Methiannau Covid 'pryderus' yng Nghanolfan y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg ymgynghorol wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn galw am gau Canolfan Mileniwm Cymru dros dro yn sgil yr hyn mae'n ei alw'n fethiannau "pryderus" i beidio 芒 gorfodi mesurau diogelwch Covid-19.
Fe wnaeth y meddyg, sydd ddim eisiau cael ei enwi, gerdded allan o berfformiad o'r sioe gerdd Grease yn y ganolfan gelfyddydol ym Mae Caerdydd ddydd Iau.
Dywedodd ei fod yn amcangyfrif bod 70-80% o'r gynulleidfa wedi tynnu eu masgiau er bod rheolau'r ganolfan yn datgan y dylen nhw gael eu gwisgo drwy'r adeg.
Yn 么l Canolfan y Mileniwm mae diogelwch y gynulleidfa, ei staff a'r perfformwyr yn flaenoriaeth iddi, ac mae'n gweithio'n galed er mwyn sicrhau fod y safle yn ddiogel.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd llythyr y meddyg at Eluned Morgan AS yn cael ymateb llawn maes o law.
'Pobl yn tagu dros bobman'
Dywedodd y meddyg fod pasys Covid wedi cael eu gwirio gan staff y ganolfan, ond fod y mwyafrif llethol o'r gynulleidfa wedi tynnu eu masgiau yn yr awditoriwm.
"Roedd 'na gynulleidfa fawr yno - yn fy ardal i roedd pob rhes yn llawn. Roeddech chi'n gallu gweld a chlywed pobl yn tagu dros bobman," meddai yn ei lythyr.
"Ar wah芒n i ddau gyhoeddiad yn atgoffa pobl i wisgo mygydau, doedd 'na ddim ymdrech gan y staff na'r gweithwyr diogelwch i orfodi hynny," meddai.
Yn siarad 芒 大象传媒 Cymru dywedodd y meddyg fod ei brofiad yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig wedi ei wneud yn bryderus am y sefyllfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
"Rydw i wedi gweld pobl yn marw gyda Covid, ac roeddwn i yn wael iawn gyda'r feirws," meddai.
"Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn llawn, a gallwn ni ddim fforddio cael digwyddiad mawr ble mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo fel yma.
"Nes i feddwl 'dydw i ddim am eistedd yma am dair awr'. Fe geisiais i godi fy mhryderon gyda'r staff ond fe wnaethon nhw i gyd anwybyddu'r peth."
Mae'r meddyg wedi derbyn ad-daliad llawn am gost ei docynnau.
Mae hefyd wedi gwneud cwyn i Gyngor Caerdydd.
Mae 大象传媒 Cymru'n deall fod y corff sy'n gyfrifol am reolau iechyd cyhoeddus Caerdydd, Pen-y-bont a Bro Morgannwg wedi derbyn rhagor o bryderon am Ganolfan y Mileniwm.
'Mesurau ychwanegol'
Mae gwefan y ganolfan yn dweud fod yn rhaid i ymwelwyr wisgo mwgwd trwy gydol eu hymweliad, oni bai eu bod yn bwyta neu yfed, neu eu bod wedi eu heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb.
Dywedodd pennaeth gweithredoedd Canolfan Mileniwm Cymru, Steven Morris eu bod yn "gweithio'n galed i sicrhau fod y ganolfan yn Covid-ddiogel ac mae ein mesurau'n cyd-fynd 芒 chanllawiau diweddaraf y llywodraeth".
"Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd a'u timau gorfodi, a chyrff swyddogol eraill er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau."
Ychwanegodd fod y ganolfan "wedi gweithredu mesurau ychwanegol er mwyn sicrhau bod unrhyw ymwelydd yn cael ei gadw mor ddiogel 芒 phosib".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i awdurdodau lleol ydy gorfodi rheolau Covid-19.
"Nid yw perygl Covid wedi diflannu ac mae angen i ni oll chwarae ein rhan i gadw Cymru'n ddiogel," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021