Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymateb cymysg yng Nghymru i gytundeb terfynol COP26
Mae cytundeb terfynol cynhadledd COP26 yn Glasgow yn cynnig "gobaith" bod modd osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng newid hinsawdd, yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford bod cynnydd wedi ei sicrhau mewn sawl maes pwysig, er na chafodd pob un o nodau'r gynhadledd eu cyflawni.
Mae llywydd y gynhadledd, Alok Sharma, wedi disgrifio'r cytundeb a gytunwyd arno yn hwyr nos Sadwrn fel un "hanesyddol", er y siom o orfod anelu at "leihau'n raddol" y defnydd o danwydd ffosil, gan gynnwys glo, yn hytrach na'i "ddileu'n raddol" er mwyn sicrhau cefnogaeth India a China.
Ond mae mudiadau amgylcheddol yn dweud nad ydy'r cytundeb yn mynd yn ddigon pell os am gyrraedd y nod o gyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y blaned i 1.5 gradd selsiws.
Mae yna groeso i'r ffaith bod glo'n cael ei nodi, am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd o ddiplomyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, fel achos sylfaenol cynhesu byd-eang, a bod disgwyl i'r holl wledydd gyflwyno cynlluniau mwy cadarn y flwyddyn nesaf.
Bydd arian ar gyfer helpu'r gwledydd tlotaf i addasu yn sgil effeithiau newid hinsawdd yn cael ei ddyblu, gyda'r posibilrwydd o gronfa o driliwn doler y flwyddyn o 2025 ymlaen o'i gymharu 芒'r targed presennol o $100bn y flwyddyn.
Yn 么l sylwebwyr mae yna obaith o symud ymlaen hefyd o ran digolledu gwledydd datblygedig sy'n dioddef waethaf yn sgil newid hinsawdd.
Awgrymodd Mark Drakeford bod yna elfen o obaith "oherwydd mae rhai pethau pwysig iawn wedi eu cyflawni" yn y gynhadledd ond "mae rhai pethau y bydd angen parhau i'w trafod tu hwnt i Glasgow".
Ychwanegodd: "Yn sicr nid yw gobaith wedi ei ddinistrio, sef yr ofn mwyaf, rwy'n meddwl, cyn y gynhadledd."
Mae Mr Drakeford yn croesawu'r addewid y bydd gwledydd yn cwrdd i drafod ymhellach flwyddyn nesaf, ond yn cydnabod na fydd yr addewidion presennol yn ddigon i gwrdd 芒'r targed.
'Siomedig'
Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar bod y cytundeb yn siomedig, o ystyried y nodau gafodd eu crybwyll cyn ac yn ystod y gynhadledd.
Mae wedi "methu'n llwyr" 芒 chytuno ar gamau, meddai, a fyddai'n cyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y blaned i 1.5 gradd selsiws.
"Dyw e ddim yn foment hanesyddol - nid dyma'r cytundeb oedd ei angen," meddai.
"Os 'dan ni'n meddwl am gychwyn y gynhadledd a'r misoedd cyn hynny, o'n ni'n clywed am yr argyfwng, pa mor frys oedd e, rhybudd gwyddonwyr yr IPCC a'r 'code red for humanity' 'ma.
"Ma' symud o hwnna i'r darn papur sy' wedi ca'l ei gynhyrchu ar y diwedd yn siomedig iawn."
Roedd y fersiynau drafft niferus cyn y cytundeb terfynol "yn dangos bod gwledydd yn reit hunanol ar ddiwedd y dydd".
Ychwanegodd: "Ma' pobol yn deud bod camau bychan ymlaen - dyma yw'r tro cyntaf maen nhw hyd yn oed yn s么n am drwydded ffosil a digolledu gwledydd tlawd yn y cytundeb.
"Ond o ran y geiriad mae'n hynod o wan ac mae'n anodd iawn edrych arno fe fel unrhyw beth ond cam yn 么l o'r hyn roeddan ni'n ei ddisgwyl."
'Annigonol'
Mae Plaid Cymru'n disgrifio'r cytundeb fel cam i'r cyfeiriad cywir ond yn gyfystyr 芒'r gweithredu "lleiaf posib" sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd.
Serch ei rwystredigaeth, dywed arweinydd y blaid, Adam Mr Price y gall Cymru a gwledydd bach eraill fod ar flaen y gad.
"Camre yn hytrach na chamau breision - dyna y mae'r cytundeb annigonol y cyrhaeddwyd yn Glasgow yn eu cynrychioli," meddai.
"Fodd bynnag, mae'r targedau mwy uchelgeisiol y mae gofyn i wledydd eu cyrraedd erbyn blwyddyn nesaf i'w croesawu.
"Ni ddylai diffyg uchelgais rhai o wledydd mwyaf pwerus y byd amharu ar allu gwledydd llai ac ystwyth fel Cymru i weithredu'n annibynnol a thorri allyriadau.
"Rydym eisoes yn arwain y byd o ran ailgylchu ac mae gyda ni botensial enfawr heb eu cyffwrdd yn nhermau adnoddau naturiol.
"Does dim amheuaeth y bydd pob un ohonom yn cael ein heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd yma yn ein tro, ac mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud beth bynnag y gallwn i'w frwydro."
- Hinsawdd: 'Rhaid i COP26 cynnig gobaith i bobl am y dyfodol'
- FIDEO: Pam bod cynhadledd newid hinsawdd COP26 o bwys i ni?
- 大象传媒 BITESIZE: Gwersi Cymraeg i blant ar yr hinsawdd a'r amgylchedd
- PODLEDIAD: COP 26, Y cyfle olaf?
- Sut allwn ni achub rhai o anifeiliaid brodorol Cymru
- Newid Hinsawdd: Taid a Fi - ar 大象传媒 Radio Cymru