Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Defnyddio DNA i adnabod c诺n sy'n ymosod ar ddefaid?
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod - canlyniad ymosodiad ar ddefaid - all beri gofid.
Mae ffermwr o F么n yn dweud iddo wynebu nosweithiau di-gwsg ar 么l i gi ymosod ar ei ddefaid.
Fe gollodd Gareth Hughes o fferm Cleifiog, Y Fali bron i 30 o ddefaid ac 诺yn ym mis Ionawr 2020 ac mae o r诺an yn cefnogi newidiadau posib i'r gyfraith fyddai'n ei gwneud hi'n haws i heddluoedd erlyn y rheiny sy'n gyfrifol.
Dan gynlluniau sy'n cael eu trafod fel rhan o fesur newydd yn San Steffan fe fyddai modd i swyddogion yr heddlu gymryd sampl DNA gan gi sydd wedi ei amau o ymosod ar ddefaid er mwyn dilysu'r honiadau.
Mae uned troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd yn dweud fod "poeni defaid" yn broblem barhaus yng Nghymru a'u bod yn croesawu'r newidiadau posib.
'Gwaed ym mhobman'
Mae Mr Hughes yn dweud iddo gael sioc a braw enfawr pan gafodd ei alw gan ei fugail i'r digwyddiad.
"Ges i phone call gan un o'r hogiau oedd yn gweithio i mi yn dweud, 'sa well i ti ddod yma, 'sa'n well i ti gal y police yma'," meddai.
"Pan nes i gyrraedd, ges i sioc ar fy mywyd, roedd y cae 'mond rhyw chwe acer ac oedd gen i ryw 25-30 o ddefaid, ac oedd ci 'di attackio y defaid a'r 诺yn."
Yn 么l Mr Hughes roedd lot fawr o'r stoc wedi dioddef anafiadau difrifol gyda "gwaed ym mhobman".
"R诺an dwi'n mynd i 'ngwely'n y nos yn gwybod bod y defaid dal yn yr un fferm a meddwl... ydi o'n mynd i ddigwydd eto? Mae o ar fy meddwl bob nos."
Fe gafodd Deddf C诺n (Gwarchod Da Byw) ei chreu ym 1953, yr un flwyddyn a gafodd DNA ei ddarganfod gan Crick a Watson, ac ers hynny does 'na fawr o newidiadau nac addasiadau wedi eu gwneud i'r ddeddf er gwaetha'r datblygiadau gwyddonol a thechnolegol.
Roedd Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys M么n, Virginia Crosbie eisoes wedi cynnig newidiadau i'r ddeddf bresennol mewn mesur newydd.
Ond mae hi r诺an wedi cynnig gwelliannau i Fesur Lles Anifeiliaid Llywodraeth y DU, fydd yn cael ei drafod ymhellach yn y flwyddyn newydd.
Mi fyddai'r gyfraith newydd sy'n cael ei gynnig yn diffinio fod ci "dan reolaeth" pan ar dennyn hyd at 1.8m neu fod gan y perchennog resymau dilys a chyfiawn i gredu fod y ci am ddychwelyd ar alw.
'Gwybod pwy sy'n berchen ar y ci'
"Mewn nifer o sefyllfaoedd, mae'r ffermwr yn gwybod pwy sy'n berchen ar y ci ac o le mae 'di dod," meddai Ms Crosbie.
"Mi fyddai'r mesur newydd yn rhoi rhagor o bwerau i heddluoedd fynd mewn i gartrefi perchenogion c诺n, cymryd sampl ac yna gobeithio pario'r sampl yna gyda'r DNA sy'n weddill ar y da byw sydd wedi ei ddifa."
Ychwanegodd Ms Crosbie fod y mwyafrif o bobl sy'n mynd a'u c诺n am dro yng nghefn gwlad Cymru yn deall y rheolau, ond bod angen rhagor o bwyslais ar addysgu'r unigolion sydd ddim.
Mae'r Cwnstabl Dewi Evans yn un o swyddogion uned arbenigol troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru ers sawl blwyddyn bellach.
Tra bod ymosodiadau fel hyn wedi gostwng ers i'r t卯m hwnnw gael ei sefydlu, mae'n dweud ei bod yn parhau'n broblem enfawr yng nghefn gwlad Cymru, gydag ymosodiadau'n digwydd yn wythnosol.
"Dydy'r term poeni defaid ddim yn cyfleu pa mor ddifrifol ydy'r digwyddiadau yma," meddai.
"Mae'r anafiadau maen nhw'n gallu dioddef yn ddifrifol."
'Datrys mwy o achosion'
Mae'r llu r诺an yn gobeithio y bydd y gyfraith newydd bosib yn eu helpu i erlyn mwy o achosion.
"Mae o'n rhoi t诺l newydd yn ein bocs t诺ls, a'r gobaith ydy y byddwn ni'n gallu datrys mwy o achosion," meddai'r Cwnstabl Evans.
Mae NFU Cymru hefyd yn dweud fod y cynlluniau'n addawol.
Yn 么l ffigyrau swyddogol mae 15,000 o ddefaid yn cael eu lladd gan g诺n ym Mhrydain bob blwyddyn.
Mae sefydliad y Kennel Club hefyd yn croesawu'r cynlluniau newydd, ond yn rhybuddio efallai na fydd yn datrys o broblem o gofio fod "70% o ymosodiadau'n digwydd pan mae ci wedi dianc rhag eu perchnogion neu o erddi".
Mae'r ddeddf a'r gwelliannau r诺an wrthi'n cael eu craffu cyn cael eu cyflwyno am drydydd ddarlleniad yn San Steffan yn y flwyddyn newydd.