Ymchwiliad i lofruddiaeth ar 么l canfod corff menyw

Disgrifiad o'r llun, Mae presenoldeb enfawr gan yr heddlu ger safle'r digwyddiad

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar 么l i gorff menyw gael ei ganfod mewn t欧 yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i St Anne's Drive yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd tua 14:45 ddydd Sul.

Dywed yr heddlu nad oes modd iddyn nhw enwi'r fenyw ar hyn o bryd.

Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Mae ystafell ddigwyddiad arbennig wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Caerdydd Canolog.

Mae ditectifs eisiau clywed gan unrhyw un yn y pentref a allai fod wedi clywed neu weld "unrhyw beth amheus" rhwng 00:01 ddydd Gwener, 19 Tachwedd a 14:40 ddydd Sul, 21 Tachwedd.

Mae cordon heddlu mawr yn parhau yn yr ardal tra bod ymchwilwyr lleoliadau troseddau a swyddogion chwilio arbenigol yn gweithio.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George: "Yn ddealladwy, mae'r digwyddiad hwn wedi achosi pryder sylweddol yn lleol a hoffwn dawelu meddwl y gymuned bod gennym d卯m mawr o swyddogion sy'n gweithio'n galed i ganfod pwy oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth hon.

"Mae gennym swyddogion yn y fan a'r lle a swyddogion yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws ar draws y pentref."

Fe ddiolchodd hefyd i'r "gymuned leol am eu cefnogaeth hyd yma a rhoi sicrwydd iddynt y bydd presenoldeb mawr yr heddlu yn aros yn yr ardal".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Sam Trask ei fod yn bryderus nad oes unrhyw un wedi ei arestio eto

Dywedodd cynghorydd lleol bod y digwyddiad yn sioc i bobl mewn ardal sydd "fel arfer yn dawel iawn, iawn".

Ychwanegodd Sam Trask, sy'n cynrychioli Llanilltud Faerdref ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ei fod "yn bryder nad oes unrhyw un wedi eu harestio eto".

Dywedodd ei fod yn adnabod y teulu sy'n rhan o'r digwyddiad, a bod gweld swyddogion mewn siwtiau diogelwch wedi ei "boeni'n fawr am beth allai fod yn digwydd y tu 么l i'r drws".

Er hynny, ychwanegodd bod lot fawr o drafod ar wefannau cymdeithasol yn "gwbl anghywir", gan alw ar y cyhoedd i beidio trafod s茂on "cyn bod y ffeithiau'n glir".