob tebyg, wedi dioddef mwy nag unrhyw ddiwydiant arall yn ystod y pandemig".

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o westai a bwytai wedi colli incwm o ganlyniad trafferthion recriwtio staff

Mae prinder staff wedi taro llawer o fusnesau, gyda bwytai a gwestai yn gorfod cyfyngu ar eu hamseroedd agor neu leihau nifer yr ystafelloedd sydd ar werth er mwyn delio ag argyfwng recriwtio.

Mae'n fater y mae myfyrwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn Rhondda Cynon Taf yn ymwybodol iawn ohono, gyda rhai eisoes yn gweithio yn y sector cyn ennill eu cymwysterau.

Mae Nicholas Schindler, sy'n 19 oed o Ystrad Rhondda, yn astudio coginio proffesiynol yn y coleg. Mae e hefyd yn gweithio mewn cegin dafarn leol.

Mae'r cwrs yn caniat谩u iddo weithio ochr yn ochr 芒 myfyrwyr eraill mewn cegin ar y campws, ynghyd ag ardal fwyta y gall staff coleg ac aelodau'r cyhoedd mynychu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Nicholas Schindler yn ymarfer ei sgiliau tu hwnt i'r cwrs yn y coleg, mewn cegin t欧 tafarn

"Dwi wedi bod yn gwneud hyn ers mis Medi diwethaf," meddai. "Byddwn i wrth fy modd yn gweithio mewn cegin broffesiynol iawn yn y dyfodol agos."

Dywedodd bod ei waith yn y dafarn wedi amlygu'r galw am gogyddion.

"Dwi wedi bod yn gweithio mewn cegin tafarn ers tua phum mis, ac mae'n hynod o brysur. Weithiau dwi wedi gorfod ei wneud ar fy mhen fy hun oherwydd does neb arall i'w wneud."

Mae'n edrych ymlaen at gael swydd sefydlog mewn diwydiant sydd, yn hanesyddol, wedi bod llawn ansicrwydd.

"Mae'n llawer mwy diogel na phroffesiynau eraill ar hyn o bryd," meddai, "oherwydd bod galw am gogyddion, a'r staff eraill i gyd."