Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Menyw'n ailddarganfod y Gymraeg diolch i gynllun sgwrsio
- Awdur, Alun Thomas
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl h欧n gael sgyrsiau ff么n gyda gwirfoddolwyr wedi golygu bod gwraig o'r cymoedd wedi gallu ailddarganfod ei Chymraeg.
Mae Muriel Rogers o bentre' Fochriw yn Sir Caerffili yn 83 oed, a Kadun Rees, sy'n wreiddiol o Abertawe ac yn fyfyriwr 么l-radd yn Brighton, yn 22 oed.
Ers blwyddyn maen nhw wedi bod yn sgwrsio ar y ff么n yn wythnosol, fel rhan o gynllun cyfeillgarwch Age Cymru.
"O'n i ynghanol y pandemig, so o'n i ar furlough gyda gwaith," meddai Kadun.
"'Odd 'da fi llwyth o amser sb芒r, o'n i jyst ishe neud rhywbeth gyda'r amser sb芒r.
"O'n i ar y cyfryngau cymdeithasol a nes i weld rhywbeth gan Age Cymru, ac o'n i jyst yn teimlo bod e'n rhywbeth neis i neud i helpu pobl h欧n yn ystod y pandemig."
Cyswllt 芒'i mamiaith
Mae'r ffaith fod y ddau yn gallu sgwrsio yn Gymraeg wedi bod o fudd mawr i'r ddau ohonyn nhw.
Dyw Kadun ddim yn cael fawr o gyfle i siarad yr iaith yn Brighton, ac i Muriel dyma'i hunig gyswllt 芒'i mamiaith bellach.
"O'n i ddim yn siarad Cymraeg o gwbl cyn i Kadun ffonio fi," meddai.
"'Wi'n edrych ar S4C a gweld llawer o raglenni Cymraeg - 'wi'n gallu deall e, ond if you don't use it you lose it - a 'na beth sydd wedi digwydd i fi."
Cafodd Muriel ei magu ar aelwyd Gymraeg yn Fochriw, ond ers iddi golli ei mam flynyddoedd lawer yn 么l, does 'na neb ar 么l iddi siarad yr iaith 芒 nhw.
"Mae'r pentre' wedi newid. O'dd y capeli yn cadw'r Gymraeg i fynd... a'r cymanfaoedd a phopeth, ond mae hwnna wedi newid. Mae fe ddim yn gymuned ddim rhagor."
Hel atgofion
Bellach mae'r ddau yn sgwrsio am bob math o bethau yn eu galwadau wythnosol, ac mae'n amlwg bod Kadun yn mwynhau clywed Muriel yn hel atgofion am ei phlentyndod yn Fochriw, a hefyd ei gwyliau haf ar fferm y teulu yn ardal Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
"Fel arfer mae Muriel yn sgwrsio llawer," meddai Kadun.
"Mae hi'n dweud bod ei theulu yn ei galw hi'n chatterbox. Ni fel arfer yn sgwrsio am ein hwythnosau ni... y tywydd... ac mae Muriel yn hoff iawn o siarad am y gorffennol."
Yn 么l Muriel mae ei chyfaill ifanc yn amlwg yn mwynhau'r sgyrsiau.
"O'n i'n dweud wrtho fe s'dim rhaid i chi ffonio fi bob dydd Sul am awr. Os oes pethau eraill 'ych chi mo'yn neud - cerwch chi, fyddai'n iawn. Ond na, 'wi'n caru clywed eich stori芒u' medde fe."
Ffrindiau
Mae'n amlwg bod y ddau yn gweld budd mawr i'w galwadau ff么n.
"Dim ond Kadun sydd 'da fi i siarad Cymraeg nawr... mae fe'n cadw'r iaith yn fyw 'da fi. Ni'n chwerthin lot. Ni'n joio'r cwmni... fe a fi."
Ac mae Kadun yn cytuno.
"Mae'n swnio'n od ond mae Muriel fel mam-gu i fi - sydd yn od achos ni byth 'di gweld ein gilydd."
A Muriel sydd biau'r gair ola' am y cyfeillgarwch sydd wedi datblygu dros y ff么n dros y flwyddyn ddiwetha'.
"Mae oedran ddim yn dod mewn iddo fe. 'Wi'n 83 ac mae Kadun yn 22, ond ni wedi dod yn ffrindiau."