Ffrae cinio ysgol: Llawer o'r plant 'yn gallu talu'
- Cyhoeddwyd
Mae llawer o'r disgyblion sydd wedi codi dyledion cinio o fwy na 拢1,800 mewn ysgol yng Ngwynedd yn gallu eu talu ond heb wneud, yn 么l y pennaeth.
Dywedodd Neil Foden ei fod wedi siarad gyda rhieni sydd "yn cyfaddef yn blaen eu bod yn anghofio talu arian mewn i gyfrifon eu plant".
Daw hyn wrth i blant yng Nghanada gyfrannu at ymdrechion i godi arian i ddileu dyledion y disgyblion.
Ond dywedodd Mr Foden ei fod yn bosib bod rhoddwyr wedi "camddeall" y sefyllfa.
Dywedodd pennaeth strategol dros dro'r ysgol y dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwneud rhodd roi arian i fanc bwyd yn lle.
Dywedodd llythyr wrth rieni na fyddai plant yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes yn cael cinio ysgol os oedd ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyled.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am y pryder achosodd y llythyr, ac mae llywodraethwyr wedi cyhoeddi eu bod am adolygu'r system dalu.
Dywedodd Mr Foden, prifathro'r ysgol yng Ngwynedd: "Yn anffodus, rydym ni'n credu fod llawer o'r rheiny sydd mewn dyled yn gallu talu ond heb wneud hynny."
'Pobl caredig wedi camddeall'
Mae tri o frodyr yng Nghanada gyda chysylltiad teuluol i Gymru - Merlin, Kit a Noah - wedi bod yn codi arian i dalu dyledion y disgyblion.
Ar y cyd ag ymdrech cyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle, Tamara Owen, i godi arian, mae 拢600 wedi cael ei gasglu.
"Ni fydd gan teuluoedd ddigon o arian i dalu am y prydau, felly o'n i'n meddwl os oeddwn ni'n codi arian... byddai modd i bobl gael yr arian a bod yn hapus," meddai Merlin, 11.
Dywedodd Tamara Owen, 21, iddi ddechrau codi arian ar gyfer y disgyblion am iddi deimlo "nad oedd llawer yn cael ei wneud" i ddileu dyledion prydau bwyd disgyblion.
Mae'r ymateb i'w hymdrechion wedi bod yn "aruthrol" gyda phobl yn dangos "cymaint o garedigrwydd," meddai Ms Owen.
Ond dywedodd prifathro'r ysgol ei fod yn bosib fod "pobl caredig wedi camddeall sut mae'r ysgol wedi cyrraedd y sefyllfa hyn".
'Talu dyledion y rhai sy'n gallu eu talu'
Dywedodd Mr Foden fod llawer o bobl wedi cysylltu 芒'r ysgol yn dilyn sylw i'r llythyr yn y wasg, gyda "rhai'n greulon a nifer bach yn fygythiol," ynghyd 芒 llawer sydd wedi cynnig rhoddion.
"Mae disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn derbyn arian i'w cyfrifon bob dydd ac felly does dim rheswm i nhw fynd i ddyledion," meddai.
"Felly, fe ddylai'r disgyblion mwyaf difreintiedig dal gael eu bwydo bob dydd.
"I'r rheiny nad sy'n gymwys am brydau am ddim o drwch blewyn ond sydd yn wynebu problemau, si诺r o fod rhai byr-dymor, fe allen nhw gael talebau gan yr ysgol i ddefnyddio'r banc bwyd leol, neu drafod cynllun i leihau'r dyledion gyda'r ysgol."
Ychwanegodd ei fod yn bosib na fyddai'r rhoddion "yn cyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig" ac yn hytrach yn "talu dyledion rhai sydd yn gallu eu talu".
Dywedodd Mr Foden y byddai'r ysgol yn trafod sut i ddatrys y broblem ac ymateb i rhoddion gyda'r awdurdod addysg.
Ond dywedodd y dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud rhodd ystyried rhoi arian i fanc bwyd sydd yn gwasanaethu ardal Dyffryn Nantlle.
Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn "ymwybodol o'r rhoddion caredig sydd wedi cael eu cynnig" ac y byddai'n trafod "y ffordd orau i ymateb" gyda'r ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019