Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Anafiadau i'w ben a'i wddf' wedi lladd bachgen 10 oed
Mae cwest wedi clywed fod bachgen 10 oed wedi marw o "anafiadau difrifol i'w ben a'i wddf" ar 么l i gi ymosod arno yng Nghaerffili.
Bu farw Jack Lis o'i anafiadau wedi'r ymosodiad ym Mhentwyn, Penyrheol toc cyn 16:00 ar 8 Tachwedd.
Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Casnewydd fod Jack yn chwarae gyda ffrind tu allan i'w gartref, a'i fod wedyn wedi mynd i d欧'r ffrind.
Dywedodd y crwner Caroline Saunders fod y ci wedi ymosod ar Jack wrth iddo fynd i mewn.
'Yn ein calonnau am byth'
Mae teulu Jack wedi cyhoeddi teyrnged iddo gan ddweud: "Rydym wedi torri'n calonnau. Fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Jack.
"Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw rhiant orfod ysgrifennu.
"Mae gennym cymaint o bethau yr ydym am ddweud am ein bachgen prydferth, ond dydyn nhw ddim yn ddigonol.
"Rydym yn ei garu fwy na all geiriau ddisgrifio. Fe'n gwnaeth ni y rheini a theulu mwyaf balch ar y blaned.
"Bydd yn ein calonnau am byth. Cwsg yn dawel Jack, ein mab perffaith."
Clywodd y llys fod parafeddygon wedi eu galw, ond nad oedd modd iddo oroesi ei anafiadau ac fe gafodd ei gyhoeddi'r farw am 16:14.
Ychwanegodd y crwner bod amgylchiadau marwolaeth Jack yn "dreisgar ac annaturiol" ac felly fe agorodd gwest ffurfiol i'r farwolaeth.
Yna fe ohiriodd y cwest er mwyn i "ymchwiliadau pellach" ddigwydd.
Bydd y cwest yn ailagor ar ddyddiau eto i'w bennu.
Mae 大象传媒 Cymru'n deall fod y ci, o'r enw Beast, wedi bod yn cael ei gadw mewn cartref yn Aberpennar nes deuddydd cyn yr ymosodiad.
Y gred yw mai Lee Jenkins, 34, oedd yn arfer bod yn berchen ar y ci, a'i fod wedi mynychu cyfweliad gyda'r heddlu o'i wirfodd ddydd Mercher.
Mae Mr Jenkins wedi gwadu bod yn berchen ar Beast, gan ddweud: "Nid fi ydy perchennog y ci 'na. Fe ddywedais i bopeth rwy'n gwybod i'r heddlu. Maen nhw'n gwybod nad oes gen i unrhyw beth i wneud 芒'r peth.
"Dim fy nghi i yw e ac roedd e wedi cael cartref newydd."
Dywedodd cymydog i Mr Jenkins wrth 大象传媒 Cymru fod Beast yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio, a'i fod wedi cael o leiaf 10 ci bach gyda chi arall Mr Jenkins, Beauty.
Ar 29 Hydref fe wnaeth Mr Jenkins roi hysbyseb ar Facebook yn ceisio cael cartref newydd i Beast, gan ddweud ei fod yn "gr锚t gyda phobl" ond "nid yw'n hoffi c诺n eraill o gwbl".
Cafodd y ci ei ddifa yn dilyn y digwyddiad.