Ysgol yn bygwth 'dim cinio' am ddyledion o fwy na 1c

Ffynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph

Mae disgyblion mewn ysgol yng Ngwynedd wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael cinio ysgol os oes ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyledion.

Mewn llythyr at rieni, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes eu bod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd diffyg yng nghyllideb cinio'r ysgol.

Mae'r cogydd yn yr ysgol wedi cael cyfarwyddyd "i beidio rhoi bwyd i unrhyw blentyn" oni bai bod y dyledion wedi'u clirio.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y dylai unrhyw un sy'n "cael trafferthion" talu am ginio ysgol i gysylltu gyda nhw.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Darren Owen bod angen ymddiheuriad am eiriad y llythyr

'Awgrym y cyngor'

Dywedodd y pennaeth, Neil Foden, yn y llythyr ei fod yn "synnu'n fawr o weld ar ddiwedd yr hanner tymor diwethaf bod diffyg annisgwyl yn ein cyllideb cinio ysgol".

"Daeth i'r amlwg wedi golwg fanylach fod hyn oherwydd bod llond llaw o ddisgyblion wedi pentyrru dyledion oedd yn dod i gyfanswm o dros 拢1,800."

Mewn datganiad diweddarach, dywedodd Mr Foden bod gan naw o rieni ddyledion o 拢50, a bod gan dri ddyledion o dros 拢100.

Dywedodd bod negeseuon testun a llythyron wedi eu hanfon, ond heb ateb "yn y mwyafrif o achosion".

Ffynhonnell y llun, Darren Owen

Disgrifiad o'r llun, Mae dau o blant Darren Owen yn mynychu'r ysgol, a thrydydd yn dechrau yno'r flwyddyn nesaf

Dywedodd Darren Owen, 43, sy'n dad i bump o blant, ei fod yn "hollol gandryll" pan ddangosodd ei wraig y llythyr iddo.

"Dwi'n dallt y dylai pobl dalu eu dyledion, ond ar yr un pryd mae pobl yn ei chael hi'n anodd," meddai Mr Owen, o Benygroes, sydd 芒 dau o blant yn yr ysgol.

"Roedd arnan ni 36c pan gawson ni'r llythyr. Siawns fod nhw'n gwybod pwy ydy'r rhieni. Allen nhw ddim cynnig help?"

'Rhaid gwneud rhywbeth'

Yn 么l y llythyr, bydd unrhyw un 芒 dyledion dros 1c yn cael cais i dalu eu swm yn llawn erbyn 19 Tachwedd, neu ni fydd y cogydd yn cael cynnig cinio iddynt ar 么l hynny.

Bydd unrhyw ddyledion dros 拢10 yn cael eu trosglwyddo i'r cyngor, a bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu gyda'r rhieni.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Neil Foden y dylai rhieni sy'n cael trafferth talu ysgrifennu at bennaeth blwyddyn eu plentyn i drafod

"Mae'n ddrwg gen i fod yn rhaid i ni gymryd y camau yma, ond mae maint y ddyled yn golygu bod yn rhaid gwneud rhywbeth," meddai Mr Foden.

Dywedodd y pennaeth ei fod wedi codi'r mater gyda'r cyngor, ac mai nhw oedd wedi awgrymu cymryd y camau yma.

Ychwanegodd nad oedd wedi derbyn cwyn gan unrhyw riant, a bod ysgolion eraill yn y gogledd eisoes wedi cymryd camau tebyg.

"Mae'r colledion yn gorfod dod o gyllideb yr ysgol," esboniodd. "Dydy o ddim yn ddyled sy'n diflannu."

'Dim polisi cyffredinol'

Dywedodd Cyngor Gwynedd nad yw'n "gweithredu polisi cyffredinol o wrthod cinio i ddisgyblion, a byddwn yn trafod y mater hwn yn uniongyrchol gyda'r ysgol".

"Byddem yn annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy'n cael anhawster talu am ginio ysgol eu plentyn i gysylltu 芒'r Adran Addysg neu'r ysgol yn uniongyrchol," meddai llefarydd.

"Mae'n bosib y bydd gan eu plentyn hawl i ginio ysgol am ddim.

"Mae system talu ar-lein wedi ei gyflwyno sy'n gofyn i rieni sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu am brydau ysgol eu plentyn.

"Mae'r system yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd i rieni na allant, am ba reswm bynnag, dalu am gyfnod byr. Anfonir negeseuon atgoffa yn 么l yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddyledion sylweddol yn cronni."