大象传媒

Cam-drin domestig: 'O'n i'n helpu troseddwyr heb wybod'

  • Cyhoeddwyd
Dr Siaron West
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dr Siaron West mae problemau gynecoleg yn llawer mwy cyffredin ymysg menywod sy'n dioddef trais

"Roedd menywod yn dychwelyd dro ar 么l tro ar gyfer meddyginiaeth atal cenhedlu neu'n cael llawer o derfyniadau - doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi bod rhywun arall yn ceisio eu rheoli nhw."

Ar 么l gwneud cwrs hyfforddiant fe wnaeth Dr Siaron West sylweddoli nad bai ei chleifion oedd yr ymweliadau hyn.

Mae Dr West bellach yn rhan o gynllun i hyfforddi doctoriaid i adnabod symptomau trais yn y cartref.

Mae rhaglen Iris yn annog doctoriaid i ofyn a yw popeth yn iawn yn y cartref, ac i gyfeirio unigolion sydd angen help at arbenigwyr yn y feddygfa.

'O leiaf hanner dwsin o gleifion'

"Wrth eistedd a gwrando yn ystod yr hyfforddiant, daeth o leiaf hanner dwsin o fy nghleifion i'n meddwl," meddai Dr West.

"Sylweddolais i eu bod nhw'n dychwelyd dro ar 么l tro ar 么l tro gyda phroblemau corfforol ac iechyd meddwl, a doedd pethau ddim yn gwella.

"Sylweddolais i achos sylfaenol eu straen oedd trais yn y cartref a bydden i byth yn mynd i'r afael 芒 phroblemau corfforol ac iechyd meddwl heb ddelio gyda'r trais."

Dechreuodd cynllun Iris yng Nghymru yn 2015, gyda chynllun arbrofol wedi'i ariannu gan Gomisiynydd Heddlu'r De yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Ers lansio'r cynllun mae nifer y bobl sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol wedi cynyddu o tua phum person pob blwyddyn i 250.

Mae'r cynllun hefyd ar gael ar draws byrddau iechyd eraill, gam gynnwys Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - y diweddaraf i fabwysiadu'r cynllun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arbenigwr fod cynllun Iris wedi galluogi mwy o fenywod i ddatgelu'r trais maen nhw'n ei ddioddef yn y cartref

Yn 么l Dr West - arweinydd clinigol y cynllun yng Nghaerffili - mae problemau gynecoleg tair gwaith yn fwy cyffredin ymysg menywod sy'n dioddef trais, ond mae cystitis, iselder a phryder hefyd yn sgil effeithiau trais yn y cartref.

"Mae pethau eraill yn cynnwys iechyd meddwl, defnydd cyffuriau ac alcohol - fe fydd troseddwyr yn defnyddio'r rhain er mwyn gwneud eu partneriaid yn dystion annibynadwy," meddai.

"Wedyn pan mae doctoriaid a gweddill eu teulu yn darganfod briwiau ar eu cyrff, maen nhw'n dweud 'wel, mae hi'n yfed gormod' neu 'mae hi'n s芒l yn ei phen, mae hi si诺r o fod yn dweud celwydd'.

"Mae'n anodd iawn iddyn nhw gael eu credu os oes ganddyn nhw broblem cyffuriau neu alcohol ac mae'n hawdd iawn i droseddwyr eu rheoli nhw.

"Cyn gwneud hyfforddiant Iris doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r ffaith 'mod i'n helpu troseddwyr heb i fi wybod.

"Mae hwnna'n deimlad ofnadwy - sylweddoli bod troseddwyr yn bobl glyfar ac rwyt ti wedi cael dy ddal mas.

"Mae hwnna'n gwneud i fi eisiau dod o hyd i help ar gyfer y menywod yma."

'Erioed wedi siarad gyda'r heddlu'

Elusen Llamau sy'n gyfrifol am redeg cynllun Iris yng Nghaerffili a Chasnewydd. Mae nifer y bobl sydd wedi derbyn cymorth dros y chwe mis diwethaf wedi cynyddu o bump i 70.

Mae Nicola Fitzpatrick, pennaeth gwasanaethau trais yn y cartref Llamau, yn dweud efallai nad oedd doctoriaid yn ddigon hyderus i gychwyn trafodaeth gyda chleifion yngl欧n 芒'u perthynas.

"Mae gan ddoctoriaid gyfnod penodol i weld claf, felly sut allen nhw geisio darganfod beth sy'n digwydd ym mywyd personol yr unigolyn tra'n ceisio gwneud diagnosis?"

Mae pob meddygfa sy'n rhan o'r cynllun yn derbyn hyfforddiant - gan gynnwys y derbynyddion a nyrsys - yn ogystal 芒 chynorthwyydd arbenigol trais yn y cartref sy'n gweithio gyda'r unigolion sydd angen help.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Nicola Fitzpatrick fod nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi bod mewn perthynas ers degawdau

Dywedodd Ms Fitzpatrick, gan fod y bobl yma'n wynebu risg isel neu ganolig, dyw'r mwyafrif erioed wedi trafod beth sydd yn digwydd iddyn nhw, ond maen nhw'n ystyried eu meddygfa fel lle diogel i fod yn agored.

"Dyw rhai o'r bobl yma erioed wedi siarad gyda'r heddlu - mae'n teimlo fel trais sydd wedi bod yn digwydd dros gyfnod hir," meddai.

"Mae hwn yn thema rydyn ni'n gweld yn aml, yn enwedig ymysg pobl h欧n sydd wedi bod mewn perthynas am 40 neu 50 o flynyddoedd a dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw opsiwn arall - dyna'r unig fywyd maen nhw'n ei adnabod."

Ychwanegodd Ms Fitzpatrick, i nifer, mae'r cymorth yn golygu aros yn yr un berthynas ond mewn modd diogel.

"Os wyt ti wedi bod mewn perthynas, a dyna'r unig berthynas rwyt ti wedi ei adnabod am 40 o flynyddoedd, rwyt ti'n gofyn llawer i berson adael yn sydyn a symud i fyw bywyd cwbl wahanol," meddai.

Mae cynllun Iris hefyd yn helpu adnabod menywod sydd wedi cael eu gorfodi i briodi neu wedi dioddef niwed i'w organau cenhedlu - female genital mutilation.

Mwy yn siarad oherwydd Iris

Mae Rebecca Tavender yn arbenigwr trais yn y cartref ac yn gweithio i elusen Calan DVS yn ardal Castell-nedd.

Dywedodd fod cynllun Iris wedi galluogi mwy o fenywod i ddatgelu'r trais maen nhw'n ei ddioddef yn y cartref.

"Ni wedi gweld benywod proffesiynol a benywod h欧n yn siarad am eu profiadau. Yn y gorffennol bydden ni ddim wedi gweld nhw yn dod aton ni yn yr un niferoedd," meddai.

"Yn yr ardal yma, dim ond tair benyw gafodd eu cyfeirio aton ni trwy'r feddygfa yn 2017-18. Ond ers i fwy o bobl dderbyn hyfforddiant Iris, mae dros 70 o bobl wedi dod aton ni eleni.

"Mae hwnna yn dangos i bawb sut mae Iris yn helpu i ymestyn braich i fenywod sy'n dioddef."

Pynciau cysylltiedig